Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 13 Mawrth 2019.
Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas i'r diben. Deilliodd y gwaith o greu cwango mwyaf Cymru o gynnig byrbwyll heb ei weithredu'n iawn i uno tri chorff gwahanol a chanddynt dair strategaeth waith wahanol. O ganlyniad, gwelwyd diffyg arweinyddiaeth, mae morâl y staff wedi plymio, gwastraffwyd arian cyhoeddus ac mae hyder yn y sefydliad wedi diflannu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael digon o rybuddion ynglŷn â methiant difrifol Cyfoeth Naturiol Cymru ond mae wedi methu gweithredu. Mae i sefydliad sydd mor bwysig i fywyd yng Nghymru gael barn amodol ar ei gyfrifon am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ddigynsail ac yn annerbyniol. Clywn yn awr fod prif weithredwr newydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfaddef y gallai eu cyfrifon wynebu barn amodol am bedwaredd flwyddyn, rhywbeth nas gwelwyd erioed o'r blaen.
Yn ei adroddiad diweddar, daeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i'r casgliad nad yw trefniadau rheoli mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas i'r diben, ond—ac mae hyn yn peri pryder arbennig—tynnwyd sylw at yr un materion yn ymwneud ag afreoleidd-dra dair blynedd yn ôl gan yr archwilydd cyffredinol ar y pryd. Arweiniodd y cyfuniad hwn o arweinyddiaeth analluog, diffyg atebolrwydd a morâl staff isel at staff gydag arbenigedd masnachol hanfodol yn gadael. O ganlyniad, gwnaethpwyd penderfyniadau sydd wedi achosi colled ariannol ddifrifol i'r trethdalwr. Amlygir hyn yn y dadleuon ynglŷn â sut y cafodd pren ei werthu dro ar ôl tro heb fynd i'r farchnad agored. Collodd y sgandal o leiaf £1 miliwn i drethdalwyr Cymru, ac arweiniodd at ymddiswyddiad cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Disgrifiwyd y sefyllfa ar y pryd gan Lee Waters, cyn ei ddyrchafu i'r fainc flaen, a dywedodd—a'i eiriau ef yw'r rhain—
'dylai fod atebolrwydd gan yr uwch arweinwyr... [yn] y sefydliad hwn, sy'n ymddangos fel pe bai wedi colli rheolaeth.'
Aeth ymlaen i ddweud
'ymddengys bod adran goedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wedi colli rheolaeth'.
Ers hynny mae llawer wedi colli ffydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ddiweddar, anfonodd deg o gwmnïau coed lythyr ar y cyd at Lywodraeth Cymru yn dweud nad oedd ganddynt hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli coedwigaeth yng Nghymru. Honnent fod 12,000 o swyddi yn yr economi wledig a £100 miliwn o fuddsoddiad newydd dros y pum mlynedd nesaf mewn perygl. Daeth y cwmnïau hyn i'r casgliad nad oedd ganddynt hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu gwasanaeth cynaliadwy neu fasnachol mewn modd masnachol hyfyw.
Yn 2018, ildiodd Cyfoeth Naturiol Cymru i bwysau gan weinidogion a phenderfynodd beidio ag adnewyddu trwyddedau ar gyfer saethu adar hela ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Roedd y penderfyniad hwn yn groes i dystiolaeth wyddonol ac adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun nad oedd angen newid y ddeddfwriaeth bresennol. Drwy ildio i Lywodraeth Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi sector sy'n werth £75 miliwn y flwyddyn i economi Cymru a 2,400 o swyddi mewn perygl.
Ddirprwy Lywydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi siomi pobl Cymru mewn ffordd systematig. Ni ellir caniatáu i'r sefyllfa bresennol barhau. Mae'n bryd cael gwared ar Cyfoeth Naturiol Cymru a gosod dau gorff ar wahân yn ei le: un i ymdrin â'r dyletswyddau rheoleiddio a gyflawnir gan y sefydliad a'r llall, ei agweddau masnachol. Dyna y mae'r ochr hon i'r Siambr yn gofyn amdano. Drwy wneud y newidiadau hyn yn unig y gallwn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr a darparu amddiffyniad effeithiol ac effeithlon i'r amgylchedd yng Nghymru. Diolch.