Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym wedi bod yn sôn am Cyfoeth Naturiol Cymru gryn dipyn yn y Siambr hon dros y ddwy flynedd ddiwethaf felly efallai ei bod yn briodol inni gael trafodaeth fwy eang, fel rydym yn ei chael heddiw, ar stiwardiaeth gyffredinol y sefydliad ar amgylchedd naturiol Cymru.
Mae cynnig y Ceidwadwyr yn beirniadu'r penderfyniadau a wnaed gan uwch-reolwyr ac yn nodi diffygion yn y ffordd y cafodd contractau pren eu trafod, gosod amodau ar gyfrifon gan Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd yn olynol, a'r gwrth-ddweud cynhenid ynghylch agweddau tuag at ymyrraeth ar y naill law, ar fater saethu ar dir cyhoeddus, ac ar y llaw arall, mater dympio slwtsh niwclear fel y'i gelwir ym Môr Hafren. Er, wrth gwrs, nid yw'r mater penodol hwnnw'n ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig; mae'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ogystal a'r modd y mae'n rhyngweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r materion hyn oll yn faterion o bwys, mae llawer wedi'i ysgrifennu amdanynt a chredaf ei bod yn iawn eu galw'n fethiannau ac yn fethiannau go ddifrifol. Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn cyfeirio at arolygon staff a gynhaliwyd o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru, sef yr arwydd cyntaf o anniddigrwydd o fewn y sefydliad hwnnw. Yr arolygon staff cynnar oedd yr awgrym cyntaf efallai nad oedd y sefydliad, a oedd yn gyfuniad o'r tri chorff gwahanol, yn sefydliad hapus iawn o'r cychwyn cyntaf. Cyfeiriodd Andrew R.T. Davies hefyd yn ei gyfraniad at y ffaith fod rhai Aelodau'n ceisio tynnu sylw Llywodraeth Cymru at ei ddiffygion o gam cynnar. Yn anffodus, roedd yn rhaid i bethau symud yn eu blaenau a bu'n rhaid i'r methiannau ddod yn fwy amlwg cyn i unrhyw gamau gael eu rhoi ar waith.
Nawr, i fod yn deg, mae Llywodraeth Cymru—. Y pwynt a wnaeth Rhianon: mae Llywodraeth Cymru wedi penodi prif weithredwr newydd a chadeirydd dros dro, felly cafwyd cydnabyddiaeth o fethiannau yn y gorffennol a'r angen i wneud pethau'n wahanol yn y dyfodol. Cawsom sesiwn graffu gyda ffigyrau blaenllaw o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru ar y pwyllgor amgylchedd yn ddiweddar, felly clywsom sut y mae pethau'n datblygu yn y sefydliad o'u safbwynt hwy, ac roedd honno'n sesiwn ddefnyddiol. Un broblem a oedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cychwyn oedd yr angen i ddod â gwybodaeth arbenigol i mewn o'r tu allan i Gymru am nad oedd digon o arbenigedd o fewn y sefydliad. Felly, roedd honno'n broblem o ran sut y sefydlwyd y corff ar y cychwyn.
Efallai, fel y mae Llyr Gruffydd yn awgrymu fel posibilrwydd, fod y sefydliad bellach yn dod i drefn ac yn dechrau cyflawni ei gylch gwaith yn fwy effeithiol. Rwy'n meddwl bod hynny'n wir i ryw raddau, ac mae angen i ni roi cyfle iddo. Nawr, edrychais ar y cynnig gan y Ceidwadwyr a meddwl, o'ch cynnig chi, eich bod chi'n caniatáu ar gyfer y posibilrwydd hwnnw mewn gwirionedd, oherwydd nid ydych yn nodi yn eich cynnig fod yn rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru fynd, er fy mod yn ymwybodol o'r cyfraniad y mae Oscar Asghar newydd ei wneud. Ond wrth edrych ar eich cynnig, nid ydych yn dweud bod yn rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru fynd; mae eich cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad annibynnol i fethiannau'r sefydliad ac i ymchwilio i gynigion amgen. Felly, ar y sail honno, roeddem yn eich cefnogi, ac mae hynny'n wir o hyd, oherwydd rhaid inni gyd-fynd â'r cynnig, nid o reidrwydd â phopeth a ddywedwch. Credaf fod angen inni gael adolygiad annibynnol trylwyr o'r hyn sydd wedi mynd o'i le yn y gorffennol, ac felly rydym yn cefnogi'r cynnig.
Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn datgan eu bod wedi penodi prif weithredwr a chadeirydd newydd. Mae'n cydnabod ein bod wedi cael adroddiadau gwael ar Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae'n dweud bod y sefydliad bellach yn ceisio gweithredu argymhellion dau adroddiad cyfredol, sy'n ddigon teg cyn belled ag y mae'n mynd. Nid yw'n cynnwys unrhyw adolygiad ehangach posibl i weld a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas i'r diben mewn gwirionedd, fel y mae cynnig y Ceidwadwyr yn llwyddo i'w wneud.
Yr amrywiol welliannau gan Blaid Cymru: mae gwelliant 2 yn lleddfu cynnig y Ceidwadwyr, ac mae gwelliant 3 yn rhoi ffocws mwy cyfyngedig iddo fel nad yw ond yn feirniadol o Cyfoeth Naturiol Cymru ar faterion yn ymwneud â choedwigaeth yn unig. Wel, y broblem yw bod methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn eang. Nid ydynt wedi'u cyfyngu i faterion coedwigaeth yn unig. Rwy'n derbyn bod gan Llyr Gruffydd amheuon fod y Ceidwadwyr, yn ei farn ef, wedi pardduo'r holl staff, ond nid wyf yn credu bod hynny'n wir mewn gwirionedd, ac os edrychwch ar bwynt 2, maent yn cydnabod gwaith caled y staff rheng flaen yn y sefydliad. Eu barn hwy oedd eu bod wedi cael cam gan y rheolwyr, felly—.
Felly, mae'n well gennym gefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw, ac ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau y soniais amdanynt. Byddwn yn cefnogi gwelliant 4 Plaid Cymru, sydd, yn gwbl gywir, yn tynnu sylw at y ffaith bod angen i Cyfoeth Naturiol Cymru gael adnoddau priodol. Diolch yn fawr.