– Senedd Cymru am 5:19 pm ar 12 Mawrth 2019.
Sy’n dod â ni at y cynnig nesaf o gydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol), a dwi’n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM6987 Vaughan Gething
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Diolch, Llywydd. Rwyf yn argymell bod y Cynulliad yn derbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol). Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, wnes i ddim argymell y dylai'r Cynulliad dderbyn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol, a osodwyd ar 15 Tachwedd y llynedd. Mae hwn wedi bod yn ymgysylltiad hir, a chadarnhaol erbyn hyn, â Llywodraeth y DU er mwyn dod â'r Bil hwn i sefyllfa pan fy mod yn gallu argymell cydsyniad. Yn hollbwysig, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno gwelliant i greu gofyniad statudol i ymgynghori â llywodraethau cenedlaethol datganoledig, ac wedi cytuno ar femorandwm o gyd-ddealltwriaeth yn sail i'r gwelliant hwnnw. Mae'r memorandwm yn nodi sut y bydd Llywodraethau Cenedlaethol datganoledig yn ymwneud â datblygu cytundebau gofal iechyd rhyngwladol yn y dyfodol a rheoliadau sy'n rhoi grym iddyn nhw, ac mae'r Memorandwm hwnnw wedi'i rannu â phwyllgorau craffu.
Llywodraeth Cymru oedd yr unig Lywodraeth genedlaethol ddatganoledig i wrthod cydsyniad yn gynnar yn y broses gan ein bod ni eisiau gweld newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Oherwydd ein hymyriad a'r newidiadau yr ydym wedi eu harwain, rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth hon yn well a bod safbwynt y Llywodraethau cenedlaethol datganoledig yn cael ei pharchu a'i hadlewyrchu'n well. Dyna pam yr wyf i nawr yn argymell rhoi cydsyniad i'r Bil.
Rwyf yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am eu craffu cadarn ar y Bil a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gwreiddiol. Mae'r gwaith craffu hwn wedi helpu i lywio safbwynt y Llywodraeth yn ein trafodaethau â Llywodraeth y DU. Rwyf wedi ysgrifennu at y ddau bwyllgor mewn ymateb i'w hargymhellion, ac wedi rhannu canlyniad y trafodaethau gyda nhw. Er fy mod i'n gresynu'r amser a gymerwyd i sicrhau'r consesiynau gan Lywodraeth y DU, ar ôl brwydr galed, mae hynny wedi golygu nad oedd amser ar gael i atgyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol. Gobeithiaf, er gwaethaf hynny, y bydd aelodau'r ddau bwyllgor a'r Aelodau'n gyffredinol yn rhannu fy marn i fod yr hyn a gyflawnwyd gennym yn gam sylweddol ymlaen.
Mae'r Bil hwn yn ffurfio rhan o ymateb Llywodraeth y DU i'r posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, byddai hefyd modd defnyddio'r Bil i roi ar waith gytundebau gofal iechyd rhyngwladol â thrydydd gwledydd eraill, er bod gwelliant wedi'i basio yn Nhŷ'r Arglwyddi ar hynny y prynhawn yma.
Mae trefniadau gofal iechyd cyfatebol presennol gyda'r Undeb Ewropeaidd o fantais i gleifion a dinasyddion Cymru mewn sawl ffordd. Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio'r system Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd ar gyfer unigolion sy'n teithio dramor yn yr UE a bod gofal iechyd ar gael i bensiynwyr sy'n byw yn y gwledydd hynny. Ar hyn o bryd, gall trigolion Cymru hefyd gael triniaeth feddygol wedi'i chynllunio ymlaen llaw mewn gwlad arall yn yr UE drwy'r llwybr S2, ac, wrth gwrs, gall cleifion brynu gofal iechyd mewn gwledydd eraill a gwneud cais am ad-daliad gan ddefnyddio'r gyfarwyddeb gofal iechyd trawsffiniol. Mae'r trefniadau hyn yn darparu llawer iawn o sicrwydd i nifer o unigolion. Rwy'n credu y byddai pob un ohonom ni, o ba bynnag blaid, yn cytuno y dylem ni geisio parhau â threfniadau gofal iechyd cyfatebol pan fo hynny'n bosibl.
Yn anochel, fodd bynnag, yn achos Brexit 'dim cytundeb', ni fyddai'r hawliau hyn yn dal i fod ar gael yn gyffredinol—dadl arall pam, fel y mae'r Siambr hon wedi'i ddweud dro ar ôl tro, y dylid diystyru Brexit 'dim cytundeb'. Mae'r Bil yn ceisio darparu'r deddfwriaeth ddomestig i roi'r trefniadau gofal iechyd hyn ar waith yn y dyfodol, pe byddai'r DU yn gadael yr UE gyda chytundeb neu beidio. Gellir ei ystyried fel rhan o gyfres o ddeddfwriaeth sy'n cynnwys is-ddeddfwriaeth a fyddai'n gwneud darpariaethau pontio pe byddem mewn sefyllfa o adael 'heb gytundeb'.
Mae'r Bil hwn yn darparu pwerau i ariannu a threfnu gofal iechyd y tu allan i'r DU, i roi grym i drefniadau gofal iechyd rhyngwladol, ac i wneud darpariaeth ar gyfer rhannu data er mwyn galluogi system gofal iechyd gyfatebol newydd. Defnyddir y pwerau hyn i weithredu'r cytundebau cyfatebol newydd y tu hwnt i unrhyw drefniadau pontio. Gellir defnyddio'r pwerau hefyd i dalu am ofal iechyd dramor i unigolion am resymau dyngarol pan nad oes cytundebau cyfatebol wedi'u sefydlu.
Ceir nifer o gymhlethdodau wrth ystyried yr agweddau datganoledig ar gytundebau gofal iechyd cyfatebol. Er mai mater i'r DU yw trafod cytundebau rhyngwladol, mae'n amlwg bod y ddarpariaeth gofal iechyd wedi ei datganoli. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod hyn, ac yn cydnabod ei bod yn ofynnol i ddarpariaethau'r Bil hwn gael cydsyniad y Cynulliad hwn. Fel yr wyf i wedi'i ddweud, gwnaed cynnydd sylweddol erbyn hyn yn ystod ein trafodaethau â Llywodraeth y DU, ac rwyf yn falch fod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r gwelliannau i'r Bil yr wythnos diwethaf. Mae'r gwelliannau hyn yn rhoi sylw i'r pryderon a godais wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno. Yn arbennig, fe wnaethom ni bwyso am y gofyniad y byddai Llywodraeth y DU yn cael ein cydsyniad ar gyfer rheoliadau a wnaed o dan adran 2, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Fodd bynnag, fel yr eglurais pan ymddangosais gerbron y ddau bwyllgor, daethom i'r casgliad y byddai yr un mor werthfawr os nad yn fwy felly i bwyso am ymgysylltu ymhellach ymlaen yn y trafodaethau eu hunain, er mwyn sicrhau na fyddai cytundebau yn arwain at ofynion annymunol ar gyfer gofynion am newid i ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig a goblygiadau annisgwyl ar gyfer GIG Cymru.
Felly, rwyf yn falch ein bod wedi sicrhau, yn y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth, sy'n ffurfio'r sail i welliannau'r Llywodraeth i'r Bil, ymrwymiadau y bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch trafod cytundebau gofal iechyd, gyda swyddogaeth yn y gwaith cwmpasu cychwynnol, hyd at gwblhau cytundeb drafft; y bydd ymgynghori â ni ar y datblygu cychwynnol a drafftio'r rheoliadau dilynol o dan y Bil, a fydd yn gweithredu'r cytundebau hyn, gyda Llywodraeth y DU yn gwneud pob ymdrech i symud ymlaen drwy gonsensws gyda llywodraethau cenedlaethol datganoledig, ond i beidio â gwneud rheoliadau, fel rheol, heb sicrhau cytundeb gan Weinidogion Cymru ymlaen llaw. Ac os nad yw cytundeb yn bosibl, yna bydd cyfnewid llythyrau gweinidogol yn cael ei roi ar gael i ddau Dŷ'r Senedd, yn egluro'r sefyllfa.
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni adrodd ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Gofal Iechyd (trefniadau rhyngwladol) Llywodraeth y DU yn Ionawr 2019, gan wneud saith o argymhellion, ac rydym yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb dilynol i'r adroddiad hwnnw. Ac er nad oes gennym ni'r amser i adrodd ar y memorandwm atodol, bydd fy sylwadau yn ystyried ei gynnwys a gohebiaeth gysylltiedig gan y Gweinidog, gan gynnwys llythyr y Gweinidog a dderbyniwyd ddoe. Ond cyn i mi drafod y ddeddfwriaeth ei hun, mae'n bwysig tynnu sylw at ein pryderon mai dim ond ar y funud olaf y gwnaed Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r Bil cyn iddo gael ei gyflwyno i Senedd y DU. Ar adeg o chwyldro cyfansoddiadol o'r fath, mae'r angen i lywodraethau weithio gyda'i gilydd mewn modd ymddiriedus a chydweithredol, mewn gwirionedd, yn hynod bwysig.
Ni fu dull cyntaf Llywodraeth y DU o ran y Bil hwn mor ddefnyddiol ag y gallai fod ac mae'n atgyfnerthu'r pryderon a godwyd gennym yn ein hadroddiad 2018 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd'. Ar ôl dweud hynny, amlygodd llythyr gan y Gweinidog ddoe welliannau i'r Bil a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n machlud pwerau i wneud rheoliadau yng nghymalau 2(1)(a) a 2(1)(b) ac yn dileu'r pŵer Harri'r VIII canlyniadol yng nghymal 5(3). Mae hwn wir yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, a chroesawaf y newidiadau a gynigir. Ac fel y dywedodd y Gweinidog, maen nhw'n cynrychioli cam sylweddol iawn ymlaen.
Gan droi yn awr at ein hadroddiad ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, roedd ein hargymhelliad cyntaf yn ceisio cael gofyniad ar wyneb y Bil i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei geisio pan fo Gweinidogion y DU yn gweithredu swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn meysydd datganoledig. Mae'n siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad. Fe wnaeth hynny oherwydd ei bod o'r farn y byddai ganddi fwy o ddylanwad dros drefniadau gofal iechyd trwy gymryd rhan ar gam cynnar o'r broses o ddatblygu polisi'r DU. Yr hyn y bydd y Bil yn ei gynnwys yw dyletswydd i ymgynghori â Gweinidogion Cymru, gyda chefnogaeth memorandwm o gyd-ddealltwriaeth. Mae'r memorandwm o gyd-ddealltwriaeth yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud pob ymdrech i symud ymlaen drwy gonsensws a chyda'r gweinyddiaethau datganoledig, ac na fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn gwneud rheoliadau heb sicrhau cydsyniad y gweinyddiaethau datganoledig. Dylid cyfnewid llythyrau gweinidogol pan na ellir cyrraedd cydsyniad a'i roi yn nau Dŷ Senedd y DU, er na fyddai'n ymddangos yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Rydym ni felly'n gofyn a allai'r Gweinidog gadarnhau y gallai'r dull a fabwysiadwyd o bosibl ganiatáu i Weinidogion y DU weithredu mewn meysydd datganoledig heb gytundeb Llywodraeth Cymru. Os yw hynny'n wir, a phe byddai hynny'n digwydd, rwyf yn gofyn a allai'r Gweinidog egluro'r goblygiadau ar gyfer polisi a chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn y maes hwn. Byddai hefyd yn ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog egluro pam nad oedd yn bosibl sicrhau ymgysylltu cynnar wrth ddatblygu polisi a dyletswydd cydsyniad statudol. Ymddengys y byddai'n ddiogelwch priodol i gael y ddau a bod yn fwy cydnaws â'r angen i Lywodraethau weithio gyda'i gilydd yn adeiladol wrth i ni adael yr UE.
Nodaf hefyd nad oes ymrwymiad, naill ai yn y memorandwm o gyd-ddealltwriaeth, nac yn yr ohebiaeth i ni gan y Gweinidog i ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol y cyfnewid gohebiaeth, pan na cheir cytundeb.
Rydym hefyd yn nodi bod y Gweinidog wedi gwrthod y trydydd argymhelliad yn ein hadroddiad. Roedd hwn yn ceisio sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol pan eu bod yn rhoi cydsyniad i Weinidogion y DU weithredu swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn meysydd datganoledig. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol mewn sefyllfa i gyflawni ei waith craffu, gan gynnwys gweithrediad y swyddogaethau perthnasol gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig. Bwriad yr argymhelliad hwn oedd adlewyrchu'r arferion presennol o ran cydsynio i reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Nid oedd yr argymhelliad hwn yn ddibynnol ar i'r cydsyniad hwnnw fod yn rhwymedigaeth statudol yn y Ddeddf. Roedd yn berthnasol hefyd pan ddarperir cydsyniad drwy gytundeb anstatudol. Gofynnaf i'r Gweinidog, yn ei sylwadau i gloi, gadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru yw darparu cydsyniad, ar ryw ffurf, i Weinidogion y DU weithredu mewn meysydd datganoledig ac i ymrwymo i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol pan ei bod yn rhoi'r cydsyniad hwnnw, fel y mae'n ei wneud ar hyn o bryd o dan Ddeddf 2018; ymrwymo i roi ar gael i'r Cynulliad yr ohebiaeth pan na all Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU ddod i gytundeb; ac i egluro beth yw'r cyfnod amser y mae'n disgwyl i'r trefniadau barhau. Roedd ein hadroddiad hefyd yn ymdrin â rhai egwyddorion cyfansoddiadol pwysig, sef y broses memorandwm cydsyniad offeryn statudol. Fe wnaethom ni hefyd fynegi ein pryderon yn ein hadroddiad o gynnydd, ar graffu ar reoliadau Brexit, ac ar ôl cael ymateb i'r adroddiad hwnnw ddoe, byddwn yn ystyried y mater hwn ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rwy'n codi i gynghori'r Siambr hon i wrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac nid ar chwarae bach yr wyf yn gwneud hynny. Rydym yn gwerthfawrogi natur frys y sefyllfa, a chredaf ei bod yn gwbl briodol i gydnabod bod y Gweinidog wedi gwneud rhywfaint o gynnydd go iawn wrth wella'r hyn, a oedd i ddechrau, ond yn ein barn ni, sy'n parhau i fod yn ddarn o ddeddfwriaeth wael a pheryglus.
I ddechrau fy nghyfraniad, rwyf eisiau troi yn fyr at y rheswm pam nad ydym yn teimlo bod y diwygiadau a nodir yn llythyr y Gweinidog ddoe yn ymdrin â'n pryderon yn llawn, er iddynt fynd i'r afael â rhai pryderon pwysig. Nid ydynt yn mynd yn ddigon pell. Croesewir gwelliant y Llywodraeth i ddileu pŵer Llywodraeth y DU i ddiddymu neu ddirymu deddfwriaeth sylfaenol Cymru, ac felly hefyd y cymal machlud, ond nid yw'r cymal machlud ynddo ei hun yn ymdrin â chwmpas eang iawn y pŵer yng nghymal 2, a gallai Llywodraeth y DU â'i bryd ar wneud hynny wneud cryn dipyn o ddifrod mewn pum mlynedd os dymunent hynny.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o safbwyntiau Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi fod y pwerau a roddwyd i Weinidogion yn y ddeddfwriaeth hon—hynny yw Gweinidogion y Deyrnas Unedig—yn ormodol ac yn anghymesur â'r canlyniadau a nodwyd. Atgoffaf y Siambr o rai enghreifftiau o hynny: nid oes unrhyw gyfyngiad ar faint o daliadau y gellir eu gwneud; does dim terfyn ar bwy y gellir eu hariannu ledled y byd; does dim cyfyngiad ar y math o ofal iechyd y gellir ei ariannu; gall rheoliadau roi swyddogaethau i unrhyw un yn unrhyw le—a gallwn barhau. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r pryderon hyn.
Rydym ni wedi codi pryderon ynglŷn ag ehangder y pwerau hyn ac mae'r pwerau y gallai'r Bil hwn eu rhoi i Weinidogion y DU, er enghraifft, roi mynediad llawn i'r farchnad i gwmnïau gwasanaethau gofal iechyd o bob rhan o'r byd. Unwaith eto, dyfynnaf o ddadl Tŷ'r Arglwyddi, pan fo Aelod yn pryderu bod y sicrwydd a roddwyd gan Weinidog yn methu'r pwynt a wnaed, ac wedyn yn gofyn eto am yr eglurhad y mae angen i'r Gweinidog roi sylw iddo.
Mae cwmpas a phwerau'r Bil hwn yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i drefnu contractau gyda darparwyr ein GIG o unrhyw fan.
Nawr, ni allwn weld beth sydd yn y gyfres newydd o welliannau a fyddai'n amddiffyn Cymru yn awtomatig rhag defnydd posibl y pwerau gan Lywodraeth y DU.
Rydym yn croesawu'r gwelliannau y mae'r Gweinidog wedi'u sicrhau, ond rwyf am ofyn iddo yn benodol a yw'n barod i edrych ar rai o'r gwelliannau eraill sydd, rwy'n deall wedi'u cyflwyno fel gwelliannau gan y meinciau cefn. Rwyf wedi cael fy nghynghori y gallai rhai o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y meinciau cefn ymdrin â'r mater hwnnw o gwmpas eang pwerau, sydd i bob pwrpas yn rhoi i Weinidogion y DU yr union bŵer i efelychu trefniadau presennol yr UE. Yn sicr fe fyddai hynny'n well na'r cwmpas eang iawn hwn o bwerau, y mae Pwyllgor yr Arglwyddi wedi dweud, ac rydym ni o'r farn, sy'n mynd y tu hwnt i nod datganedig y Bil. Byddwn yn pwyso ar y Gweinidog i ystyried hyn ac i weld a oes unrhyw le, hyd yn oed ar yr adeg hwyr hon, i drafod â Llywodraeth y DU er mwyn iddi dderbyn rhai o'r gwelliannau hynny, fel ein bod yn dod â'r Bil hwn yn ôl o fewn y cwmpas y bwriadwyd iddo'n wreiddiol.
Yn fyr, rwyf am droi, cyn imi gloi fy sylwadau, at y mater o femoranda cyd-ddealltwriaeth. Felly, er enghraifft, y memorandwm cyd-ddealltwriaeth a rannwyd â'r pwyllgor iechyd ar 28 Chwefror—ac, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am wneud hynny—ac atodiad 2, adran c, paragraff 19:
Bydd Llywodraeth y DU yn gwneud pob ymdrech—
Pwy sy'n diffinio beth fyddai 'pob ymdrech'?— wrth wneud rheoliadau y mae adran 5 o Ddeddf HIA yn gymwys i fwrw ymlaen ar sail consensws— wel, byddwn i'n gobeithio hynny wir, hefyd— ac ni fydd fel arfer yn gwneud rheoliadau na chawsant eu cytuno â Gweinidogion y gweinyddiaethau datganoledig.
Nawr, efallai bydd y Gweinidog yn gallu rhoi sicrwydd imi heddiw y bydd y gwelliannau arfaethedig yn ymdrin â hynny. Rwy'n amau eu bod yn gwneud hynny'n llawn. Hoffwn i ni, Llywydd, ystyried y gair 'arferol'. Beth bynnag y bônt, nid amserau arferol yw'r rhain. Mae Gweinidogion y lle hwn yn sôn wrthym yn aml pa mor frawychus ac ofnadwy yw'r Llywodraeth Geidwadol, ac nad oes modd dibynnu arnynt i wneud rhyw lawer, ac eto, ar yr anadl nesaf, maen nhw'n dweud eu bod yn credu fesul achos eu bod wedi cyflawni cytundebau y mae'n bosibl iddynt ddibynnu arnynt gyda'r unigolion ofnadwy hyn. Ni all y ddau beth fod yn wir. Ni all fod yn bosibl bod y bobl hyn ag anian ddrwg ac yn debygol o ymddwyn yn amhriodol ac y gellir ymddiried yn eu memoranda cyd-ddealltwriaeth. Mawr obeithiaf fy mod yn anghywir, ac efallai y gall y Gweinidog roi sicrwydd pellach i ni ynghylch y broses honno. [Torri ar draws.] Byddwn yn hapus iawn i dderbyn ymyriad os ydy'r Gweinidog yn dymuno gwneud un. Neu, yn wir, os dymunai unrhyw un ar ei meinciau cefn wneud hynny yn ei lle.
Ond rwy'n credu bod angen i ni ofyn beth mae 'fel arfer' yn ei olygu. A allwn ni ddibynnu ar femoranda cyd-ddealltwriaeth y gellir eu newid? Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn y ddadl flaenorol am yr angen i'r gweithdrefnau arferol ynghylch yr hyn a ddywedir yn Siambr Tŷ'r Cyffredin sefyll, ond rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod, fel y dywedaf, nid yw'r amseroedd hyn yn normal.
Nawr, yn amlwg, mae'r rhan fwyaf ohonom yn dymuno peidio â bod yn y sefyllfa hon. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn dymuno na fyddai'r Gweinidog mewn sefyllfa o orfod symud ymlaen mor gyflym â'r hyn sy'n fater pwysig, a byddwn yn cytuno ag ef, wrth gwrs, nad ydym eisiau cael ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw'r trefniadau cyfatebol hynny ar gael. Rydym yn gwerthfawrogi'r brys, ac rydym hefyd yn gwerthfawrogi y bu rhywfaint o symud i'r cyfeiriad cywir. Ond nid wyf i yn ymddiried rhyw lawer mewn memoranda cyd-ddealltwriaeth. Mae'n well gen i roi fy ffydd mewn cyfreithiau sy'n gyfreithiol rwymol. Mae'r rhain yn amgylchiadau anodd iawn, ond nid yw amgylchiadau anodd yn esgus dros wneud cyfraith sydd o bosibl yn wael, ac anogaf y Siambr i wrthod.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch i chi, Llywydd. Diolch i'r ddau Aelod am eu cyfraniadau i'r ddadl. Gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyfres o gwestiynau manwl iawn na fyddaf yn gallu eu hateb yn iawn ar hyn o bryd. Nid wyf yn credu y byddwn yn gallu gwneud cyfiawnder â nhw. Fodd bynnag, fe ysgrifennaf at y pwyllgor i godi'r pwyntiau hynny sydd ar y cofnod i sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â nhw.
Ond mae'n werth adlewyrchu, ochr yn ochr â'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, bod y gwelliant a osodwyd ar 5 Mawrth yn rhoi ar wyneb y Bil y gofyniad hwnnw i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud rheoliadau o dan adran 2 sy'n cynnwys darpariaethau sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y lle hwn. Diwygiwyd y Bil i ddileu'r pŵer i ddiwygio, diddymu na dirymu deddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys Deddfau neu Fesurau y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'n werth atgoffa ein hunain bod y Bil fel y'i gosodwyd yn wreiddiol wedi sicrhau cydsyniad Gweinidogion yr Alban. Y rheswm pam yr ydym ni mewn sefyllfa wahanol yw oherwydd bod y Llywodraeth hon wedi cymryd safbwynt gwahanol, a'n bod wedi negodi a sicrhau newid gwirioneddol a pherthnasol sy'n diogelu sefyllfa, nid yn unig y Llywodraeth hon, ond pob llywodraeth genedlaethol datganoledig yn y Deyrnas Unedig yn well. Fel y cyfeiriodd Mick Antoniw ato, mae'r gwelliannau a gyflwynwyd yn ddiweddar i gyflwyno cymal machlud yn cyfyngu ar y pŵer i wneud darpariaeth unochrog am bum mlynedd ar ôl y diwrnod ymadael, felly ni fydd Llywodraeth y DU yn parhau i allu gwneud rheoliadau i roi grym i gytundebau gofal iechyd y tu hwnt i'r dyddiad hwn.
Mae angen i mi geisio ymdrin â naws a sylwedd peth o gynnwys y sylwadau a wnaed gan Helen Mary Jones, oherwydd nid wyf yn cytuno â'i hasesiad hi y dylid disgrifio'r Bil hwn fel darn o ddeddfwriaeth gwael a pheryglus. Mae'n ddarn angenrheidiol o ddeddfwriaeth er mwyn i gytundebau gofal iechyd rhyngwladol cyfatebol barhau—y rhai hynny y mae dinasyddion Cymru ac eraill yn cael budd ohonyn nhw fel yr ydym ni heddiw. Y risg yw, os nad ydym ni mewn sefyllfa i wneud hyn, ac na chaiff y Bil ei basio, yna os byddwn ni'n gadael heb gytundeb ddiwedd mis Mawrth, ni fydd gan ein dinasyddion yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw mewn rhannau eraill o Ewrop yr hawl i ofal iechyd cyfatebol. Mae'n ddarn angenrheidiol o ddeddfwriaeth, ac nid yw diben y Bil yn ymestyn—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Gadewch imi orffen y pwynt hwn. Nid yw'n ymestyn i'r holl sefyllfaoedd o bryder a godwyd yng nghyfraniad Helen Mary Jones. Nid wyf eisiau dychwelyd i fod yn gyfreithiwr unwaith eto, ond mae angen i chi edrych ar ddiben y Bil gan ddeall ei ddarpariaethau ac unrhyw gamau gweithredu a gymerir yn ei enw, yn enwedig pan fo hynny'n cyfrif fel is-ddeddfwriaeth. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Felly, a ydych chi'n gwadu barn pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi a ddywedodd fod hyn yn amlwg yn mynd y tu hwnt—drafftio'r ddeddfwriaeth, hyd yn oed gyda'r gwelliannau yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw—yn amlwg yn mynd y tu hwnt i fwriad y ddeddfwriaeth pan gafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf? Ac onid oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch hynny?
Edrychwch, nid wyf i yma i geisio dweud bod hwn yn ddarn perffaith o ddeddfwriaeth. Y dewis yr ydym ni'n ei wneud yw pa un a ydym am roi ein cydsyniad i'r ddeddfwriaeth fynd yn ei blaen o gofio'r effaith a gaiff ar ein dinasyddion os ydym ni'n rhoi ein cydsyniad, neu beidio. Pe byddwn i'n drafftio'r darn hwn o ddeddfwriaeth byddai'n edrych yn wahanol, a gwn y bu gan Dŷ'r Arglwyddi bryderon ynghylch cwmpas y ddeddfwriaeth, ac mae un o'r gwelliannau a basiwyd gan Dŷ'r Arglwyddi heddiw yn cyfyngu'r cwmpas i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ehangach yn hytrach na'n cytundebau rhyngwladol ehangach. Byddai'n well gen i i ffurf derfynol y Bil fod felly, ond hyd yn oed os nad yw, rwy'n dal i gredu mai'r penderfyniad cywir ar gyfer y Cynulliad yw i roi ein cydsyniad i'r Bil fel y'i cyflwynwyd, oherwydd ei fod yn darparu mwy o drefniadau diogelu ar gyfer y lle hwn a'n pwerau, ac mewn gwirionedd, yn llawer pwysicach, mae'n diogelu sefyllfaoedd ein dinasyddion y mae gennym gyfrifoldeb drostynt. Rwyf wedi ei gwneud yn glir yn y gorffennol nad yw Llywodraeth Cymru yn dymuno rhwystro trefniadau gofal iechyd cyfatebol. Ond mae angen i ni gael ein cynnwys yn briodol wrth ddatblygu unrhyw gytundebau gofal iechyd cyfatebol yn y dyfodol, ac nid yw hynny wedi digwydd hyd yn hyn. Felly, mae gennym ni gytundeb ar wella ein rhan ni yn y cytundeb yn y dyfodol a rhagdybio trefniadau gofal iechyd cyfatebol. A daw'r sicrwydd deddfwriaethol ac anneddfwriaethol a ddarperir gan Lywodraeth y DU â'r Bil hwn i sefyllfa lle y gallaf ac yr wyf yn argymell ein bod ni'n rhoi ein cydsyniad.
Felly, rydym wedi cynnal sefyllfa negodi gref gyda Llywodraeth y DU sydd wedi arwain at welliannau cadarnhaol yn y Bil a memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n ei gwneud yn glir sut y byddwn yn rhan o ddatblygiad cytundebau gofal iechyd yn y dyfodol, ac rwy'n nodi ar gyfer y Siambr fod Gweinidogion yr Alban wedi dangos eu cefnogaeth i'r dull a negodwyd gan y Llywodraeth hon. Mae cytundebau gofal iechyd cyfatebol yn rhoi tawelwch meddwl i lawer o unigolion, ac mae'n iawn y dylai Llywodraeth Cymru fod â rhan gadarnhaol a gweithredol wrth sicrhau bod darpariaeth briodol yn bodoli ar gyfer trigolion Cymru yn y dyfodol, ac felly gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.