Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 6 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr. Mae hi'n hollol glir i ni ym Mhlaid Cymru ein bod ni angen mwy o dai cymdeithasol neu dai cyngor—beth bynnag dŷn ni'n mynd i'w galw nhw, dŷn ni'n gwybod am beth dŷn ni'n siarad. Yn fy ardal i, mae 2,000 o deuluoedd ar y rhestr aros yng Ngwynedd am dai cymdeithasol. Mae fy nghymorthfeydd i'n llawn o bobl sy'n byw mewn amodau annerbyniol, mewn tai rhent preifat, sy'n damp, sy'n rhy fach, sy'n ddrud i'w gwresogi gan greu tlodi tanwydd, neu mae teuluoedd yn dod ataf i sy'n gorfod rhannu cartref efo'u rhieni neu berthnasau neu ffrindiau. Mae gormod o bobl mewn tai sy'n rhy fach i'w hanghenion, ac mae hyn, yn ei dro, yn effeithio ar eu lles cyffredinol nhw ac mae addysg plant y teuluoedd yma'n dioddef.
Dwi'n mynd i ganolbwyntio ar ddwy agwedd y prynhawn yma. Mae gennym ni system gynllunio yng Nghymru sydd yn gweithio o blaid buddiannau datblygwyr tai mawr. Oes, mae angen iddyn nhw ymrwymo i godi ychydig o dai fforddiadwy dan gytundebau 106, a dŷn ni wedi clywed am y rheini yn barod ac fel mae datblygwyr yn gallu dod i ffwrdd o'r ymrwymiad beth bynnag, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n cadw at yr ymrwymiad, ychydig o dai ychwanegol sydd yn cael eu codi yn sgil y cymhwyster yna. Mae angen cyfundrefn gynllunio yng Nghymru sy'n rhoi anghenion lleol—anghenion tai pobl leol yn ganolog i'r polisïau. Mae Plaid Cymru'n ddiweddar wedi mabwysiadu set gynhwysfawr o bolisïau fyddai'n gwneud yn union hynny: yn rhoi'r angen i godi tai addas yn y llefydd addas fel blaenoriaeth.
Yn Ngwynedd, mae'r bobl sydd â'r angen mwyaf am dai yn aml ar gyflogau isel a chyflogaeth ansicr. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhwystr anferth ac yn un na ellir ei oresgyn drwy ddatrysiadau syml, sef jest drwy gynyddu'r cyflenwad o dai yn sylweddol. Mae'n rhaid i'r cyflenwad fod o'r math cywir, ac mae'n rhaid i'r tai fod yn y llefydd cywir.
Mae gormodedd o dai mawr, drudfawr mewn rhai ardaloedd yn golygu bod teuluoedd lleol yn cael eu prisio allan o'r farchnad, ac mae gan hyn, wrth gwrs, oblygiadau i'r iaith Gymraeg yn fy ardal i, wrth i bobl ifanc lleol orfod symud allan. Ar y llaw arall, mae prinder tai o'r math cywir hefyd yn golygu bod pobl leol dan anfantais.
Mae cynnydd mewn nifer ail gartrefi hefyd yn prisio pobl leol allan o'r farchnad mewn nifer cynyddol o gymunedau. Er mwyn ceisio taclo'r broblem yma, mae wyth awdurdod lleol bellach yn codi premiwm treth cyngor ar ail gartrefi. Daeth hyn yn bosib o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Ond, yn anffodus, mae bron i 800 o'r perchnogion ail gartrefi hyn—yng Ngwynedd yn unig—wedi canfod ffordd i osgoi talu unrhyw drethi i'r pwrs cyhoeddus. Maen nhw'n cofrestru eu hail gartrefi fel busnesau bach, ac, yn sgil yr anomali yn y system, does dim rhaid iddyn nhw dalu'r un geiniog o dreth am eu bod nhw'n gallu cael rhyddhad ardrethi busnes. Dwi wedi galw hyn yn sgandal. Dwi wedi bod yn codi'r broblem yma efo'r Llywodraeth ers amser. Dwi yn deall bod yna adolygiad ar y gweill gan y Llywodraeth, a dwi yn gofyn ichi gynnwys yn yr adolygiad yma'r loophole yma, fel ein bod ni yn canfod ffordd o ddatrys y broblem yma.