8. Dadl Plaid Cymru: Adeiladu Tai Cymdeithasol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:40, 6 Mawrth 2019

Wel, mae hynna'n un ffordd. Ers imi godi'r mater yma, mae wedi fy rhyfeddu i faint o bobl sydd wedi cysylltu efo fi ac sydd wedi cynnig gwahanol ffyrdd o ddatrys y broblem. Dŷch chi wedi sôn am un ffordd—mae yna bobl yn cynnig ffyrdd eraill. Mae yna ffordd o sortio hyn allan. Beth sydd angen ydy ewyllys gan y Llywodraeth i sortio'r broblem, a'r Llywodraeth ddylai fod yn arwain y ffordd i ganfod yr ateb. Hyd yma, dydy'r ewyllys yna ddim wedi bod yn amlwg i mi, ond dwi yn gobeithio yn fawr iawn y gallwn ni gael trafodaethau manwl ynglŷn â beth yn union ellid ei wneud.

Mae yna rywbeth yn hollol anghywir mewn sefyllfa lle mae 2,000 o bobl yn byw mewn amodau gwael, tra bod 800 o'r 5,000 o berchnogion ail gartrefi yn yr un sir yn chwarae'r system i'w mantais eu hunain ac yn osgoi talu trethi cyngor. Mi allai'r arian hwnnw—cyfanswm o dros £1 miliwn y flwyddyn—ynghyd â'r premiwm tai cyngor, a fyddai'n dod â miliynau eraill, fod yn gyfraniad pwysig tuag at adeiladu mwy o dai addas i bobl leol yng Ngwynedd.