Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 6 Mawrth 2019.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, er fy mod wedi taflu fy mhapurau dros y llawr yn y modd mwyaf anweddus, felly rwy'n ymddiheuro am hynny. [Chwerthin.] Diolch i chi, Vaughan.
Rydym yn gwbl ymroddedig yn Llywodraeth Cymru i ddarparu tai cymdeithasol gan gynghorau yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Gwyddom fod angen brys am dai ychwanegol ar gyfer rhentu cymdeithasol ledled Cymru. Nid wyf am hollti blew ynglŷn â'r ffigurau. Gwyddom fod angen llawer, a'u bod yn y miloedd ac nid y cannoedd, felly yn hytrach na dadlau ynghylch niferoedd unigol mae'n bendant yn y miloedd, ac yn sicr rydym am gydnabod hynny. I fod yn gwbl glir, mae darparu tai cymdeithasol ychwanegol yn flaenoriaeth sylfaenol i'r Llywodraeth hon, a dyna pam rwy'n hapus iawn i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.
Rwy'n croesawu'r cyfraniadau gan yr holl Aelodau heddiw. Mae pob un ohonom—'y rhan fwyaf ohonom' sydd gennyf wedi'i ysgrifennu yma, ond mewn gwirionedd, rwy'n falch o allu dweud y bydd pob un ohonom yn rhannu'r nod o greu mwy o dai cymdeithasol i'w rhentu. Mae yna gwestiynau pwysig ynglŷn â sut i sicrhau'r cyllid iawn, y cynllun iawn a'r lleoliad iawn, ac yn sicr rwyf wedi bod yn hynod o awyddus i wrando ar y cyfraniadau'n ofalus yn y ddadl heddiw er mwyn nodi'r holl syniadau a gwneud yn siŵr y gallwn eu datblygu. Rwy'n hapus iawn i ddweud nad wyf wedi clywed unrhyw beth yn y ddadl heddiw nad wyf yn hapus i'w gefnogi, a buaswn yn croesawu trafodaethau manwl gyda phob un ohonoch ynglŷn â sut y gallwn ddatblygu rhai o'r syniadau hyn.
Rwyf wedi gweld, a gwn fod pawb yn y Siambr wedi gweld drostynt eu hunain, yr effaith y gall cael man diogel a fforddiadwy o ansawdd da i fyw ynddo ei chael ar rywun, yn enwedig rhywun a allai fod yn agored i niwed neu sy'n cael trafferth i ymdopi â heriau gwahanol o bosibl, ond mewn gwirionedd, yr effaith y gall hynny ei chael ar bawb—mae'n angen sylfaenol, ac rwy'n credu mai Mike Hedges a ddywedodd fod arnom angen bwyd, diod a lle i fyw, ac mae hynny'n hollol gywir.
Gall tai cymdeithasol ddarparu nid yn unig cartrefi o ansawdd, ond y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl gynnal tenantiaeth a ffynnu ynddi. Gall effeithio'n gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl ac addysg, a dyna pam, yng Nghymru, nad ydym erioed wedi symud oddi wrth gymorth ar gyfer tai cymdeithasol, byth ers i'r Cynulliad ddod i fodolaeth, a chyn hynny yn wir. Dyna pam ein bod wedi gosod targed ar gyfer darparu cartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor llywodraeth blaenorol, a llwyddasom i gyrraedd y targed hwnnw, ac rydym wedi ymestyn y targed i 20,000 o gartrefi yn y tymor hwn.
Fel y dywedodd Leanne Wood, mae'r targed o 20,000 yn cynnwys cynlluniau gyda'r nod o helpu pobl i brynu cartrefi, yn bennaf y cynlluniau Cymorth i Brynu a Rhentu i Brynu, ond hefyd mae'n cynnwys cyfran fawr iawn o gartrefi rhent cymdeithasol. Efallai y bydd yn syndod i Leanne Wood weld nad wyf yn anghytuno â fawr o'r hyn a ddywedodd. Rydym wedi cynnwys Cymorth i Brynu oherwydd bod cael mynediad at berchentyaeth wedi dod yn anodd iawn ei gyflawni i lawer o bobl yn y 15 i 20 mlynedd diwethaf. Soniodd David Melding am rymoedd y farchnad yn ysgogi rhywfaint o hynny, a bu'n rhaid inni ymateb i hynny.
Ond cartrefi rhent cymdeithasol yw'r gyfran fwyaf o bell ffordd o'r targed o 20,000, a buaswn yn awyddus iawn i weld y targed hwnnw'n cael ei ymestyn gan fod gennym amodau ychydig yn wahanol ar waith bellach. Rwy'n hyderus y byddwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sydd wedi gwneud buddsoddiad mwy nag erioed o £1.7 biliwn mewn tai yn ystod tymor y Cynulliad hwn, sy'n swm sylweddol ac sy'n cael effaith enfawr ar y cyflenwad o dai cymdeithasol.
Yn 2017-18, cafodd dros hanner y cartrefi fforddiadwy newydd a adeiladwyd yng Nghymru eu darparu drwy grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. Roedd y mwyafrif helaeth o'r rheini yn wir ar gyfer rhent cymdeithasol, ac rydym yn argyhoeddedig mai dyna'r flaenoriaeth gywir. Hefyd, mae angen cyfradd uwch o gymhorthdal cyhoeddus ar gyfer cartrefi rhent cymdeithasol na mathau eraill o dai fforddiadwy, ond maent yn hanfodol er mwyn diwallu amrywiaeth o anghenion tai ar draws ein cymunedau, ac mae hwnnw'n amlwg yn safbwynt a rennir yn y Cynulliad, ac rwy'n falch iawn ynglŷn â hynny.
Gellir gwneud rhai tai'n fwy fforddiadwy i rai pobl drwy roi cymhorthdal ar gyfer tai sydd ar werth, ac mewn gwirionedd, mae ein cynllun Cymorth i Brynu yn wahanol iawn i'r proffiliau a welwch yn Lloegr. Felly, mae llawer mwy ohono ar gyfer prynwyr tro cyntaf—tua 80 y cant, mewn gwirionedd. Yn fwriadol, mae gennym bolisi sy'n caniatáu i bobl gael y tai y maent eu heisiau. Mae pris y tai hynny'n fater diddorol, ac nid wyf yn anghytuno'n sylfaenol â'r hyn roedd Leanne Wood yn ei ddweud ynglŷn â sut i fesur hynny. Ond yr hyn sydd angen inni ei wneud mewn gwirionedd yw adeiladu llawer iawn mwy o dai cymdeithasol. Felly, rydym yn falch iawn o weld bod Llywodraeth y DU wedi dod at ei choed o'r diwedd ac wedi sylweddoli nad yw cael cap artiffisial ar y swm o arian y gallwch ei fenthyg i adeiladu tai yn beth synhwyrol i'w wneud. Credaf y byddai David Melding yn cytuno â mi, mewn gwirionedd, y byddai cael gwared ar y cap er mwyn galluogi cynghorau i fenthyca er mwyn buddsoddi mewn tai yn beth da. Credaf eich bod chi fwy neu lai wedi dweud hynny yn eich araith. Yn amlwg, mae Llywodraeth y DU wedi gweld y goleuni, os mynnwch, ar hynny o'r diwedd.
Felly, rydym yn bwriadu gweithio'n galed iawn gyda'n cynghorau ledled Cymru i adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr, a lle mae'r cyngor wedi allanoli ei stoc dai, i helpu eu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda'u benthyca darbodus.