– Senedd Cymru am 5:41 pm ar 12 Mawrth 2019.
Daw hynny â ni nesaf at yr eitem olaf, sef y cynnig i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau plaid, a dwi'n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i gynnig yn ffurfiol.
Rwy'n cynnig.
Darren Millar yn ffurfiol. Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n ddiwrnod trist, yn fy marn i, i'r Cynulliad Cenedlaethol, bod y cynnig hwn yn cael ei ddwyn ger ei fron, oherwydd cawsom ni i gyd ein hethol ar yr un sail dwy flynedd a hanner yn ôl, ac rydym ni i gyd yn ddirprwyon ar ran y bobl sydd yma, ac roedd y Rheol Sefydlog sy'n sefydlu dosbarthiad Cadeiryddion pwyllgorau, ar ôl yr etholiad diwethaf, yn fy marn i, yn cynrychioli canlyniadau'r etholiad ym mis Mai 2016 yn briodol. Yr hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud heddiw, os bydd y cynnig hwn yn cael ei dderbyn, yw tarfu yn sylweddol iawn ar y sefyllfa honno, mewn gwirionedd.
Un o'r pethau sydd wedi gwneud argraff arnaf i ers bod yn y fan yma yw'r modd amhleidiol y mae pwyllgorau'n gweithredu, ac rwy'n credu bod pob un Cadeirydd pwyllgor, hyd yn oed y rhai sydd â safbwyntiau cadarn iawn sydd ymhell iawn o fy rhai i, fel Mick Antoniw, wedi defnyddio eu swyddogaeth fel Cadeirydd pwyllgor gyda didueddrwydd egwyddorol, ac rwy'n credu bod hynny o fudd mawr iawn i'r sefydliad hwn—y gallwn ni gael dadleuon fflamychol ar draws y Siambr, ond yn y pwyllgorau, gallwn weithio gyda'n gilydd a chydweithredu a bod yn golegol hefyd.
Yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf bu newid yn y niferoedd mewn gwahanol grwpiau: mae fy ngrŵp i fy hun wedi colli tri Aelod, mae Plaid Cymru wedi colli dau Aelod, mae'r Ceidwadwyr wedi ennill un Aelod, ac mae eraill wedi dod yn Aelodau annibynnol. Felly, y sefyllfa ar hyn o bryd, yw bod gan y Blaid Lafur, yn ôl y ffigurau a gynhyrchwyd gan y staff ymchwil, 29 o Aelodau ac mae ganddi chwe Chadeirydd. Mae hynny'n 48 y cant o'r holl Aelodau ac mae ganddi 50 y cant o'r Cadeiryddion. Mae hynny'n eithaf teg. Mae hynny'n gwbl dderbyniol. Mae gan UKIP bedwar Aelod, 7 y cant o'r Aelodau, ac mae ganddi 8 y cant o'r cadeiryddion—bron yn union gymesur. 17 y cant yn unig o'r Aelodau sydd gan Blaid Cymru, ar y llaw arall, ond mae ganddi 25 y cant o'r Cadeiryddion. Mae gan y Ceidwadwyr 20 y cant o'r Aelodau a 17 y cant o'r Cadeiryddion. Felly, ydynt, mae'r Ceidwadwyr wedi'u tangynrychioli rywfaint a Phlaid Cymru wedi ei gorgynrychioli yn sylweddol. Felly, os, fel y mae'r Rheol Sefydlog yn ei ddweud, y dylai'r Pwyllgor Busnes roi sylw i'r angen i sicrhau bod cydbwysedd y Cadeiryddion ar draws y pwyllgorau yn adlewyrchu'r grwpiau gwleidyddol y mae'r Aelodau yn perthyn iddyn nhw, mae'n eithaf clir y dylai Plaid Cymru fod yn colli Cadeirydd pwyllgor os yw'r Ceidwadwyr am ennill un.
Nid oes unrhyw ddadl mewn egwyddor, o gwbl, i UKIP golli ei Chadeirydd, oherwydd gadewch i ni edrych ar y Rheol Sefydlog. Sut y gallai'r Pwyllgor Busnes a'r Cynulliad sicrhau bod cydbwysedd y Cadeiryddion ar draws pwyllgorau yn adlewyrchu'r grwpiau gwleidyddol y mae'r Aelodau yn perthyn iddyn nhw pan fo UKIP yn grŵp, yr awgrym yw fod gennym ni hawl felly i fod ag un Cadeirydd pwyllgor? Yn sicr, nid yw mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchu cydbwysedd y grwpiau i amddifadu un grŵp o un Cadeirydd fel nad oes ganddo unrhyw gynrychiolaeth ymhlith y Cadeiryddion. Mae hynny, rwy'n credu, yn tanseilio yn sylfaenol y Rheol Sefydlog. Yr hyn yr ydym ni'n ei weld yn y fan yma, heddiw, mae arnaf ofn, yw ymgais dan-din ac aflan gan y consensws ym Mae Caerdydd—y tair plaid fwy yn cyfuno gyda'i gilydd i gymryd oddi arnom y swyddogaeth Cadeirydd sy'n gwbl briodol yn perthyn i ni, yn fy marn i, o dan y Rheolau Sefydlog hynny y gwnaethom ni i gyd bleidleisio o'u plaid ar ddechrau'r Cynulliad hwn. Felly, mae hwn yn achos o ormes gan y mwyafrif. Rydym yn aml yn cael dadleuon yn y lle hwn pan fydd pobl yn gwneud pwyntiau gwleidyddol am fwlio. Mae hwn mewn gwirionedd yn achos o fwlio. Grŵp bach ydym ni. Mae gennych chi'r niferoedd. Nid oes gennym ni'r niferoedd. Rydych chi'n benderfynol o gymryd oddi arnom yr hyn sy'n eiddo cyfiawn inni.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwyf yn ildio.
Diolch i chi am ei dderbyn. A ydych chi'n cytuno bod swyddogaethau Cadeiryddion yn cael eu neilltuo—nid dwy swyddogaeth Cadeirydd i un person? Yr hyn a oedd gennych chi oedd David Rowlands yn Gomisiynydd ac hefyd yn bennaeth y Pwyllgor Deisebau. Cafodd Michelle Brown ei hanwybyddu yn llwyr. Felly, rwy'n credu y byddai wedi bod mwy o gydymdeimlad â grŵp UKIP pe byddai swyddogaeth Cadeirydd wedi'i neilltuo i Michelle Brown.
Wel, byddai hynny wedi bod yn fater i'r Cynulliad i benderfynu neilltuo swyddogaeth y Cadeirydd iddi hi. Nid dyna'r mater yr ydym ni'n ei drafod ar hyn o bryd y prynhawn yma. Mae hyn ynghylch neilltuo Cadeiryddion i grwpiau. Nid oes gan hynny ddim i'w wneud â deiliad unigol swyddogaeth y Cadeirydd. Byddaf yn dod at David Rowlands mewn eiliad. Os ydym ni wir yn credu mewn parchu hawliau lleiafrifoedd, sy'n fater arall a glywn yn aml gan yr Aelodau sydd yn ôl pob tebyg yn mynd i bleidleisio i gael gwared â hawliau y lleiafrif heddiw, yna mae hwnnw'n safbwynt y dylid ei barchu.
Rwy'n credu bod David Rowlands yn wir yn Aelod uchel ei barch o'r lle hwn. Mae wedi cyflawni swyddogaeth Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn modd yr un mor egwyddorol â Chadeiryddion eraill yn eu pwyllgorau eu hunain. Mae wedi sicrhau bod mwy o ddeisebau yn cael eu trafod yn y Siambr nag sydd wedi digwydd yn y cyfnod diweddar, rwy'n credu, ac mae hynny'n beth da iawn. Felly, rwy'n credu ein bod mewn gwirionedd yn niweidio egwyddor sylfaenol cynrychiolaeth yn y lle hwn os byddwn yn derbyn y cynnig hwn y prynhawn yma. Mae cynsail yn cael ei osod yn y fan yma, ac rwy'n credu bod hwnnw'n un peryglus, oherwydd bydd unrhyw leiafrif yn y dyfodol mewn perygl o gael ei hawliau wedi'u bradychu yn yr un modd ag y bydd ein rhai ni o bosibl heddiw. Rwy'n gwybod bod Aelodau o grŵp y Torïaid sydd â pharch dwfn at hawliau cyfansoddiadol a thegwch ac i'r egwyddor o gynrychiolaeth deg mewn nifer o gyd-destunau. Felly, rwy'n gobeithio y bydd rhai Aelodau o'r grŵp Ceidwadol a fydd yn pleidleisio heddiw â'u safbwyntiau traddodiadol yn flaenllaw iawn yn eu meddyliau.
Rwy'n dod yn olaf at Blaid Cymru, sydd yn aml i'w clywed yn gresynu at annhegwch cymdeithas a llawer o ddeddfwriaeth y Llywodraeth, ac, wrth gwrs, sy'n credu'n ddwfn mewn hawliau cenhedloedd bach. Wel, os ydych chi'n credu mewn hawliau cenhedloedd bach, rwy'n credu y dylech chi gredu mewn hawliau pleidiau bach hefyd. I bob pwrpas, ni ellir gwahaniaethu rhwng y ddau beth. Mae yna lawer o Aelodau yn y lle hwn sy'n hoffi meddwl bod y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau yma yn y Cynulliad hwn yn wahanol i'r ffordd y caiff pethau eu gwneud yn San Steffan, ac yn wir yn well na'r ffordd y cânt eu gwneud yn San Steffan. Wel, mae gen i ofn, heddiw, bod yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud, os caiff y cynnig hwn ei dderbyn, yn union yr un fath. Mae yr un math o ormes aflan, creulon gan y mwyafrif, ac rwy'n cofio hynny'n dda iawn o'r dyddiau pan oeddwn innau yn San Steffan.
Rwy'n credu y dylai'r rhai hynny sy'n pleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw fod ag ymdeimlad dwfn o gywilydd am yr hyn y maen nhw'n ei wneud ac y dylent fyfyrio ynghylch y cynsail cyfansoddiadol y maen nhw'n ei osod a'r perygl ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd rhywun o grŵp y Ceidwadwyr heddiw, efallai y rheolwr busnes, yn codi mewn eiliad i gyfiawnhau, ar egwyddor, y penderfyniad y cyflwynodd ef yn y Pwyllgor Busnes ac sy'n destun y cynnig hwn y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio, felly.