– Senedd Cymru am 2:55 pm ar 12 Mawrth 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i goedwigaeth. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae ein polisi adnoddau naturiol yn nodi ein cynlluniau i ymdrin â'r heriau sy'n wynebu ein hamgylchedd ac fe hoffwn i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y gwaith yr ydym ni'n ei wneud o fewn hyn i gefnogi coedwigaeth yng Nghymru.
Mae ein coedwigoedd yn rhan bwysig o'n tirwedd naturiol. Maen nhw'n ased cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae angen coetiroedd amrywiol bach a mawr arnom ni sy'n cynnwys rhywogaethau coed conwydd a llydanddail sy'n gallu darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, megis gweithgareddau hamdden, cynefinoedd naturiol ac adnodd cynaliadwy o dannwydd a choed. Mae ehangu coetiroedd yn elfen hanfodol i'n helpu i gyrraedd ein targedau lleihau allyriadau statudol. Mae hi'n hanfodol felly ein bod yn cynyddu ein storfa garbon trwy ein gweithgareddau creu coetiroedd.
Rydym ni wedi defnyddio arian y cynllun datblygu gwledig ar gyfer amrywiaeth o gynlluniau sy'n hwyluso'r gwaith o gyflawni amcanion ein strategaeth goedwigaeth, ac mae ein cynllun rheoli cynaliadwy yn un ohonynt. Mae'r cynllun yn darparu cefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o gynigion a fydd yn gwella'r ffordd y caiff ein hadnoddau naturiol eu rheoli a chyfrannu at les ein cymunedau gwledig. Mae chwe phrosiect sy'n gysylltiedig â choedwigaeth wedi'u cymeradwyo ar gyfer arian drwy'r cynllun, a fydd yn cyfrannu at gyflawni llawer o'r amcanion yn ein blaenoriaethau polisi a strategaeth yn y polisi adnoddau naturiol.
Yn dilyn argymhelliad gan ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i'r maes coedwigaeth, fe wnaethom ni addasu ein strategaeth goetiroedd. Mae'r hanfodion wedi aros yr un fath ond nid yw bellach yn ddogfen bolisi yn unig. Mae'n ddogfen ymarferol sy'n rhoi cyfeiriad i'r rheini sy'n rheoli coetiroedd mewn ffordd gynaliadwy i sicrhau'r manteision gorau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflymu'r broses o greu coetiroedd, ac mae ein strategaeth sydd wedi'i diweddaru yn rhoi arweiniad ar y mathau o goed a choetiroedd sydd eu hangen arnom ni yng Nghymru a chyfeiriad clir i reolwyr coetiroedd. I ategu hyn, rydym ni ar hyn o bryd yn paratoi canllawiau creu coetiroedd ar gyfer rheolwyr tir, busnesau, a Cyfoeth Naturiol Cymru fel y rheoleiddiwr er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau gwell a chyflymach ynglŷn â pha goed i'w plannu a lle i'w plannu.
Er mwyn datblygu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu arwynebedd coetiroedd newydd yng Nghymru, yn ogystal ag ymrwymiad Prif Weinidog Cymru i greu coedwig genedlaethol newydd ar gyfer Cymru, bydd cylch arall o gyllid Glastir ar gyfer creu coetiroedd yn agor ar 1 Ebrill. Mae arian hefyd ar gael ar gyfer plannu coed mewn ardaloedd sy'n parhau i gael eu pori fel rhan o system amaeth-goedwigaeth.
Rydym ni eisoes wedi ymrwymo £480,000 tuag at ein Cynllun Cydweithio i Gynllunio Coedwigaeth yn benodol i bobl a chwmnïau cydweithredol weithio gyda'i gilydd a chynllunio creu coetiroedd ar raddfa sylweddol a strategol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, drwy gefnogi camau gweithredu cydgysylltiedig a chydweithredol ar y raddfa briodol, y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i wella'r gwasanaethau y mae ein hadnoddau naturiol yn eu darparu.
Wrth gwrs, nid dim ond plannu coed newydd sy'n bwysig, ond hefyd rheoli, gwarchod a datblygu coetiroedd sy'n bodoli eisoes. Mae coed hynafol a hynod yn adnoddau naturiol amhrisiadwy, gyda rhai ohonyn nhw yn eithriadol o werthfawr o ran tirwedd, bioamrywiaeth a diwylliant. Rwy'n falch felly bod Rhifyn 10 o'n canllawiau newydd 'Polisi Cynllunio Cymru' yn rhoi mwy o ddiogelwch iddynt, yn ogystal â hyrwyddo plannu cydadferol ar gyfer unrhyw goetiroedd sy'n cael eu colli o ganlyniad i ddatblygu.
Mae hi yn bwysig cydnabod y gall fod rhai heriau gwirioneddol i dirfeddianwyr o ran rheoli coedwigoedd presennol yn enwedig os, mewn hinsawdd sy'n newid, bydd cynnydd mewn clefydau coed a allai gael effaith ddinistriol ar eu coetiroedd. Am y rheswm hwn, mae arnaf eisiau sicrhau ein bod yn cefnogi tirfeddianwyr a rheolwyr preifat sydd ar hyn o bryd yn wynebu'r clefyd phytophthora ramorum ar goed llarwydd. Felly, byddwn yn agor ffenest newydd ar gyfer ceisiadau i adfer coetiroedd drwy'r cynllun Glastir o 1 Ebrill. Bydd Aelodau'n ymwybodol fod y clefyd wedi bod yn her na welwyd ei thebyg ar yr ystad gyhoeddus, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb yn dda. Lle bu angen torri coed, rydym ni'n ailblannu rhywogaethau mwy gwydn er mwyn datblygu coetiroedd iachach a mwy amrywiol. Bydd y rhain yn darparu mwy o amrywiaeth o goed i gynhyrchu coetiroedd a fforestydd Cymreig o ansawdd uchel, yn ogystal â lleihau pa mor agored i glefyd y byddant yn y dyfodol.
Nid yw coedwigaeth yn dda i'n hamgylchedd a'n lles yn unig, mae hefyd yn dda i'n heconomi. Gall coetiroedd wedi'u rheoli'n dda ddarparu cyflenwad cynaliadwy, parhaus o goed, a dyna pam ein bod ni eisiau annog rheoli ein coetiroedd presennol yn well ledled Cymru. Rydym ni eisoes wedi ymrwymo £5 miliwn o gyllid y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer ein cynllun poblogaidd iawn o fuddsoddi mewn busnesau coed, ac rydym ni wedi ymrwymo £2 filiwn arall ar gyfer pedwaredd gyfres o ariannu, y gwnaethom ni ei hagor ar gyfer datganiadau o ddiddordeb ar Chwefror 1. Mae'r cynllun yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer gwelliannau sy'n ychwanegu gwerth at goedwigoedd ar gyfer gweithgareddau rheoli coetiroedd, cynaeafu coed a phrosesu coed.
Caiff y coed o ansawdd uchel yr ydym ni'n eu cynhyrchu eu defnyddio mewn sawl ffordd. Rwy'n falch, felly, bod elfen goed i 20 o'r 24 datblygiad a gafodd eu derbyn i raglen dai arloesol Llywodraeth Cymru y llynedd. Rydym ni'n disgwyl gweld mwy o arloesi yn seiliedig ar goed yn y rhaglen eleni, nid yn unig o ran adeiladu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy'r dyfodol, ond o ran hyrwyddo arloesi sy'n ymwneud â defnyddio coed Cymreig yn y cadwyni cyflenwi sy'n cefnogi adeiladu tai yma yng Nghymru.
Bydd cynyddu'r defnydd o goed yn creu galw ac yn annog creu coetiroedd newydd a rheoli coedwigoedd yn well yng Nghymru. Gan edrych i'r dyfodol gyda'r cynnydd hwn mewn cof, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid o'r sector coedwigaeth i weld pa sgiliau ac anghenion recriwtio sydd eu hangen i gefnogi cynnydd yn y galw am goed, ac rydym ni wedi cyflwyno cynllun arbrofol dwy flynedd ar gyfer hyd at 30 o brentisiaethau coedwigaeth.
Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â chynrychiolwyr Cydffederasiwn y Diwydiannau Coedwigaeth. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf i eu bod yn barod i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, ac yn ffyddiog bod atebion clir i'r pryderon y maen nhw wedi eu crybwyll yn y gorffennol. O ganlyniad, byddwn mewn sefyllfa gryfach i weld y sector coedwigaeth yn cyflawni hyd yn oed mwy o werth i economi Cymru, a gall y diwydiant wneud cyfraniad mwy at ddiogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol.
Yn amlwg, Gweinidog, chi'n yw'r Gweinidog perthnasol heddiw, gyda dau ddatganiad yn dod gerbron y cyfarfod llawn, felly byddwn yn gweld llawer o'n gilydd wrth i'r prynhawn fynd rhagddo. Yn anffodus, nid oes gan y sector coedwigaeth hanes gwych yma yng Nghymru. Dylai fod â hanes gwych, oherwydd mae'n ddiwydiant anferth—mae'n cyflogi 10,000 o weithwyr ac mae ganddo drosiant o £520 miliwn. Mae hynny, ar unrhyw gyfrif, yn ddiwydiant sylweddol, yn enwedig mewn economi wledig sy'n galw'n daer am gyfleoedd newydd. Ond, yn anffodus, oherwydd mentrau methedig gan Lywodraethau olynol yng Nghymru, nid ydym ni wedi gweld y mentrau yn dod ymlaen i adfywio'r sector. Rwy'n credu efallai bod paragraff olaf y datganiad hwn yn dangos hynny gyda'r cyfarfod diweddar a gawsoch chi gyda'r diwydiant, sy'n dweud eu bod yn 'barod i weithio gyda', sy'n rhywbeth i'w ganmol, ond nid yw'n cynnig unrhyw sylwadau ynglŷn â pherfformiad yn y gorffennol, y mae'r distawrwydd mae'n debyg yn dweud ei stori ei hun.
Bu gan Lywodraeth Cymru fentrau amrywiol dros y blynyddoedd blaenorol, h.y. sefydlu 100,000 o hectarau rhwng 2010 a 2030. Fel y gwyddom ni o'r gwaith sydd wedi'i wneud, yn lle cyrraedd y targed o 5,000 o hectarau'r flwyddyn, dim ond cyfanswm o 3,700 o hectarau a gafodd eu plannu yn yr amser hwnnw. Yn 2016, plannwyd dim ond 39 o hectarau o goedwigoedd cynhyrchiol yma yng Nghymru. Mewn difrif, mae'n rhaid inni wneud hyn yn iawn, ac yn benodol mae'n rhaid i chi, y Gweinidog, afael yn y busnes gerfydd ei wâr a gweithio gyda'r diwydiant fel y gallwn ni adeiladu ar y niferoedd hynny y cyfeiriais atyn nhw—ar y 10,000 o weithwyr a'r trosiant o £520 miliwn. Oherwydd ei fod yn ddiwydiant gyda dyfodol—nid diwydiant mo hwn lle ceir bwriad i'w reoli tuag at ddirywiad. Ceir llawer o enghreifftiau da yn yr Alban, er enghraifft, ac yn Lloegr, lle mae'r sector coedwigaeth wedi datblygu seiliau mwy cynaliadwy. Yn anffodus, gallwn gyfeirio, yn amlwg, at yr adroddiadau ynglŷn ag ymdriniaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o asedau'r Comisiwn Coedwigaeth gan eu cymhathu i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r contractau a ddygwyd ymlaen o gytundebau masnachol amrywiol sydd wedi amddifadu'r sector o incwm, oherwydd, fel yr amlygodd yr archwilydd cyffredinol, ac, fel yr amlygodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei ymchwiliad, mae hynny wedi deillio o arfer gwael a cholli incwm i'r sector.
Rwy'n gwerthfawrogi'r anawsterau o ran y coed llarwydd a'r difodiant a'r amgylchiadau annisgwyl pan, bump neu 10 mlynedd yn ôl, dyweder, pan yr oedd cynlluniau strwythurol yn cael eu rhoi ar waith, ni fyddai'r mathau hyn o achosion wedi croesi meddwl cynllunwyr ar yr adeg benodol honno. Ond nid yw hynny'n dweud na fu colli cyfleoedd. Rwy'n galw ar y Gweinidog i edrych ar—pe byddai'n ateb y cwestiwn hwn yn uniongyrchol—ar wneud ceisiadau'n fwy hyblyg o ran y rhai y gellid eu caniatáu ar gyfer plannu coetiroedd. Yn Lloegr, er enghraifft, yn hytrach na chael ffenestri o gynnig ac ymgeisio, mae'n broses barhaus, oherwydd, yn amlwg, drwy'r broses gynllunio, ni all cwmnïau, a ffermwyr, yn arbennig, sydd efallai yn ystyried trawsnewid eu tir, gael eu cyfyngu gan ryw ffenest weinyddol. Mae angen cymaint o hyblygrwydd â phosib arnyn nhw yn y rheolau cynllun, a byddwn yn ddiolchgar cael deall a fydd y Gweinidog yn ystyried yr hyblygrwydd hwnnw yn y cynllun newydd a gyhoeddwyd ganddi, yn amlwg, y bydd hi yn ei ryddhau ar 1 Ebrill.
Yn yr un modd, y diffyg plannu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru—fel rwy'n deall, mae'r diffyg bellach yn rhyw 6,000 o hectarau o ailblannu ar ystad Cyfoeth Naturiol Cymru, ac er bod datganiad y Gweinidog yn nodi ei ffydd o ran Cyfoeth Naturiol Cymru ac o ran eu gallu i greu ystad fwy cymysg a chyfleoedd plannu mwy cymysg fel bod modd gwireddu'r potensial masnachol yn y 10, 15, 20 mlynedd nesaf, mae'n ffaith nad yw cyfraddau ailblannu'r hyn y dylen nhw fod. Pe byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwmni preifat, byddid wedi gweithredu yn eu herbyn am beidio ag ailblannu yn yr ardaloedd hynny. Felly, unwaith eto, hoffwn gael gwybod gan y Gweinidog, gyda'i hystyriaethau dros y ddeufis diwethaf, a yw hi'n ffyddiog y bydd y diffyg hwn yn cael sylw ac y bydd y 6,000 o hectarau hyd yma yn cael ei wrthdroi ac, mewn gwirionedd, y bydd ailblannu yn cyflymu?
Hefyd, dyna'r mater ynghylch rheoli ein coetiroedd hefyd, ac, o dan y model Glastir presennol, nid oes cyfle i gael arian ar gyfer rheoli, fel y deallaf, yn y cynllun. Ar hyn o bryd, o'r 300,000 o hectarau o goedwigoedd Cymru, nid yw 60,000 o hectarau wedi'u rheoli. Mae cyfle i edrych ar reoli i raddau mwy o lawer y coedwigoedd sydd gennym ni a'r coetiroedd sydd gennym ni fel y gallwn ni sicrhau'r manteision gorau. Ac, unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn nodi a yw hi neu ei swyddogion wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gefnogi cynnwys y 60,000 o hectarau hynny sydd heb eu rheoli mewn rhyw fath o gynllun coedwigaeth a allai ddefnyddio'r ardal honno sydd ar gael o fewn yr ystad goedwigaeth yn y ffordd orau.
Mae'n amlwg yn galonogol iawn clywed am greu prentisiaethau. Mae hynny'n llwybr hanfodol i'r diwydiant, ac er imi yn ddiweddar nodi'r diffyg prentisiaethau amaethyddol—mae llai nag 1 y cant o holl brentisiaethau, yn anffodus, mewn amaethyddiaeth—byddwn yn awgrymu bod y niferoedd yn llai fyth yn y sector coedwigaeth. Yn ei thrafodaethau gyda'r diwydiant, a yw hi wedi canfod ffyrdd o gyflwyno cyfleoedd prentisiaeth newydd? Unwaith eto, rwy'n cydnabod hynny yn y datganiad, ond 30 o gyfleoedd prentisiaeth dros ddwy flynedd mewn diwydiant sy'n werth dros £0.5 biliwn—mae'n ddechrau da, ond nid yw'n mynd i newid y byd. Pan yr ydym ni'n edrych ar y cyfleoedd, yn enwedig ym maes adeiladu, i ddefnyddio cynhyrchion coed, ceir cyfle gwych yma i agor llwybrau newydd ar gyfer newydd-ddyfodiaid ifanc i'r diwydiant. Diolch, Gweinidog.
Diolch i Andrew R.T. Davies am y gyfres honno o gwestiynau a sylwadau. Rydych chi'n gywir—mae yn ddiwydiant enfawr, ac rwy'n credu ei fod yn un y mae angen inni ei werthfawrogi a gofalu amdano. Soniais am fy nghyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Confor yn benodol oherwydd mae'r anawsterau yn hysbys iawn. Fe gawsom ni ddadl hir ar adroddiad Grant Thornton ac, yn amlwg, mae pethau wedi'u dweud yn gyhoeddus yr oeddwn i eisiau sicrhau na fyddent yn rhwystr i'r hyn yr oeddem ni'n bwriadu ei wneud o ran y diwydiant coedwigaeth. Ac rwy'n falch iawn bod Confor a Cyfoeth Naturiol Cymru, y bu imi gyfarfod â nhw ar wahân, bellach wedi cael y cyfle i gyfarfod â'i gilydd a'u bod yn mynd i gydweithio i wneud yn siŵr bellach ein bod ni'n mynd i ddechrau gweld llawer mwy o goed yn cael eu plannu. Rwy'n gwbl gytûn o ran y targed a osodwyd gennym ni. Nid ydym ni wedi gweld plannu nifer y coed y byddem ni'n dymuno eu gweld, ac, er fy mod i'n sylweddoli ei fod yn ddyhead tymor hir, rwy'n credu bod angen inni fynd ati mewn sawl ffordd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud rhywfaint o gynnydd yn y tymor byr, a dyna'r hyn y byddwn ni yn ei wneud â'n strategaeth.
Rydych chi'n gywir—rydym ni wedi cael amryw o fentrau ac yn sicr mae gennym ni nifer o gynlluniau, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at y cynlluniau a'r modd y cânt eu hariannu. Rwy'n fodlon iawn edrych a oes cyfle i gyflawni'r cynlluniau hynny mewn ffordd wahanol. Rwy'n sicr yn credu, ar ôl Brexit, amaethyddiaeth—felly, 'Brexit a'n tir', er enghraifft; byddwch yn ymwybodol ein bod yn cyflwyno taliadau o ran nwyddau cyhoeddus. Mae'r rhain yn feysydd lle nad oes marchnad ar hyn o bryd, felly fe allwn ni yn sicr edrych ar sut y caiff hynny ei ariannu, er enghraifft, yn y ffordd y gwnaethoch ichi gyfeirio ati.
Ynghylch targedau, ni all y Llywodraeth wneud hyn ar ei phen ei hun; mae llawer iawn o goedwigoedd mewn perchnogaeth breifat. Credaf fod yn rhaid i bob un ohonom ni weithio gyda'n gilydd yn hyn o beth. Pan oeddwn i yn Seland Newydd y llynedd yn edrych ar gynlluniau amaethyddol yn bennaf, cefais sgwrs hir iawn gyda'r Gweinidog yno sy'n gyfrifol am goedwigaeth, ac mae eu targed nhw, rwy'n credu, yn eithriadol o uchelgeisiol, ond, pan roeddech chi'n craffu'n fanylach, nid y Llywodraeth yn unig oedd yn gwneud hynny ar ei phen ei hun—roedd hi'n gweithio gyda rheolwyr tir, ffermwyr. Mae llawer o goedwigaeth yn Seland Newydd yn eiddo preifat a, phan ddarganfyddai fod oddeutu 5 y cant o dir yng Nghymru hefyd yn eiddo preifat, rwy'n credu ei fod ynglŷn â dod â phawb at ei gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau ohono. Rwy'n cytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am brentisiaethau. Rwy'n falch iawn o weld bod gennym ni 30 dros ddwy flynedd, ond, unwaith eto, yn fy nhrafodaethau gyda Confor, credaf eu bod nhw hefyd yn derbyn bod angen inni edrych ar gynyddu'r nifer hwnnw'n sylweddol.
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru fanc tir sylweddol ar gyfer coed—lle bu'n rhaid iddyn nhw dorri coed oherwydd y clefyd y gwnaethoch chi gyfeirio ato, ond am resymau eraill. Fe wnes i gyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr rai wythnosau yn ôl ac maen nhw yn sicr wedi ymrwymo i ailgoedwigo'r tir hwnnw—rwy'n credu mai erbyn 2022 oedd y flwyddyn yr oedden nhw'n obeithiol amdani. Rwy'n sicr yn edrych i weld a allaf i roi rhywfaint o arian ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi hynny oherwydd rwy'n credu mai dyna yn wir yw'r ffordd ymlaen a bydd yn ein helpu i gyflawni ein targedau.
Wrth gwrs, does dim amheuaeth bod y diffyg plannu coed a methiannau'r Llywodraeth a Chyfoeth Naturiol Cymru yn y blynyddoedd mwy diweddar yma—bod hynny wedi tanseilio a lleihau gallu Cymru i daclo newid yn yr hinsawdd, i reoli'r risg llifogydd, i roi hwb i gynefinoedd a bioamrywiaeth a'r holl fanteision sy'n dod yn sgil polisi coedwigaeth llwyddiannus. Yn amlwg, dŷn ni ddim yn gwireddu yr hyn y bydden ni i gyd yn dymuno ei wireddu ar hyn o bryd. Felly, mae yn hen bryd, dwi'n meddwl, i'r Llywodraeth ailafael yn y maes yma ac edrych unwaith eto ar sicrhau bod yr hyn sydd yn uchelgais gan y Llywodraeth yn addas ac, yn bwysicach fyth, wrth gwrs, fod modd cyflawni hynny mewn modd ystyrlon a realistig.
Nawr, os ydw i'n deall yn iawn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli 80 y cant o goedwigoedd Cymru yn uniongyrchol ac yn rheoleiddio’r 20 y cant arall. Rŷch chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi am greu canllaw, neu guidelines, i reolwyr tir, busnesau a Chyfoeth Naturiol Cymru wneud penderfyniadau gwell ac i wneud penderfyniadau yn gynt. Mae hynny i'w groesawu, ond ydych chi yn hyderus bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru yr adnoddau angenrheidiol i gyflawni hynny yn effeithiol? Oherwydd, yn amlwg—dwi wedi codi sawl gwaith gyda chi y gofid bod mwy a mwy o ofynion arnyn nhw a nad yw'r cynnydd yn eu cyllideb yn adlewyrchu hynny; yn wir, i'r gwrthwyneb, mewn termau real, mae'r gyllideb yn crebachu. Dwi'n dal i boeni bod dim y profiad digonol gan fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru i roi'r arweiniad angenrheidiol sydd ei angen ar y sector yma.
Mae hefyd galw—. Byddwn i â diddordeb i glywed a ydych chi, yng nghyd-destun gosod y targedau, neu drio cyrraedd y targedau rŷn ni am eu cyrraedd dros y blynyddoedd nesaf, yn barod i ymrwymo i greu asesiad amgylcheddol strategol i gyd-fynd â'r targedau newydd yna er mwyn cefnogi, cryfhau ac atgyfnerthu bioamrywiaeth yn y coedwigoedd hynny. Oherwydd mae yna gyfleoedd mawr iawn, nid yn unig o safbwynt rheoli'r coedwigoedd sydd gyda ni ar hyn o bryd, ond, yn sicr, o safbwynt creu coedwigoedd newydd hefyd—eu bod nhw'n cael eu creu mewn ffordd, a bod yna gymysgedd o goed addas ac yn y blaen ar gyfer creu cynefinoedd a chryfhau bioamrywiaeth.
Rŷch chi'n cyhoeddi rowndiau newydd o Creu Coetir Glastir ac Adfer Coetir Glastir. Wrth gwrs, mae cynlluniau coetir Glastir wedi cael eu ceryddu yn y gorffennol am fod yn rhy gymhleth ac yn rhy ragnodol. Ydych chi felly yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau, neu ydych chi jest yn parhau â'r cynlluniau fel maen nhw wedi bod?
Hefyd, wrth gwrs, arian RDP sydd yn talu am lawer o'r rhain. Rŷn ni i gyd yn gwybod—neu ddim yn gwybod, efallai—beth sy'n dod yn y cyd-destun yna. Felly, dwi ddim yn gwybod os rŷch chi wedi ystyried pa ffynhonnell ariannu ar ôl Brexit y byddwch chi'n ei defnyddio, neu ydych chi jest yn dibynnu ar yr addewid yma na fyddwn ni ddim gwaeth i ffwrdd yn ariannol? Oherwydd mae hwn yn sector mwy tymor hir na'r rhelyw, ac felly mae cael dilyniant ac ymrwymiadau tymor hir, o safbwynt ariannu ac yn y blaen, wrth gwrs, yn gwbl, gwbl allweddol. Byddwn i'n galw arnoch chi i ymgorffori targedau sydd yn mynd â ni i 2050 a 2100 hyd yn oed, oherwydd dyna yw mesur tymor hir llawer o'r gwaith sy'n digwydd yn y sector yma a dyma sydd ei angen i greu yr hyder o fewn y sector i'w dyfu e yng Nghymru. Nawr, rŷn ni wedi clywed cyfeiriad at fethiannau Cyfoeth Naturiol Cymru yn y maes yma yn y blynyddoedd diwethaf, ac fe fyddwn innau hefyd yn eich annog chi i wneud popeth y gallwch chi i ailadeiladu’r berthynas yna rhwng y sector a’r Llywodraeth a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Un o’r pethau dwi wedi galw amdanyn nhw, wrth gwrs, yw adolygiad annibynnol i sefydlu a yw hi dal yn briodol i Gyfoeth Naturiol Cymru barhau i reoli’r ystâd goedwig fasnachol yng Nghymru. Mi fyddwn i’n ategu’r alwad honno a phetai yna gasgliad nad yw hynny’n addas, yna, yn amlwg, byddwn i’n dymuno bod yr ymchwiliad hwnnw hefyd yn ystyried modelau amgen posib. Nawr, mi ddylai ystâd goedwigaeth gyhoeddus yng Nghymru gael ei reoli mewn ffordd sydd yn exemplar o safbwynt coedwigoedd cynaliadwy yn dangos sut mae bioamrywiaeth, newid hinsawdd, ffactorau cymdeithasol ac economaidd i gyd yn gallu cwrdd â’i gilydd, a hefyd sut mae rhai o’r tensiynau yna’n gallu cael eu rheoli’n addas. Ond, hyd yma, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu yn hynny o beth. Ydych chi felly’n cydnabod bod yna ffordd bell i fynd cyn ein bod ni’n cyrraedd lle y byddem ni’n licio bod?
Diolch, Llyr Huws Gruffydd am y cwestiynau hynny. O ran Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y dywedais yn fy ymateb i Andrew R.T. Davies, yn amlwg, rydym ni wedi cael dadl hir iawn yn y Siambr amdano, a byddwch yn ymwybodol fy mod i wedi anghytuno â chi bod adolygiad annibynnol yn angenrheidiol, ac rwy'n dal o'r farn honno. Yn amlwg, aeth Grant Thornton yno, fe wnaethon nhw adroddiad, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn yr argymhellion a wnaed gan Grant Thornton mewn cysylltiad â'u rhan nhw o'r gwaith. Fe gawsom ni, y Llywodraeth un, ac rwyf wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw'n llawn. Mae gennyf pob ffydd yn y cadeirydd, y prif weithredwr a'r bwrdd newydd—byddwch yn ymwybodol inni newid hanner aelodau'r bwrdd—i ddatblygu hyn, ond rwyf yn credu eich bod yn llygad eich lle wrth ddweud bod angen ailadeiladu'r berthynas. A dyna pam yr oeddwn i mor awyddus i gael ymrwymiad gan Confor a Cyfoeth Naturiol Cymru ac wedyn gwneud yn siŵr eu bod yn cyfarfod â'i gilydd. Mae fy swyddogion wedi bod yn cadw golwg ar hynny, mae fy swyddogion wedi bod yn cyfarfod gyda Confor ar wahân er mwyn sicrhau y gellir ailadeiladu'r berthynas honno, ac, fel y dywedais yn y datganiad agoriadol, mae Confor wedi dweud eu bod yn falch iawn i ddatblygu'r gwaith hwnnw. Fodd bynnag, byddaf yn cadw—rwy'n cyfarfod bob mis gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr dros dro, a byddaf yn cadw llygad barcud ar hyn, gan fy mod yn credu eich bod yn llygad eich lle: fe ddylem ni fod yn esiampl yn y maes hwn, felly mae'n bwysig iawn bod y berthynas honno yn un ffrwythlon.
Unwaith eto, fe wnaethoch chi sôn yn y ddadl honno, rwy'n credu, eich bod yn pryderu am y diffyg profiad sydd gan y bwrdd ym maes coedwigaeth. Fel y soniais, fe wnaethom ni newid chwe aelod yn ôl ym mis Tachwedd. Mae gan un o'r aelodau ar y bwrdd, rwy'n credu, y sgiliau o ran llywodraethu a'r agwedd fusnes ar goedwigaeth, felly rwyf yn credu bod gennym ni'r cyfuniad cywir o bobl ar y bwrdd, ond, unwaith eto, mae'n rhywbeth yr wyf hefyd yn awyddus iawn i gadw llygad barcud arno.
Fe wnaethoch chi sôn am y cyfuniad o goed, ac mae hyn yn rhywbeth—pan ddeuthum i'r portffolio i ddechrau, dywedwyd wrthyf gan amrywiaeth o bobl ein bod yn plannu'r coed anghywir yn y mannau anghywir, a gan bobl eraill ein bod yn plannu'r coed cywir yn y lleoedd cywir. Felly, rwy'n cofio cael pawb at ei gilydd mewn ystafell i ddweud, 'Iawn, mae angen imi wybod pa goed sydd angen inni eu plannu ym mha le i wneud yn siŵr ein bod ni bob amser yn plannu'r coed cywir yn y lle cywir.' Ac rwy'n credu, pan fyddwn ni'n cyflwyno ein strategaeth, ac mae'n amlwg iawn yn gysylltiedig â'n polisi amaethyddol ar ôl Brexit, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn sicrhau ein bod yn cael y cyfuniad hwnnw'n gywir.
Oherwydd ei fod yn sector mor hirdymor, rwy'n credu y byddai 2050 yn darged da, a soniais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, fy mod wedi siarad â Gweinidog Seland Newydd ynglŷn â hyn, ac roedd eu targed ar gyfer yr un—rwy'n credu ei fod 50 mlynedd yn ddiweddarach, a gallaf weld y manteision o wneud hynny oherwydd credaf y byddai'n gyfle i bawb ei deall. Yn sicr, pan rwy'n siarad yn arbennig â ffermwyr ynglŷn â sut y gallan nhw ein helpu ni efallai i gyflawni ein targedau, un o'r pethau y maen nhw'n ei ddweud yw, oherwydd ei fod yn fenter mor hirdymor, maen nhw'n bur amharod i blannu coed ar dir amaethyddol, oherwydd eu bod yn gwybod y byddant wedi ei golli am 30 mlynedd. Ond, unwaith eto, mewn trafodaethau ac yn sicr yn llawer o'r ymatebion a gawsom ni i 'Brexit a'n tir', rwy'n credu bod hynny efallai yn newid ychydig a bod ffermwyr eisiau ein helpu ni i gyflawni ein targedau coedwigaeth.
Yng nghyswllt y Cynllun Datblygu Gwledig, rydych chi'n gywir, rydym ni i ryw raddau yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair o ran yr addewid hwnnw na fyddai Cymru yn colli ceiniog petai ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n credu ei bod hi'n hollol briodol ein bod yn sicrhau ei bod yn cadw at ei gair ynglŷn â hynny, ond, yn amlwg, bydd angen inni roi arian bob amser i'r rhan hon o'r portffolio. Ond, yn amlwg, nid ydym ni wedi edrych yn fanwl ar gynllun i ddisodli'r Cynllun Datblygu Gwledig mewn manylder oherwydd disgwyliwn gael yr arian yr ydym ni'n ei gael o Ewrop ar hyn o bryd.
Rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth. Dim ond methu deall yr wyf i pam nad yw pawb arall yn credu ym mhwysigrwydd coedwigoedd, oherwydd fy mod i'n credu mewn gwirionedd eu bod un o'r pethau pwysicaf sydd gennym ni. Nid wyf yn credu y gallwch chi mewn gwirionedd gael gormod o goed, ac mae hi wastad yn ofid imi pan welaf nifer o goed yn cael eu torri. Yn etholaeth Rebecca Evans, mae cochwydd anferthol wedi ei thorri ym Mhenlle'r-gaer. Mae hynny'n fater o bwys aruthrol yn lleol, ac mae hefyd yn fater o bryder—nifer y coed yn yr ardal honno sy'n cael eu torri. Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni warchod coed yn fwy nag yr ydym ni'n ei wneud yn awr. Mae gorchmynion cadw coed yn dda iawn. Maen nhw'n rhoi mwy o argraff o amddiffyniad nag amddiffyniad gwirioneddol, ond pan fo rhywun wedi cael damwain, ac maen nhw wedi taro coeden i lawr, ni allwch chi ddadwneud y ddamwain. Fe ddywedaf i wrthych chi hyn, os oes dau beth y gwn i amdanynt: bod adeiladau rhestredig gradd II yn mynd ar dân yn ddigymell, a bod pobl sy'n gyrru o amgylch coed yn cael damweiniau yn eithaf rheolaidd, gan daro coed i lawr sydd â gorchmynion cadw coed arnynt. Rwy'n gweld y ddwy ffaith yma'n anhygoel, a rhaid mai serendipedd sy'n eu hachosi.
A gaf i groesawu'r Cynllun Cydweithio i Gynllunio Coedwigoedd, yn benodol i bobl a chwmnïau cydweithredol gydweithio a chynllunio creu coetiroedd ar raddfa sylweddol a strategol? Rwy'n cefnogi plannu coedwigoedd cymysg yn hytrach nag un cnwd o goed conwydd. Bu nifer o glefydau coed fel clefyd llwyfen yr Iseldiroedd, coed ynn yn marw, a'r un y crybwyllodd y Gweinidog yn gynharach, nad wyf i am geisio ei ynganu. A yw'r Gweinidog yn derbyn bod coedwigoedd cymysg yn darparu rhywfaint o ddiogelwch rhag clefydau coed, ac y dylai coedwigoedd cymysg o'r fath gynnwys coed llydanddail? A yw'r Gweinidog yn derbyn fod angen inni gael targedau rhanbarthol blynyddol o ran coedwigaeth? Rydym yn tueddu i fod â thargedau tymor hir, ond mae'r tymor hir, fel y bydd pobl sy'n ymwneud â chynllunio ariannol yn dweud wrthych chi, yn cynnwys llawer o dymhorau byr. Felly, os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth yn y tymor hir, rhaid ichi ymdrin yn llwyddiannus â nifer o dymhorau byr i gyflawni hynny.
Yn olaf, rhywbeth nad wyf i erioed wedi ei ddeall, ac fe arferai fodoli o dan yr hen gynllun sirol pan nodwyd tir ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau: pam na all cynlluniau datblygu lleol nodi tir ar gyfer coedwigaeth yn y fath fodd fel bod pobl yn gwybod bod y tir hwnnw'n addas?
Diolch, Mike Hedges, am y rhestr honno o gwestiynau. Rwy'n cytuno â chi: nid wyf yn credu y gallwch chi gael gormod o goed. Nid wyf yn ymwybodol o'r rhesymau pam fod y coed yn cael eu torri yn etholaeth fy nghyfaill Rebecca Evans, ond rhaid imi ddweud, un o'r profiadau dwysaf imi ei gael yn ddiweddar oedd imi fod yn ffodus iawn i ymweld â Choedwig Muir yn San Francisco pan oeddwn yno fis Medi diwethaf ar gyfer yr uwchgynhadledd fyd-eang ar weithredu ar y newid yn yr hinsawdd, ac mae'n rhaid imi ddweud, roedd yr aer y gallech chi ei anadlu yn y goedwig gochwydd honno yn wirioneddol anhygoel. Gwnaeth imi sylweddoli mor ffodus ydyn nhw i gael y math hwnnw o goeden yng Nghaliffornia.
Rwy'n credu eich bod yn gywir ynghylch y cyfuniad o goed, ac fel y dywedais yn fy ymateb i Llyr Huws Gruffydd, mae'n bwysig iawn eich bod yn plannu'r coed cywir yn y mannau cywir ac, felly, boed hynny'n goed conwydd mewn rhai ardaloedd neu goed llydanddail mewn rhai eraill, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael hynny'n iawn. Rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu'r Cynllun Cydweithio i Gynllunio Coedwigoedd. Soniais yn fy natganiad agoriadol ein bod wedi buddsoddi £480,000 yn hynny. Rydym ni wedi cael dwy rownd, ac mae mewn gwirionedd yn annog cynllunio ar gyfer creu coetiroedd ar raddfa sylweddol iawn a strategol nad ydym ni wedi ei weld cyn hyn.
Rwy'n credu bod y targed hirdymor yn angenrheidiol iawn ar gyfer y diwydiant, ond, wrth gwrs, os oes gennych chi darged blynyddol, mae'n llawer haws ei fonitro, sef yr hyn a oedd gennym ni a lle gwnaethom ni sylweddoli nad oeddem ni'n plannu nifer y coed y byddem i gyd eisiau eu gweld. O ran coed hynafol, hynod a threftadaeth, mae'r strategaeth goetiroedd yn cydnabod pwysigrwydd coetiroedd hynafol ac, yn amlwg, mae ein polisi adnoddau naturiol yn nodi ymrwymiad i reoli'r coed a'r coetiroedd hynny yn ofalus sydd mor werthfawr yn amgylcheddol, a soniais, unwaith eto, bod 'Polisi Cynllunio Cymru' yn sicr wedi rhoi canllawiau i gryfhau'r agwedd honno.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ar y pwnc pwysig iawn hwn? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod Clifford Jones Timber yn Rhuthun yn un o'r cynhyrchwyr mwyaf yn y DU o ran pyst pren a choed. Ac rwy'n gwybod ichi ymweld â Clifford Jones eich hun i siarad am rai o'u pryderon ynglŷn â chyflenwi coed, yn arbennig faint o goed conwydd sy'n cael eu plannu ac effaith hynny ar y cyflenwad coed, a buont yn pryderu ers tro ynglŷn â'r mater penodol hwnnw. Felly, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu'r cyflenwad yn y blynyddoedd sydd i ddod a chymell perchnogion tir i blannu mwy yn y dyfodol.
A wnewch chi ddweud wrthyf, fodd bynnag, Gweinidog—? O ran y gwaith y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud, rwy'n sylweddoli bod yn rhaid i bwyslais hynny, yn fwy eang, fod ar fuddiannau'r tir sydd ganddyn nhw, nid yn unig o ran datblygu cnwd ac yna ei gynaeafu a defnyddio'r cnwd hwnnw o ran cyflenwad, ond o ran, hefyd, cyfleoedd hamdden ar eu tir. Unwaith eto, Gweinidog, rwy'n gwybod y buoch chi i'r goedwig o amgylch Llyn Brenig—coedwig Clocaenog yn fy etholaeth i yn y gorffennol, a byddwch wedi gweld y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael yno o ran hamdden. Nid wyf yn credu ein bod yn manteisio digon ar y cyfleoedd hynny; credaf y gellid dweud yr un peth, hefyd, am rannau o goedwig Llandegla gyda rhai o'u llwybrau seiclo a'u llwybrau certiau hefyd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb gwybod sut ydych chi'n bwriadu sicrhau na chaiff y pethau hynny mo'u hanghofio yn rhan o'r cynllun rheoli coedwigoedd.
Ac yn ail, a gaf i ofyn a yw'r Llywodraeth wedi ystyried diweddaru gofynion Deddf Coedwigaeth 1967, yn arbennig o ran trwyddedau torri coed? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'm diddordeb brwd ym mhoblogaeth y wiwer coch yma yng Nghymru, ac roedd rhai o'r pryderon a fynegwyd gan y rhai sy'n ymwneud â chadwraeth y wiwer goch yn ymwneud â chyfundrefn y trwyddedau torri coed sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru, pryd, fel rwy'n deall, ni ellir gwrthod trwydded er mwyn gwarchod neu wella fflora neu ffawna o dan ofynion Deddf 1967. Mae hynny'n peri pryder i unrhyw un sy'n frwdfrydig dros fywyd gwyllt, nid yn unig y rhai sy'n pryderu ynghylch poblogaethau'r wiwer goch.
Nawr, yn amlwg, yn yr Alban, fel y caf ar ddeall, mae camau ar waith i ddiweddaru gofynion y Ddeddf fel y gall fod rhai amodau ynghlwm wrth drwyddedau sy'n diogelu buddiannau bywyd gwyllt, ac rwy'n credu ei bod hi fwy na thebyg yn bryd inni ddechrau edrych ar gyfleoedd i wneud yr un peth yma yng Nghymru. Rwy'n siŵr mai bwriadau Cyfoeth Naturiol Cymru a'ch Llywodraeth yw gwneud yr hyn a allant i warchod bywyd gwyllt. Tybed a allwn ni achub ar y cyfle hwn bellach i gael rhyw fath o ymrwymiad gan y Llywodraeth o ran edrych ar y gofynion hyn yn y dyfodol. Diolch.
Diolch. Do, yn sicr cefais ymweliad addysgiadol iawn â Clifford Jones Timber yn Rhuthun, lle'r oedden nhw'n arbennig o gymwynasgar yn egluro'r rhwystrau sydd yn sicr ganddyn nhw, ac yn amlwg, y diwrnod yr es i yno, mae'n debyg bod eu hiard yn hanner llawn, ond fel arfer, bydden nhw'n storio 100 y cant. Felly, unwaith eto, roedden nhw'n gymwynasgar iawn. Es i â swyddogion a phobl o Cyfoeth Naturiol Cymru gyda mi felly, unwaith eto, roeddem ni'n gallu deall y pryderon anodd iawn oedd ganddyn nhw.
Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch hamdden, iechyd a chynhwysiant cymdeithasol, ac yn sicr, unwaith eto, ymwelais â choedwig y Brenig i weld y gwaith a oedd yn cael ei wneud er mwyn i'r cyhoedd fwynhau, ond hefyd, y bobl a oedd yn gwirfoddoli ac yn gweithio yn y goedwig, fe allech chi weld y manteision i'w iechyd ac i'w lles hefyd. Ac wrth gwrs, mae Llandegla yn agos iawn at fy nghartref; rwy'n ymweld â'r lle yn aml iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n enghraifft o ble maen nhw wedi manteisio i'r eithaf ar y goedwig honno. Ni allech chi hyd yn oed gael i mewn i'r maes parcio, heb sôn am unrhyw le arall, oherwydd y beicio mynydd, y cerdded a'r caffi sy'n gwneud y frechdan cig moch orau yn y wlad, mae'n debyg.
O ran yr hyn yr oeddech chi'n sôn amdano ynghylch torri coed, rwy'n credu y cydnabyddir bod y Ddeddf Coedwigaeth yn gyfyngedig o ran natur yr amodau y gall eu cymhwyso i drwyddedau torri coed ac wedyn eu gorfodi. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae'r Alban yn ei wneud, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar hyn i ar fy rhan. Wyddoch chi, mae fy mriff i'n cyfeirio at wiwerod llwyd a cheirw, ond rwy'n siŵr bod gwiwerod coch yn cael eu heffeithio yn yr un modd.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad oherwydd mae'n bwysig iawn, yn enwedig o ran tynnu sylw ynglŷn â sut yr aeth Cyfoeth Naturiol Cymru i'r afael â'r clefyd phytophthora ramorum, ac yn enwedig y dinistr a welsom ni yng Nghwm Afan o ganlyniad i hynny. Rydym ni'n dal yn gweld bod cyfran fawr o'r coed yn y cwm hwnnw wedi eu torri ac nad oes rhai newydd wedi eu plannu yn eu lle. Ac rwy'n croesawu'r sylw yn eich datganiad, yn sôn am gyfuniad o wahanol goed o ran plannu rhai newydd, ond ceir rhai ardaloedd hefyd, ac mae rhai o'm hetholwyr mewn gwirionedd yn dweud eu bod yn hoffi gweld bod y coed wedi mynd oherwydd bod ganddyn nhw olygfa ehangach a mwy o olau, fel y mae'n digwydd—. Ond mae angen inni ystyried pa un a oes ardaloedd lle na chaiff coed newydd eu plannu, am ba reswm bynnag—gallai fod yn ariannol fel posibilrwydd—mae gennym ni strategaeth ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ei wneud gyda'r ardaloedd hynny er mwyn inni wybod beth fydd yn mynd ar y tir hwnnw, ond gallwn ni edrych hefyd, ar sut y gallwn ni ddefnyddio—? Rwy'n cytuno â Darren Millar bod y gweithgareddau hamdden yn enfawr, y cyfleoedd yn hynny o beth. Os ydych chi eisiau mynd i rywle arall, dewch i gwm Afan a gweld y beicio mynydd yn y fan honno. Efallai nad oes gennym ni'r brechdanau cig moch gorau, ond byddwn ni'n sicr yn rhoi croeso cynnes iawn i chi. Ond mae'r cyfleoedd hyn yn enfawr i gymunedau lleol a'r Cymoedd cyn-lofaol sydd erbyn hyn yn gweld y newid o'r gorffennol diwydiannol i ddyfodol mewn twristiaeth, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni ystyried a mynd i'r afael â'r agwedd honno.
Ond, yn ail, a gawn ni hefyd edrych ar—nid ydych chi wedi sôn amdano—coed gwastraff a chontractio ar gyfer coed, oherwydd mae gennym ni weithfeydd biomas sydd yn amlwg yn elwa ar rai o'r coetiroedd sy'n bodoli? Yn fy etholaeth i, mae gennym ni ddau safle biomas, un ar gyfer coed halogedig ac un ar gyfer coed newydd, ac yn amlwg, roedd y contract ar gyfer coed newydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae angen i ni ystyried sut y gallwn ni barhau i gyflenwi coed newydd, nad oes eu hangen mwyach ond y gellir eu defnyddio o hyd at ddiben buddiol. Nid ydych chi wedi trafod hynny yn eich datganiad. Efallai y gallwn ni ystyried sut y gallwn ni weld sut mae modd i'r agwedd honno ar y gwaith gynnal y maes coedwigaeth, oherwydd mae'n helpu i gynnal y maes coedwigaeth. Mae'n sôn am ailblannu, ond mae hefyd yn defnyddio coed prysgwydd a adewir ar y tir pan fydd llawer o goed wedi eu torri.
Diolch i chi, David Rees, am y cwestiynau hynny. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ardal yn eich etholaeth chi sydd wedi colli nifer fawr o goed oherwydd haint, ac fe grybwyllais i mewn ateb cynharach fy mod yn gwybod bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn sgil fy nhrafodaethau gyda'r Prif Weithredwr, rai sylweddol—. Credaf eu bod nhw yn y fan honno; rwy'n credu eu bod yn cadw tua 4 y cant o dir ar gyfer coedwigaeth, ac rwy'n credu eu bod ar gyfradd o 4.75 y cant ar hyn o bryd, a dyna pam fy mod yn ystyried a fyddaf i'n gallu rhoi cyllid ychwanegol iddyn nhw, oherwydd, yn amlwg, mae cyllidebau pawb dan bwysau. Felly, byddai'n dda iawn gennyf wybod a oes modd imi roi cymorth iddyn nhw i ailgoedwigo yn y dyfodol agos iawn.
Rwy'n ymwybodol o'r datblygiad hamdden sydd wedi ei gynnig yn eich etholaeth. Gwn fod fy swyddogion yn gweithio'n agos gydag awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot ar hynny. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru gynllun marchnata coed, sy'n ymestyn o 2017 i 2022, ac mae hwnnw'n esbonio eu dull nhw o gynaeafu a marchnata coed o ystad coetir Llywodraeth Cymru. Fe fyddan nhw'n parhau i gyflenwi coed yn unol â'r cynllun hwnnw, a byddwn i'n hapus iawn i ofyn iddyn nhw edrych ar y pwynt a godwyd gennych chi.
Diolch i'r Gweinidog.