– Senedd Cymru am 4:55 pm ar 6 Mawrth 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 9, sef dadl ar ddeiseb P-05-849, 'Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rowlands.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd y ddadl heno yn canolbwyntio ar ddeiseb a gyflwynwyd gan Stuart Davies, sy'n byw yn etholaeth De Clwyd. Mae'n galw am sicrhau bod pob dyn yng Nghymru yn cael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad. Ceir 6,345 o lofnodion ar y ddeiseb, ac mae'r Pwyllgor Deisebau yn ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno'r ddeiseb hon i'r Cynulliad heddiw, o dan y broses lle mae'r pwyllgor yn ystyried rhinweddau cynnal dadl ar ddeiseb sy'n denu mwy na 5,000 o lofnodion.
Mae'n werth nodi yma mai canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yng Nghymru, gyda mwy na 2,500 o ddynion yn cael diagnosis ohono yng Nghymru bob blwyddyn. Mae deiseb Mr Davies yn galw am sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer sgrinio'r prostad ar gael i bob dyn lle ceir amheuaeth o ganser y prostad. Yn benodol, sgan MRI amlbaramedr yw'r dechnoleg honno, neu mpMRI. Mae'n cyfuno hyd at dri math o sgan er mwyn darparu darlun cliriach o'r chwarren brostad. Mae'n wahanol i sgan MRI arferol, sy'n aml heb fod yn ddigon clir i hwyluso diagnosis hyderus o ganser y prostad ar gam cynnar.
Hyd yma, mae dynion fel arfer wedi gorfod cael biopsi er mwyn gallu gwneud diagnosis o ganser y prostad. Mae'r driniaeth yn ymyrrol ac yn boenus, a gall y sgil-effeithiau posibl gynnwys haint a gwaedu. Gall hefyd fethu canfod hyd at un o bob pump canser y prostad, oherwydd nad yw union leoliad y canser yn hysbys pan gyflawnir y biopsi. Ochr yn ochr â biopsi, mae'r profion mwyaf cyffredin a ddefnyddir ar gyfer gwneud diagnosis o ganser y prostad yn cynnwys prawf gwaed ac archwiliad corfforol o'r prostad.
Canfu astudiaeth a gyhoeddwyd yn Chwefror 2017, astudiaeth o'r enw PROMIS, y gallai defnyddio sgan mpMRI leihau nifer y triniaethau biopsi diangen a gwella'r modd o ganfod canser sy'n glinigol arwyddocaol. Mae'r ddeiseb hon yn galw am fynediad at sganiau mpMRI i bob dyn yng Nghymru fel mater o flaenoriaeth, er mwyn gwella diagnosis a lleihau nifer y dynion sy'n gorfod cael biopsi. Mae Prostate Cancer UK hefyd yn ymgyrchu dros gynyddu mynediad at mpMRI ar draws y Deyrnas Unedig.
Ar hyn o bryd, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE, wrthi'n adolygu eu canllawiau mewn perthynas â diagnosis o ganser y prostad a'r dull o'i drin. Mae'r adolygiad hwn yn cynnwys asesiad o'r dystiolaeth ddiweddaraf, gan gynnwys yr astudiaeth PROMIS. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd NICE ganllawiau drafft newydd ar gyfer ymgynghori. Mae'n cynnwys argymhelliad y dylid defnyddio sganiau mpMRI fel dull cam cyntaf o archwilio ar gyfer pobl yr amheuir bod canser y prostad arnynt, fel y mae'r ddeiseb yn galw amdano.
Mae'r canllaw'n argymell y dylai cleifion ddal i gael prawf gwaed i gychwyn, a defnyddio mpMRI fel dull gwell o ganfod canser sy'n glinigol arwyddocaol mewn dynion yr amheuir bod canser y prostad arnynt. Dywed NICE y gall y sgan helpu clinigwyr i ddeall lleoliad y canser a thargedu'r biopsi'n uniongyrchol, gan leihau'r amser y mae'n gymryd i adnabod y canser yn fanwl a'r angen am biopsïau lluosog. Felly, disgwylir y bydd mwy o ddefnydd o mpMRI yn profi'n gosteffeithiol drwy ei fod yn lleihau nifer y triniaethau biopsi a gyflawnir a'r angen am ragor o driniaeth, gan fod canserau'n fwy tebygol o gael eu canfod a'u hadnabod yn gynharach. Disgwylir i'r canllaw terfynol gael ei gyhoeddi ddiwedd mis Ebrill.
Mae'r deisebydd a Prostate Cancer UK yn dadlau bod y sefyllfa bresennol yn annheg. Mae nifer o ardaloedd eisoes yn cynnig mynediad at sganiau mpMRI. Yng Nghymru, mae byrddau iechyd Cwm Taf ac Aneurin Bevan yn darparu sganiau mpMRI fel mater o drefn ar gyfer dynion yr amheuir bod canser y prostad arnynt. Mae un arall, bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, yn cynnig sganiau MRI cyn-biopsi, ond nid y ddarpariaeth lawn a dargedir gan yr ymgyrch. Mae hyn yn golygu na all cleifion yn y gorllewin, y gogledd a rhannau o dde Cymru gael mynediad at y profion ar hyn o bryd, tra bo cleifion ym Mhowys at ei gilydd yn cael eu cyfeirio i fannau eraill. Mewn ardaloedd lle nad yw'r sganiau ar gael, dywed y deisebydd ei fod ef a dynion eraill y ceid amheuaeth fod canser y prostad arnynt wedi wynebu gorfod talu £900 i gael eu sganio'n breifat. Nododd fod treial wedi'i gyflawni'n flaenorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ond nid yw'r sganiau ar gael ar hyn o bryd o dan y GIG yng ngogledd Cymru.
Ledled y DU, mae Prostate Cancer UK wedi canfod nad yw hanner y dynion yr amheuir bod canser y prostad arnynt yn cael cynnig sganiau mpMRI o'r safon uchaf cyn cael biopsi. Os caiff ei gadarnhau, dylai'r canllaw NICE newydd newid hyn. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi dysgu ei bod yn debygol y bydd nifer o heriau i weithredu hyn yn gyflym yng Nghymru. Yr her fwyaf amlwg yw mynediad at y sganwyr eu hunain. Mae sganiau mpMRI o ansawdd uchel yn dibynnu ar fod sganwyr MRI wedi'u cyflunio mewn modd penodol ac yn gyffredinol, mae gofyn iddynt fod yn llai na 10 oed. Mae'r galw presennol am sganwyr yn her arall bosibl oherwydd y galw uchel am eu defnydd ar draws ystod eang o gyflyrau. Rhwystr pellach o bosibl yw nifer y radiolegwyr, yn enwedig radiolegwyr sydd wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol i allu cofnodi canlyniadau sganiau'n gywir a'u defnyddio i allu dweud yn bendant nad oes canser yn bresennol mewn rhai cleifion.
Mae'r rhain yn heriau y mae byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru yn debygol o fod angen eu hwynebu pan gyhoeddir y canllawiau terfynol gan NICE. Mae'r Gweinidog wedi dweud ei fod yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ystyried canllawiau newydd a newid eu llwybrau gofal yn unol â hynny. Mae hefyd wedi dweud wrth y pwyllgor ei fod yn disgwyl gweld mwy o gysondeb o ran y ddarpariaeth o wasanaethau ar ôl i'r canllaw NICE gael ei ddiweddaru.
Deallwn fod sawl gweithdy eisoes wedi'u cynnal, dan arweiniad bwrdd wroleg Cymru, i asesu'r newidiadau y bydd eu hangen ac i helpu byrddau iechyd i gynllunio ar eu cyfer. Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd nad oes angen i fyrddau iechyd aros am y canllawiau terfynol i benderfynu pa newidiadau sydd eu hangen yn lleol.
Mae'r deisebydd yn pwysleisio fod amser yn brin ac y gallai unrhyw oedi yn y broses hon achosi problemau o ran sicrhau diagnosis i gleifion unigol. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y safonau newydd yn cael eu gweithredu'n gyflym ac i sganiau mpMRI fod ar gael ledled Cymru cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser mae'r deisebydd wedi dadlau y dylai Llywodraeth Cymru ariannu trefniadau dros dro er mwyn sicrhau y byddai'r GIG yn talu i gleifion allu cael mynediad at sganiau preifat er mwyn gwneud yn siŵr fod pob claf a allai elwa o dechnoleg mpMRI yn cael gwneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog ac Aelodau eraill yn dymuno gwneud sylwadau pellach ar y materion hyn drwy weddill y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Mae uned wroleg Ysbyty Maelor Wrecsam yn un o 11 o unedau ledled Cymru a Lloegr a gymerodd ran yn nhreial astudiaeth ddelweddu'r prostad MRI PROMIS i ganfod ffyrdd gwell o wneud diagnosis o ganser y prostad. Dangosodd y canlyniadau nad oedd angen i 27 y cant o'r dynion a gafodd mpMRI negyddol gael biopsi o gwbl, ond yn hollbwysig, cafodd 93 y cant o ganserau ymledol eu canfod drwy ddefnyddio'r sgan mpMRI i gyfeirio'r biopsi, o'i gymharu â dim ond 48 y cant lle gwnaed biopsi prostad uwchsain trawsrefrol—TRUS—yn unig. Pan godais hyn yn y Siambr fis Mawrth diwethaf, dyfynnais gyngor iechyd cymuned gogledd Cymru a groesawodd ymrwymiad y Gweinidog iechyd i ddisgwyl i fyrddau iechyd adolygu eu llwybrau diagnostig i ymgorffori'r sganiau hyn, os câi hynny ei argymell gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal, neu NICE, mewn canllawiau diwygiedig ar ôl Ebrill 2019, ond gan fynegi pryder hefyd y byddai hyn yn rhy hwyr ac y byddai cleifion yng ngogledd Cymru yn parhau i gael eu gadael ar ôl a bod eu trafodaethau gydag wrolegwyr yng ngogledd Cymru yn awgrymu bod angen inni ddatblygu'r gwasanaeth er mwyn paratoi ar gyfer achrediad NICE.
Gan nodi bod canllawiau NICE eisoes yn datgan y dylid ystyried sganiau mpMRI ar gyfer dynion sydd wedi cael biopsi uwchsain trawsrefrol 10 i 12 craidd negyddol i benderfynu a oes angen biopsi arall, cyfeiriais at etholwyr yng ngogledd Cymru a oedd yn bodloni'r meini prawf hyn, ond y bu'n rhaid iddynt dalu tua £900 wedyn i dalu am y sganiau hyn oherwydd nad oeddent yn cael eu darparu neu eu hariannu gan y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru. Ysgrifennodd tri o fy etholwyr at y Gweinidog wedyn i gadarnhau eu bod wedi gorfod talu ac yn datgan eu bod wedi gwylio hyn ac wedi ei weld, rwy'n dyfynnu, 'yn cilwenu a chwerthin ar eu pennau'. Ar ôl codi hyn eto gyda'r Gweinidog iechyd fis Ebrill diwethaf, dywedasant wrthyf ei bod yn amlwg nad yw ei ddatganiad i'r Senedd fod y ddarpariaeth yn GIG Cymru yn cyd-fynd â chanllawiau NICE yn wir, fel y dangosodd eich cwestiwn.
Dywedodd claf arall wrthyf fod y cyhoeddiad fis Mawrth diwethaf gan GIG Lloegr ei fod yn lansio gwasanaeth un stop gan ddefnyddio technegau MRI i chwyldroi triniaeth canser y prostad a thorri'r amser a gymerai i wneud diagnosis yno yn newid sylfaenol ac na ddylai cleifion ledled Cymru gael eu gadael ar ôl. Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd NICE ganllawiau drafft newydd yn argymell mpMRI cyn-biopsi lle ceir amheuaeth o ganser y prostad, gyda'r canllawiau terfynol i ddod y mis nesaf. Ym mis Ionawr, ysgrifennodd y Gweinidog iechyd at yr Aelodau'n nodi ei fod wedi gofyn i bob bwrdd iechyd weithio gyda bwrdd wroleg Cymru er mwyn sicrhau bod ganddynt gynlluniau gweithredu llawn o fewn un mis i hynny. Yn yr un llythyr, dywedodd fod byrddau iechyd wedi cadarnhau eu bod, ar hyn o bryd, yn darparu gofal yn unol â chanllawiau NICE presennol. Ailadroddodd cleifion yng ngogledd Cymru wedyn nad oedd gofal yn cael ei ddarparu yn unol â chanllawiau NICE cyfredol yn eu hachos hwy.
Dywedodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru fod y bwrdd iechyd wedi gwrthod cynhyrchu prawf yn gyson eu bod yn cyflawni unrhyw sganiau ar gyfer dynion gyda lefel gynyddol o antigen penodol y prostad yn dilyn biopsi negyddol, a'u bod yn cyd-drefnu ad-daliadau i'w holl gleientiaid na chafodd sganiau yn unol â chanllawiau 2014. Maent hefyd yn dweud nad yw eu gohebiaeth â'r Gweinidog iechyd yn rhoi unrhyw gysur iddynt y bydd yn ymyrryd os byddant yn gwneud yr un penderfyniad ar y canllawiau mpMRI cyn-biopsi.
Mae noddwr y ddeiseb hon, Stuart Davies, yn datgan y dylid rhoi trefniadau dros dro ar waith yn awr fel nad yw dynion yn peryglu eu bywydau; mai'r gost i'r GIG yn ysbyty Spire Wrecsam yw £365 yn unig er y bydd cleifion yn talu tua £900; a bod dynion sy'n cysylltu â'r ymgyrch yn dweud eu bod naill ai'n aros iddo ddod am ddim neu'n cael benthyciadau i dalu am eu sgan. Fis Rhagfyr diwethaf, bûm mewn cyfarfod gyda Mr Davies, y bwrdd iechyd a'r cyngor iechyd cymuned, lle ymddiheurodd y bwrdd iechyd a chynnig ad-dalu'r arian a dalodd y dynion am eu sganiau. Fodd bynnag, yr wythnos hon, cafodd etholwr lythyr gan y bwrdd iechyd yn dweud, er bod cyngor clinigol presennol yn awgrymu y gall y defnydd o mpMRI diagnostig llawn fod yn fuddiol...nid yw NICE wedi cefnogi hyn eto.
Gan nodi, fodd bynnag, fod NICE bellach wedi cefnogi sganiau mpMRI fel dull archwilio llinell gyntaf costeffeithiol, mae Tenovus Cancer Care wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mpMRI ar gael ledled Cymru, gan ddweud nad yw ar gael yn Betsi Cadwaladr, Hywel Dda na bae Abertawe, ac nid yw ar gael ar lefel safonau PROMIS yng Nghaerdydd a'r Fro. Fel y dywed Prostate Cancer UK, mae mpMRI yn chwyldroi diagnosis canser y prostad, felly gadewch i ni wrando ar yr arbenigwyr sydd â phrofiad byw ohono. Mae'r dynion hyn wedi bod yn dweud y gwir o'r cychwyn cyntaf.
Pan mae hi'n dod at ganser, rŷn ni'n gwybod mai un o'r agweddau pwysicaf er mwyn gwella'r siawns o oroesi ydy sicrhau diagnosis cyflym. Weithiau mae'n haws dweud na gwneud, ond efo canser y brostad yn benodol, mae yna ddull profi sydd wir yn symleiddio ac felly'n cyflymu'r broses o roi diagnosis, a'r prawf hwnnw ydy sgan mpMRI. Does yna ddim modd o gael diagnosis canser y brostad drwy brawf llawfeddygol non-invasive. Er bod prawf PSA ar gael, dim ond adnabod a oes angen profion pellach mae hwnnw. Mae'r profion pellach yn cynnws biopsies ac mae'r rheini'n cael eu gwneud drwy ddulliau llawfeddygol, sy'n brofiad annymunol i'r claf ac yn brofiad mae cleifion yn dymuno'i osgoi os ydy hynny yn bosib. Dydy profion eraill ddim yn gwbl ddibynadwy chwaith. Maen nhw'n gallu methu canser—rhoi'r argraff bod y claf yn glir. Mi allai hynny arwain, wrth gwrs, at y claf yn anwybyddu symptomau a mynd heb eu trin o ganlyniad. Maen nhw hefyd yn gallu awgrymu bod canser yn y corff pan nad oes yna, gan arwain at driniaeth sy'n gallu arwain at sgileffeithiau gydol oes.
Mae'r sgan mpMRI yn cynnig llwybr llawer mwy addawol ar gyfer diagnosis mwy cywir. Yn syml iawn, mae o'n rhoi darlun cliriach o'r hyn sy'n digwydd yn y brostad. Ac mae'r dystiolaeth sydd yn dod i'r amlwg—a dwi'n diolch i Tenovus yn benodol am un briff sydd gen i—yn dangos bod gan sgan mpMRI y gallu i fod llawer mwy sensitif na biopsies eraill wrth adnabod canser clinigol arwyddocaol. Felly, mae o yn llawer llai tebygol o gynhyrchu canlyniadau negyddol ffug. Er hynny, dydy o ddim yn dileu'r posibilrwydd o ganlyniad positif ffug, felly pan fo'r prawf yn adnabod canser posib, mae'n rhaid i'r claf fynd drwy brawf pellach, sef biopsi. Felly, nac ydy, dydy o ddim yn berffaith, ond mae NICE wedi cefnogi'r defnydd o mpMRI fel gwelliant sylweddol ar yr hen system ac wedi cyhoeddi'r canllawiau i'r perwyl hwnnw.
Y cwestiwn, felly, sydd gennym ni o'n blaenau ydy nid o ddeiseb yn galw am rywbeth lle nad ydy'r dystiolaeth ddim yno eto i'w gefnogi fo—rŷn ni'n gofyn: pam fod yna ddim eto fynediad cyson i brofion sydd wedi cael eu profi i fod yn werthfawr yn yr amgylchiadau priodol?
Mae'r ddeiseb ei hun yn nodi'r cyfyngiadau ar bwy a ble yng Nghymru ac ym mha fyrddau iechyd y gellir cael y profion, lle y gwneir defnydd llawn o'r profion, a'r diffyg cysondeb hwn oedd yn arbennig o annerbyniol i'r deisebydd. A hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Stuart Davies a'r rhai a drefnodd y ddeiseb hon am y gwaith a wnaethant yn dwyn y mater i'r Senedd. O ganlyniad i'r ymgyrch, gwn eu bod wedi cael llawer iawn o ohebiaeth gan ddynion eraill sydd wedi methu cael mynediad at sganiau mpMRI o dan y GIG: dynion nad oedd eu meddygon yn ymwybodol eto o bosibl o wir fanteision yr offeryn diagnostig hwn; dynion sydd wedi talu i gael y prawf yn breifat o ganlyniad i hynny; a dynion sydd wedi gorfod benthyca arian er mwyn ariannu'r sgan, gan nad oedd ar gael yn rhwydd iddynt ar y GIG. Ac rwy'n ddiolchgar i Mr Davies am roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi am beth o'r cysylltiad a gafodd â dynion eraill ym mhob rhan o Gymru.
Nawr, mae rhai cleifion yn ardal bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael ad-daliad bellach am y ffioedd preifat a dalwyd ganddynt am sganiau. Roeddent yn ei dalu am eu bod yn gwybod ei fod yn effeithiol. Roedd ganddynt dystiolaeth ei fod yn gweithio. Roedd y dystiolaeth yn eithaf clir fod hwn yn ddull effeithiol, sy'n fy arwain i ofyn yma yn awr: pam fod GIG Cymru, unwaith eto, yma, wedi bod yn araf i fabwysiadu technolegau a thriniaethau newydd lle'r oedd y dystiolaeth yn eithaf clir, ac wedyn, pan roddwyd sêl bendith gan NICE? Y rheswm y cyflwynodd Llywodraeth Cymru y gronfa triniaethau newydd oedd oherwydd na allai GIG Cymru gyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol i sicrhau bod triniaethau newydd ar gael o fewn tri mis i gael cymeradwyaeth NICE. Felly, mae'r pwynt hwnnw wedi ei gyfaddef eisoes, ac rydym ar hyn o bryd mewn sefyllfa lle mae NICE wedi cymeradwyo'r dechnoleg i'w defnyddio ar gyfer gwneud diagnosis ond nid yw'n cael ei wneud ar draws Cymru, felly 'pam?' yw'r cwestiwn.
Felly, i gloi, rydym yn gwybod bod mynediad at brofion diagnostig yn gyffredinol wedi bod yn broblem ers blynyddoedd yma yng Nghymru. Yn fy marn i, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hunanfodlon a heb wthio'r mater hwn. Dyna pam ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi cefnogi'r egwyddor o gyflwyno targedau uwch ar gyfer profion diagnostig, a chafodd hynny ei wrthod dro ar ôl tro. Felly, ni ddylai fod angen y ddeiseb hon. Rydym angen GIG rhagweithiol sy'n gallu mabwysiadu arferion gorau yn dilyn dyfarniad gan NICE, a nodi'r technegau a'r triniaethau newydd sy'n gweithio go iawn i gleifion yng Nghymru, fel mpMRI.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon a diolch yn arbennig i'r deisebydd, Stuart Davies, am gyflwyno'r ddeiseb i'r Cynulliad. Ddoe ddiwethaf bu'n rhaid i fy ngŵr fynychu Ysbyty Castell-nedd Port Talbot am biopsi poenus iawn ar ei brostad. Felly, mae hwn yn bwnc sy'n agos at fy nghalon. Mae'r ffaith y gallai fy ngŵr a channoedd o ddynion tebyg iddo gael llwybr cyflymach a llai poenus gyda llai o risg at ddiagnosis, ond fod hynny'n cael ei wrthod iddynt, yn annerbyniol.
Mae gan MRI amlbaramedr botensial i drawsnewid y llwybr canser y prostad, ond nid yw ar gael i bawb. Gorfodir dynion i dalu dros £1,000 am sgan mpMRI oherwydd nad yw ar gael o dan y GIG yn eu rhan hwy o Gymru. Nid yw fy mwrdd iechyd lleol yn cynnig y gwasanaeth hwn. Pe baem yn byw 15 milltir i'r gogledd-ddwyrain, byddai fy ngŵr wedi cael sgan mpMRI gyda chyferbyneddau deinamig estynedig, a fyddai wedi rhoi'r manylion gorau posibl a mwyaf cynhwysfawr i'w dîm oncoleg am iechyd y prostad. Byddai hyn o bosibl wedi dileu'r angen am y biopsi poenus ac ymyrrol a gafodd ddoe. Gallai fod wedi golygu na fyddai'n rhaid iddo dreulio dyddiau, wythnos neu ddwy efallai, mewn poen tra'i fod yn gwella. Efallai y gallai fod wedi osgoi'r angen i fyw gyda sgil-effeithiau'r moddion gwrthfiotig pwerus y bu'n eu cymryd, ac y bydd yn parhau i'w cymryd, i osgoi'r bygythiad o sepsis.
Dros y ffin yn Lloegr, mae'r GIG wedi ei gwneud hi'n orfodol i fabwysiadu MRI amlbaramedr erbyn 2020. Rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd yng Nghymru, ond mae'n araf oherwydd diffyg radiolegwyr hyfforddedig. Rwy'n croesawu'r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi tuag at wella'r ddarpariaeth MRI ledled Cymru, yn ogystal â sefydlu Academi Ddelweddu Cymru. Ond nid yw hyn yn helpu heddiw. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau'r defnydd mwyaf posibl o'n capasiti MRI. Lle na all bwrdd iechyd gynnig mpMRI gyda chyferbyneddau deinamig estynedig, dylai atgyfeirio at fyrddau iechyd eraill neu'r sector preifat. Ni ddylid gorfodi dynion i ddod o hyd i £1,000 i ariannu sganiau MRI preifat oherwydd eu bod yn digwydd byw mewn rhan o Gymru nad yw'n cynnig y llwybr canser y prostad chwyldroadol hwn. Gwasanaeth iechyd gwladol sydd i fod gennym, nid saith gwasanaeth iechyd rhanbarthol. Rhaid rhoi terfyn ar y loteri cod post heddiw. Rhaid inni gynnig y llwybr triniaeth gorau, cyflymaf a mwyaf effeithiol sydd ar gael heddiw. Rwy'n cefnogi'r ddeiseb a'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i wneud yr un peth. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddweud faint yw fy ngwerthfawrogiad o'r broses o gyflwyno deiseb? Yn y Cynulliad hwn, mae gennym Bwyllgor Deisebau arbennig o gryf a deisebau diddorol iawn yn cael eu cyflwyno. Rwy'n llongyfarch y ffordd yr amlinellodd David yr achos mewn modd grymus iawn. Mae'n iawn ein bod yn trafod y materion hyn y mae ein hetholwyr yn teimlo eu bod yn arbennig o bwysig a gofyn i'n hunain a ydynt wedi gweld rhywbeth mewn ymarfer cyfredol neu batrwm gwasanaeth y mae gwir angen rhoi sylw iddo.
Yr hyn sy'n fy nharo yw y gall fod rhywfaint o ddiffyg cysylltiad os nad ydym yn defnyddio'r technegau diagnostig mwyaf cyfredol ac sydd ar gael yn rhwydd, a goresgyn rhwystrau dyrys canlyniadau negyddol anghywir, canlyniadau positif anghywir, fel y dywedodd Rhun, a thriniaeth biopsi pur anghyfforddus, a phoenus o bosibl. Felly, credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn ceisio symud ymlaen ac yn bod yn gyson, yn enwedig pan fo cymaint o ymgyrchu cyhoeddus, er tegwch i'r Llywodraeth, allan yno i fod yn ymwybodol o'ch corff, i fod yn ymwybodol o rai o'r newidiadau a all fod yn digwydd, ac yna i gael profion.
Felly, o ran ein hymgysylltiad ni â'r cyhoedd, a dweud pam ein bod yn caniatáu dulliau penodol ond nid rhai eraill, ac yn enwedig pan fo'n dameidiog, fel y byddwch yn cael y dechnoleg MRI ddiweddaraf os ydych yn byw mewn rhan benodol o Gymru, ond nid mewn man arall, credaf fod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â hynny.
Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni gael rhyw fath o asesiad a datganiad ar sgrinio yn gyffredinol mae'n debyg, gan fod y cyhoedd yn cael negeseuon go gymysg weithiau ynglŷn â'i effeithiolrwydd a'r rôl y mae NICE wedi'i chwarae. Rydych yn cael eich annog i ofalu amdanoch eich hun a bod yn effro i unrhyw newid, ond wedyn nid yw'n eglur bob amser beth ddylai ddilyn wedyn. Roedd yn fy atgoffa o'r polisi sydd gennym ar sgrinio'r coluddyn. Ar hyn o bryd, caiff y pecynnau profi eu hanfon i unrhyw un rhwng 50 a 74 sydd eu heisiau, ond pan fyddwch yn cyrraedd 75 oed, daw i ben. Gofynnodd etholwr imi pam oedd hyn yn digwydd, a cheisiais ddarganfod y rheswm pam, ac nid oedd yn ymddangos yn glir iawn i mi fod yna reswm hollbwysig pam fod hynny'n digwydd.
Felly, credaf fod darlun mwy cynhwysfawr o sgrinio—. A nodir effeithiolrwydd sgrinio ar gyfer cyflyrau canser eraill hefyd weithiau. Gyda gwyddoniaeth feddygol yn datblygu, ceir mwy a mwy o offer ar gael i ni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi sylw i'r pryderon a godwyd, ac y bydd yn rhoi'r claf yn gyntaf: gwybodaeth glir, ac yna gwasanaethau diagnostig cyflym sydd mor dda ac mor gyfforddus â phosibl. Rwy'n credu ei fod yn wirioneddol bwysig oherwydd, fel y clywsom, mae'r prognosis yn gwella'n aruthrol po gynharaf y canfyddir y canserau hyn. Felly, unwaith eto, credaf y dylem fod yn ddiolchgar iawn i'r gŵr bonheddig a gyflwynodd y ddeiseb hon, ac i'r gwaith da y mae'r Pwyllgor Deisebau yn ei wneud yn mynnu ein bod yn dadlau ynglŷn â'r materion hyn yn y Siambr. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwr a'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r mater hwn ar gyfer y ddadl y prynhawn yma? Ar y cychwyn, hoffwn gydnabod effaith canser y prostad, yn gorfforol ac yn emosiynol, ar ddynion a'u teuluoedd. Hefyd rwy'n cydnabod bod rhai o'r profion diagnostig, fel y clywsom, megis biopsïau, yn gallu bod yn annifyr ac ychwanegu at y pryder a'r straen y mae dynion eisoes yn ei brofi. Rwyf wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth gan Aelodau, cleifion, teuluoedd a chlinigwyr am argaeledd neu fel arall y prawf a elwir yn mpMRI cyn-biopsi. Nawr, rydych wedi clywed beth yw hwnnw sawl gwaith yn ystod y ddadl heddiw, felly nid wyf am ailadrodd y manylion ynglŷn â beth yw delweddu cyseinedd magnetig amlbaramedr, ond wrth gwrs—gwnaed y pwynt hwn droeon—mae'n gyfle diagnostig llai ymyrrol na'r prawf diagnostig safonol a argymhellir ac sydd ar gael ar hyn o bryd. Nawr, o gofio bod y posibilrwydd o brawf llai ymyrrol a mwy cywir ar y gorwel yn llythrennol—ddyddiau i ffwrdd, ac rydym yn disgwyl i NICE gadarnhau hynny—mae'n gwbl ddealladwy fod pobl am weld y weithdrefn honno ar gael cyn gynted â phosibl ar draws Cymru.
Hefyd rwy'n deall yn iawn pam y ceir pryder ynghylch argaeledd presennol y prawf rhwng gwahanol fyrddau iechyd. Mae'r treialon cychwynnol a gynhaliwyd, gan gynnwys yma yng Nghymru, yn cynnwys rhai yng ngogledd a gorllewin Cymru, wedi bod yn gadarnhaol, gan ddangos effeithiolrwydd mpMRI, ac mae'r cyhoedd a'r clinigwyr wedi'u calonogi, ac eisiau ei weld yn cael ei gyflwyno hefyd. Fel y clywsom, ar sail y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg a'r canllawiau drafft a gyhoeddwyd gan NICE ym mis Rhagfyr y llynedd, mae rhai byrddau iechyd yng Nghymru yn dechrau darparu'r prawf eisoes. Wrth gwrs nid yw'n anarferol i driniaethau newydd gael eu treialu mewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth iechyd, ond rwy'n deall pam fod hynny'n peri pryder yn y rhannau o Gymru lle nad yw'r prawf ar gael yn rheolaidd eto. Ond mae yna bwynt, pan ystyriwn bob cynnydd posibl ym maes gofal iechyd, ynglŷn â beth a wnawn fel system gyfan, ac wrth wneud penderfyniadau, ac ystyried y dystiolaeth ar gyfer yr ymyrraeth orau a cheisio mabwysiadu ymagwedd genedlaethol gyson tuag at ei ddarparu pan fo'r sylfaen dystiolaeth honno'n gadarn ac wedi'i derbyn. Felly, mae NICE wedi ymrwymo i gyhoeddi eu canllawiau diwygiedig ym mis Ebrill. Cyn hynny, fel y clywsom—ac rwy'n falch fod hyn wedi'i gydnabod—rwyf wedi cyfeirio GIG Cymru, drwy'r bwrdd wroleg, i weithio drwy a chytuno'r consensws clinigol hwnnw. Ac rydych wedi gweld, o'r ohebiaeth a roddais i'r Pwyllgor Deisebau ac eraill, fod hynny'n cael ei baratoi ar gyfer rhoi'r canllawiau ar waith. Nid ydym yn aros; nid ydym yn cicio'n sodlau ac yn aros tan rywbryd ym mis Ebrill pan ddisgwyliwn y bydd canllawiau terfynol ar gael.
Ac mae'n hanfodol nad yw'r bwrdd wroleg wedi'i gyfansoddi o weision sifil, nad yw wedi'i lunio o bobl rwy'n eu cyfarwyddo o ran yr hyn y gallant neu y dylent ei wneud; mae'r bwrdd wroleg wedi'i gyfansoddi o gynrychiolwyr clinigol ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru, a cheir cytundeb ynglŷn â sut y bydd GIG Cymru—nid os, ond sut y bydd GIG Cymru—yn pontio o'r dulliau diagnosis presennol i un sy'n cynnwys y prawf mpMRI. Ond nid yw cyflwyno elfen newydd i'r llwybr gofal byth yn mynd i fod yn fater mor syml ag y caiff ei ddisgrifio weithiau. Bydd yna bob amser nifer o bethau i'w datrys. Rhaid edrych ar ffactorau megis y capasiti delweddu, fel y gweithlu a hyfforddiant, a mynd i'r afael â'r materion hyn a'u cyflawni. Rwyf bob amser wedi bod yn glir ac wedi datgan ar goedd sawl gwaith, os yw NICE, fel y mae pawb ohonom yn ei ddisgwyl, yn argymell mpMRI cyn-biopsi, yna rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd newid eu llwybrau yn unol â hynny.
Mae'r gwaith a wneir gan fwrdd wroleg Cymru yn cynorthwyo ein gwasanaeth iechyd i fod mewn sefyllfa i allu darparu'r profion hyn yn gyson ac yn deg yn unol â'r dystiolaeth. Bydd hynny'n ein helpu i sicrhau gwell profiad a chanlyniadau mewn gofal fel y mae pawb ohonom am ei weld ym mhob rhan o Gymru. Rwy'n hapus i gadarnhau'r ymrwymiadau rwyf eisoes wedi'u rhoi i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer yr Aelodau maes o law ar y cynnydd a wnaed ac ar y targedau sydd gennym ac amserlenni i wneud yn siŵr fod y gwasanaeth a'r prawf y disgwyliwn iddo gael ei argymell ar gael ledled y wlad.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Ac os caf fynd drwy ychydig o'r pwyntiau a wnaeth rhai ohonynt, nododd Mark Isherwood y canlyniadau gwell a geir gan sganiau mpMRI na'r hyn a geir gan sganiau MRI arferol, a dywedodd nad oedd digon o ddata'n cael ei ddarparu gan y byrddau iechyd, yn enwedig yng ngogledd Cymru.
Nododd Rhun ap Iorwerth yr angen i adnabod canser—fel y mae pawb ohonom yn deall—mor gynnar ag y bo modd ac mae llawer o'r profion amgen yn lle mpMRI yn israddol iawn i'r sgan mpMRI ei hun. A gofynnodd y cwestiwn: pam nad yw'r profion ar gael fel mater o drefn?
Rhoddodd Caroline Jones dystiolaeth bersonol ynghylch effaith y profion eraill ymyrrol ar gyfer canser y prostad a'r effeithiau y gallent eu cael ar deuluoedd. A nododd y gwahaniaethau a'r anghysondeb rhwng ardaloedd yng Nghymru, lle mae un math o brawf ar gael ac nid un arall.
Holodd David Melding eto pam nad ydym yn defnyddio technoleg ddiagnosis o'r radd flaenaf lle bynnag a phryd bynnag y bo modd yng Nghymru. A gofynnodd am y dulliau, a hefyd holodd am y gwahaniaeth rhwng rhanbarthau.
Os caf ddod at y Gweinidog a'i gydnabyddiaeth o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd, yn gyntaf oll, cydnabu effaith canser y prostad, ac mae pawb ohonom yn deall hynny. I ddynion fy oed i, mae'n un o'r hunllefau hynny sy'n ein hwynebu, mae'n debyg, yn ddyddiol—y gallai ddigwydd i unrhyw un ohonom. Cytunodd hefyd fod mpMRI yn llai ymyrrol, a chredaf iddo gydnabod yn ogystal ei fod yn ffordd well o'i wneud na thrwy biopsi. Soniodd am brofion a chreu cronfa ddata a fyddai'n cadarnhau effeithiolrwydd triniaethau newydd, a gallwn i gyd ddeall bod hynny'n wir, ond rwy'n credu bod digon o dystiolaeth ar gael i ddangos bod mpMRI yn ffordd lawer gwell o benderfynu a oes canser y prostad ar rywun, a buaswn yn annog y Gweinidog i wneud yn siŵr fod pob un o'n hawdurdodau iechyd lleol, cyn gynted â phosibl, yn defnyddio mpMRI yn eu triniaethau. Rwy'n cydnabod bod yna broblem gydag addysgu pobl i allu defnyddio'r diagnosis y gallai'r mpMRI ei roi mewn modd priodol, ac mae honno'n broblem, ac mae'n bur bosibl y bydd oedi wrth gael y bobl hynny wedi eu hyfforddi ac yn eu lle.
Felly, a gaf fi ddiolch eto i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl ac i'r deisebydd, unwaith eto, am gyflwyno'r ddeiseb? Rwyf am orffen drwy ddiolch i Stuart Davies a'r rhai a lofnododd y ddeiseb am ddod â'r mater i sylw'r Cynulliad drwy'r broses ddeisebau, a bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb eto yng ngoleuni'r cyfraniadau a wnaed yn ystod y ddadl y prynhawn yma, ac ymateb y Gweinidog iddi wrth gwrs. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.