Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 13 Mawrth 2019.
Fe ddechreuaf drwy ddweud fy mod yn hapus i gefnogi gwelliant 11. Mae'r Aelod cyfrifol yn argymell diweddaru'r drafft er mwyn sicrhau bod y weithdrefn ar gyfer sicrhau cytundeb y Cynulliad i'r egwyddorion ymdrin â chwynion yn glir yn ddwyieithog yn y Bil, ac mae hynny i'w groesawu.
Fodd bynnag, wrth siarad am welliant 47, byddai hwn yn dadwneud gwelliant a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yng Nghyfnod 2, a oedd, fel yr eglurodd yr Aelod cyfrifol ar y pryd, yn sicrhau gwell cydbwysedd rhwng rhyddid yr ombwdsmon i ddrafftio'r datganiad o egwyddorion a gallu'r Cynulliad i'w wrthod, pe baem yn ystyried bod hynny'n briodol.
Mae'r weithdrefn y mae gwelliant 47 yn ceisio ei hadfer yn gadael llawer iawn o ansicrwydd i'r ombwdsmon os nad yw'r Cynulliad yn gwneud unrhyw benderfyniad i gymeradwyo'r egwyddorion ymdrin â chwynion o fewn y cyfnod o ddau fis. Yn yr achos hwn, ni fyddai'r ombwdsmon yn gwybod a yw'r Cynulliad yn cefnogi'r meini prawf arfaethedig ai peidio, a oes unrhyw faterion yr hoffem eu gweld yn cael sylw, neu a fyddai'n fater syml o amseru ac y gallai'r meini prawf gael eu cymeradwyo pe baent yn cael eu cyflwyno eto. Heb gyfle i ddylanwadu ar drafodion y Cynulliad, ni fyddai'n deg gofyn i'r ombwdsmon aros i gynnig gael ei gyflwyno o blaid eu meini prawf cyn symud ymlaen i weithredu'r pwerau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol eisoes wedi'u trafod yn y Bil hwn. Nid wyf yn meddwl bod y broses a awgrymir gan yr Aelod yn angenrheidiol i sicrhau bod y Cynulliad yn fodlon ar gynigion yr ombwdsmon. Byddai pasio'r Bil hwn yn arwydd o awydd y Cynulliad i weld datganiad o egwyddorion ymdrin â chwynion yn cael ei wneud gan yr ombwdsmon, ac os nad yw'r cynnig hwnnw yn unol â'n disgwyliadau, gall y Cynulliad ei wrthod a rhoi cyfarwyddyd i'r ombwdsmon ailystyried.
Gan siarad am welliant 48, mae'r Aelod yn nodi pwynt perthnasol y bydd angen i'r ombwdsmon fod yn gymesur wrth gymhwyso gweithdrefnau ymdrin â chwynion enghreifftiol i awdurdodau, yn enwedig yn yr enghraifft o gynghorau cymuned, fel y mae wedi'i argymell. Fodd bynnag, byddai'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon ystyried adnoddau cynghorau cymuned pan fyddant yn datblygu gweithdrefn ymdrin â chwynion enghreifftiol, hyd yn oed os na fwriadwyd i'r weithdrefn honno fod yn gymwys i gynghorau cymuned. Nid yw hon yn ffordd gymesur o gyflawni nod yr Aelod. Byddai'n arwain at faich gweinyddol diangen ar bwerau safonau cwynion yr ombwdsmon i'r holl gyrff eraill yng Nghymru. Mae'r Bil eisoes yn cynnwys gofyniad i'r ombwdsmon ymgynghori cyn cymhwyso gweithdrefnau ymdrin â chwynion enghreifftiol i unrhyw gorff. Byddai hyn yn caniatáu i unrhyw gorff sy'n pryderu ynglŷn â baich gweinyddol eu cynigion godi'r mater, ac i'r ombwdsmon ffurfio safbwynt cytbwys am fanteision y system gwynion yn erbyn y gost o'i rhoi ar waith.
At hynny, seiliwyd y ddeddfwriaeth ar yr egwyddor fod yr ombwdsmon yn awdurdod cwynion annibynnol y gellir ymddiried ynddo, a benodir yn uniongyrchol gan, ac yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol. Os nad yw'r Cynulliad yn fodlon ynglŷn â defnydd yr ombwdsmon o'u pwerau, gellir rhoi sylw i hyn drwy waith craffu'r pwyllgor ar yr ombwdsmon. Y tu hwnt i hyn, mewn achosion eithafol, mae'r ombwdsmon yn ddarostyngedig i lwybr cyfraith gyffredin arferol adolygiad barnwrol, y gellir herio unrhyw ofyniad afresymol drwyddo. Gyda'r trefniadau atebolrwydd hyn eisoes ar waith, ni ddylem deddfu ar y rhagdybiaeth y bydd yr ombwdsmon yn defnyddio'u pwerau'n anghyfrifol. Rwy'n siŵr y bydd yr ombwdsmon yn gwrando ar y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau yn y ddadl heddiw ac yn eu hystyried wrth benderfynu ar y dull o weithredu gweithdrefnau cwyno enghreifftiol ar gyfer cyrff cyhoeddus. Ar y sail hon, nid wyf yn meddwl bod angen y gwelliant hwn, a gofynnaf i'r Aelodau beidio â'i gefnogi, na gwelliant 47 heddiw.