Grŵp 9: Gweithdrefnau ymdrin â chwynion (Gwelliannau 47, 11, 48)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:46, 13 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Byddwn yn cefnogi gwelliant 11 gan ein bod yn credu y dylai'r Cynulliad gymryd rhan yn y gwaith o graffu ar unrhyw newidiadau sylweddol y gallai'r ombwdsmon eu gwneud i'r datganiad o egwyddorion cyn belled ag y bo'n ymarferol.

Cyflwynwyd gwelliant 48, lle mae angen cadarnhad i sicrhau bod yr ombwdsmon yn ystyried adnoddau cynghorau tref a chymuned. Mae gwelliant 48 yn ailadrodd y pryderon a godwyd gennym yng Nghyfnod 2 ynglŷn â gallu cynghorau tref a chymuned fel awdurdodau rhestredig o dan y Bil i gyflawni eu dyletswyddau. Er enghraifft, mae'r Bil yn cynnwys llawer o ofynion a therfynau amser i awdurdodau rhestredig, sy'n cynnwys terfyn amser o chwe mis i awdurdodau rhestredig gyflwyno eu gweithdrefn ymdrin â chwynion eu hunain.

Yng Nghyfnod 1 dywedais fy mod yn cefnogi cymhwyso'r Bil i gynghorau tref a chymuned, ond y gallwn weld o safbwynt yr ombwdsmon a chynghorau tref a chymuned fel ei gilydd pa mor feichus y gallai cyflawni'r dyletswyddau fod pan fo niferoedd staff ac adnoddau'n fach iawn. Ceir dros 730 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda 8,000 o gynghorwyr. Fel y dangosodd yr archwilydd cyffredinol yn ei adroddiad ar y cynghorau tref a chymuned, mae rhai cynghorau eisoes yn cael trafferth i gymhwyso'r dyletswyddau statudol presennol. Fel y nodais yng Nghyfnod 2, ni allodd bron 100 o gynghorau tref a chymuned gyflwyno eu harchwiliadau erbyn y dyddiad cau ar 30 Tachwedd 2018. Derbyniodd ymhell dros 340 o gynghorau tref a chymuned farn archwilio amodol yn yr un flwyddyn—ddwy waith cymaint â'r nifer yn 2016-17. At hynny, mae 24 o gynghorau yn dal i fod heb wneud trefniadau priodol ar gyfer cyhoeddi dogfennau ar-lein fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013. Hefyd, nododd yr archwilwyr faterion yn codi yn natganiadau cyfrifyddu 180 o gynghorau; ni chwblhaodd 270 o gynghorau y ffurflen flynyddol yn llawn cyn ei chyflwyno ar gyfer archwiliad.

Felly, mae pryderon ynglŷn â gallu cynghorau tref a chymuned i gyflawni eu dyletswyddau wedi rhedeg drwy hynt y Bil. Cyfeiriaf yn ôl at dystiolaeth cyngor dinas Caerdydd ynghylch darpariaethau'r Bil, ac yn tynnu sylw at y risg fod canllawiau'r ombwdsmon 'yn rhy rhagnodol' ac yn methu caniatáu ar gyfer rhywfaint o hyblygrwydd i awdurdodau lleol drin ac ymchwilio i gwynion mewn ffordd sy'n addas ar gyfer eu maint a'u strwythur.

Yn ogystal, roedd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn pryderu ynglŷn â'r effaith y gallai darpariaethau ei chael ar sefydliadau llai o faint—safbwyntiau a fynegwyd hefyd gan gyngor Blaenau Gwent, a nododd mewn tystiolaeth nad oes gan rai cynghorau llai o faint ddigon o adnoddau i feddu ar swyddogion cwynion penodol ar gyfer derbyn a chofnodi cwynion. Ymhellach, dywedodd Cyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor y dylai polisïau/gweithdrefnau enghreifftiol neu safonol o'r fath fod yn gymesur â maint cynghorau cymuned a chynghorau tref a chydnabod hefyd y gallai alw am gostau trosiannol.

Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, mae Un Llais Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau tref a chymuned yng Nghymru, wedi ysgrifennu ataf yn dweud bod ganddynt bryderon am y weithdrefn gwyno enghreifftiol. Nododd ymhellach fod y rhan fwyaf o gynghorau tref a chymuned Cymru yn anhygoel o fach ac yn cyflogi un clerc yn unig, a fyddai'n debygol o fod yn gweithio ar sail ran-amser. Fel y cyfryw, mae'n dal i fod yn anodd gweld a fydd cynghorau tref a chymuned llai o faint gydag adnoddau cymharol gyfyngedig yn cyflawni'r darpariaethau a amlinellir o dan y Bil heb ystyriaeth briodol gan yr ombwdsmon.

Unwaith eto, mae'n galonogol fod y memorandwm esboniadol yn nodi mai mater i'r ombwdsmon ei benderfynu yn ôl ei ddisgresiwn yw pa awdurdodau rhestredig sydd i gyhoeddi gweithdrefnau ymdrin â chwynion enghreifftiol, ond mae'n werth cofnodi'r disgwyliad y bydd yr ombwdsmon yn ystyried adnoddau awdurdodau rhestredig, ac o leiaf yn gweithio gyda'u cyrff cynrychioliadol i sicrhau y caiff y weithdrefn gwyno ei haddasu'n ddigonol i ystyried adnoddau cyfyngedig cynghorau tref a chymuned yng Nghymru.

Mewn perthynas â gwelliant 47, mae hwn yn dileu'r weithdrefn sy'n ymwneud â chyhoeddi datganiad o egwyddorion gan yr ombwdsmon, ac yn gosod gweithdrefn arall yn ei lle. Mae'r newidiadau a wnaed i ddatganiad o egwyddorion yr ombwdsmon a amlinellwyd yng ngwelliant 56 yng Nghyfnod 2 yn golygu na cheir fawr o gyfle i'r Cynulliad graffu'n briodol ar yr egwyddorion cyn eu cyflwyno. Mae hyn yn newid y broses o fod yn gadarnhaol i fod yn un negyddol, a chredaf fod hynny'n gam yn ôl, o ystyried canmoliaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i natur gadarnhaol y Bil yng Nghyfnod 1. Er ein bod yn cydnabod mai datganiad o egwyddorion yw hwn yn hytrach na rheoliadau, rydym yn dadlau eu bod yn rhan annatod o weithrediad y weithdrefn enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion, ac felly dylent fod yn ddarostyngedig i graffu ar ran y Cynulliad. Fan lleiaf, dylai'r datganiad o egwyddorion cyntaf gynnwys gweithdrefn gadarnhaol fel bod cyfle i'r Cynulliad eu cymeradwyo. Rydym yn gofyn felly i'r Aelod cyfrifol egluro ei resymeg dros y newid cyfeiriad hwn. Pam y weithdrefn negyddol yn hytrach na'r weithdrefn gadarnhaol?