Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 6 Mawrth 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd y ddadl heno yn canolbwyntio ar ddeiseb a gyflwynwyd gan Stuart Davies, sy'n byw yn etholaeth De Clwyd. Mae'n galw am sicrhau bod pob dyn yng Nghymru yn cael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad. Ceir 6,345 o lofnodion ar y ddeiseb, ac mae'r Pwyllgor Deisebau yn ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno'r ddeiseb hon i'r Cynulliad heddiw, o dan y broses lle mae'r pwyllgor yn ystyried rhinweddau cynnal dadl ar ddeiseb sy'n denu mwy na 5,000 o lofnodion.
Mae'n werth nodi yma mai canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yng Nghymru, gyda mwy na 2,500 o ddynion yn cael diagnosis ohono yng Nghymru bob blwyddyn. Mae deiseb Mr Davies yn galw am sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer sgrinio'r prostad ar gael i bob dyn lle ceir amheuaeth o ganser y prostad. Yn benodol, sgan MRI amlbaramedr yw'r dechnoleg honno, neu mpMRI. Mae'n cyfuno hyd at dri math o sgan er mwyn darparu darlun cliriach o'r chwarren brostad. Mae'n wahanol i sgan MRI arferol, sy'n aml heb fod yn ddigon clir i hwyluso diagnosis hyderus o ganser y prostad ar gam cynnar.
Hyd yma, mae dynion fel arfer wedi gorfod cael biopsi er mwyn gallu gwneud diagnosis o ganser y prostad. Mae'r driniaeth yn ymyrrol ac yn boenus, a gall y sgil-effeithiau posibl gynnwys haint a gwaedu. Gall hefyd fethu canfod hyd at un o bob pump canser y prostad, oherwydd nad yw union leoliad y canser yn hysbys pan gyflawnir y biopsi. Ochr yn ochr â biopsi, mae'r profion mwyaf cyffredin a ddefnyddir ar gyfer gwneud diagnosis o ganser y prostad yn cynnwys prawf gwaed ac archwiliad corfforol o'r prostad.
Canfu astudiaeth a gyhoeddwyd yn Chwefror 2017, astudiaeth o'r enw PROMIS, y gallai defnyddio sgan mpMRI leihau nifer y triniaethau biopsi diangen a gwella'r modd o ganfod canser sy'n glinigol arwyddocaol. Mae'r ddeiseb hon yn galw am fynediad at sganiau mpMRI i bob dyn yng Nghymru fel mater o flaenoriaeth, er mwyn gwella diagnosis a lleihau nifer y dynion sy'n gorfod cael biopsi. Mae Prostate Cancer UK hefyd yn ymgyrchu dros gynyddu mynediad at mpMRI ar draws y Deyrnas Unedig.
Ar hyn o bryd, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE, wrthi'n adolygu eu canllawiau mewn perthynas â diagnosis o ganser y prostad a'r dull o'i drin. Mae'r adolygiad hwn yn cynnwys asesiad o'r dystiolaeth ddiweddaraf, gan gynnwys yr astudiaeth PROMIS. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd NICE ganllawiau drafft newydd ar gyfer ymgynghori. Mae'n cynnwys argymhelliad y dylid defnyddio sganiau mpMRI fel dull cam cyntaf o archwilio ar gyfer pobl yr amheuir bod canser y prostad arnynt, fel y mae'r ddeiseb yn galw amdano.
Mae'r canllaw'n argymell y dylai cleifion ddal i gael prawf gwaed i gychwyn, a defnyddio mpMRI fel dull gwell o ganfod canser sy'n glinigol arwyddocaol mewn dynion yr amheuir bod canser y prostad arnynt. Dywed NICE y gall y sgan helpu clinigwyr i ddeall lleoliad y canser a thargedu'r biopsi'n uniongyrchol, gan leihau'r amser y mae'n gymryd i adnabod y canser yn fanwl a'r angen am biopsïau lluosog. Felly, disgwylir y bydd mwy o ddefnydd o mpMRI yn profi'n gosteffeithiol drwy ei fod yn lleihau nifer y triniaethau biopsi a gyflawnir a'r angen am ragor o driniaeth, gan fod canserau'n fwy tebygol o gael eu canfod a'u hadnabod yn gynharach. Disgwylir i'r canllaw terfynol gael ei gyhoeddi ddiwedd mis Ebrill.
Mae'r deisebydd a Prostate Cancer UK yn dadlau bod y sefyllfa bresennol yn annheg. Mae nifer o ardaloedd eisoes yn cynnig mynediad at sganiau mpMRI. Yng Nghymru, mae byrddau iechyd Cwm Taf ac Aneurin Bevan yn darparu sganiau mpMRI fel mater o drefn ar gyfer dynion yr amheuir bod canser y prostad arnynt. Mae un arall, bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, yn cynnig sganiau MRI cyn-biopsi, ond nid y ddarpariaeth lawn a dargedir gan yr ymgyrch. Mae hyn yn golygu na all cleifion yn y gorllewin, y gogledd a rhannau o dde Cymru gael mynediad at y profion ar hyn o bryd, tra bo cleifion ym Mhowys at ei gilydd yn cael eu cyfeirio i fannau eraill. Mewn ardaloedd lle nad yw'r sganiau ar gael, dywed y deisebydd ei fod ef a dynion eraill y ceid amheuaeth fod canser y prostad arnynt wedi wynebu gorfod talu £900 i gael eu sganio'n breifat. Nododd fod treial wedi'i gyflawni'n flaenorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ond nid yw'r sganiau ar gael ar hyn o bryd o dan y GIG yng ngogledd Cymru.
Ledled y DU, mae Prostate Cancer UK wedi canfod nad yw hanner y dynion yr amheuir bod canser y prostad arnynt yn cael cynnig sganiau mpMRI o'r safon uchaf cyn cael biopsi. Os caiff ei gadarnhau, dylai'r canllaw NICE newydd newid hyn. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi dysgu ei bod yn debygol y bydd nifer o heriau i weithredu hyn yn gyflym yng Nghymru. Yr her fwyaf amlwg yw mynediad at y sganwyr eu hunain. Mae sganiau mpMRI o ansawdd uchel yn dibynnu ar fod sganwyr MRI wedi'u cyflunio mewn modd penodol ac yn gyffredinol, mae gofyn iddynt fod yn llai na 10 oed. Mae'r galw presennol am sganwyr yn her arall bosibl oherwydd y galw uchel am eu defnydd ar draws ystod eang o gyflyrau. Rhwystr pellach o bosibl yw nifer y radiolegwyr, yn enwedig radiolegwyr sydd wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol i allu cofnodi canlyniadau sganiau'n gywir a'u defnyddio i allu dweud yn bendant nad oes canser yn bresennol mewn rhai cleifion.
Mae'r rhain yn heriau y mae byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru yn debygol o fod angen eu hwynebu pan gyhoeddir y canllawiau terfynol gan NICE. Mae'r Gweinidog wedi dweud ei fod yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ystyried canllawiau newydd a newid eu llwybrau gofal yn unol â hynny. Mae hefyd wedi dweud wrth y pwyllgor ei fod yn disgwyl gweld mwy o gysondeb o ran y ddarpariaeth o wasanaethau ar ôl i'r canllaw NICE gael ei ddiweddaru.
Deallwn fod sawl gweithdy eisoes wedi'u cynnal, dan arweiniad bwrdd wroleg Cymru, i asesu'r newidiadau y bydd eu hangen ac i helpu byrddau iechyd i gynllunio ar eu cyfer. Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd nad oes angen i fyrddau iechyd aros am y canllawiau terfynol i benderfynu pa newidiadau sydd eu hangen yn lleol.
Mae'r deisebydd yn pwysleisio fod amser yn brin ac y gallai unrhyw oedi yn y broses hon achosi problemau o ran sicrhau diagnosis i gleifion unigol. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y safonau newydd yn cael eu gweithredu'n gyflym ac i sganiau mpMRI fod ar gael ledled Cymru cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser mae'r deisebydd wedi dadlau y dylai Llywodraeth Cymru ariannu trefniadau dros dro er mwyn sicrhau y byddai'r GIG yn talu i gleifion allu cael mynediad at sganiau preifat er mwyn gwneud yn siŵr fod pob claf a allai elwa o dechnoleg mpMRI yn cael gwneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog ac Aelodau eraill yn dymuno gwneud sylwadau pellach ar y materion hyn drwy weddill y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.