Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 13 Mawrth 2019.
Na, na, dwi eisiau cael mwy na munud i ddatblygu fy nadl, os gaf i. Efallai y gwnaf i ei gymryd e ar y diwedd, os oes amser. Dwi wedi colli lle roeddwn i’n mynd nawr yn barod.
Rwyf i wedi sôn o’r blaen am Brexit a’r holl newidiadau a phroblemau fydd yn dod yn sgil hynny. Wel, os ŷch chi’n cyflwyno newid sefydliadol sylweddol ar yr un pryd â hynny, rŷch chi’n gofyn am drafferth, yn fy marn i.
Mae gwelliant 4 gennym ni, wrth gwrs, yn cyfeirio, fel rydym ni bob tro yn ei wneud pan ydym ni'n sôn am Gyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r wasgfa adnoddau. Y gwir yw bod y sefydliad wedi dioddef toriad o 35 y cant i’w ariannu mewn termau real ers cael ei sefydlu—traean o’i gyllideb wedi cael ei golli mewn cwta pum mlynedd. Nawr, dangoswch i fi unrhyw sefydliad sy’n gallu cymryd toriadau o’r fath yna heb fod yna rai oblygiadau fydden ni ddim yn eu dymuno ac yna rŷch chi’n gwneud yn dda, yn fy marn i. Ac ar yr un pryd, wrth gwrs, fel dwi hefyd yn atgoffa Aelodau’n gyson, mae’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau wedi cynyddu drwy Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, trwy Ddeddf yr amgylchedd ac yn y blaen, ac mae’r trajectory yna yn gwbl anghynaladwy. Adnoddau’n crebachu, cyfrifoldebau’n cynyddu.
Ac mae’n dweud tipyn, dwi’n meddwl, fod y sefydliad wedi bod yn mynd trwy adolygiad sefydliad cyfan, whole-organisation review, ac yntau’n sefydliad mor ifanc, os liciwch chi—beth, rhyw bump, chwe blynedd oed—gan gydnabod y byddai’r sefydliad, o ganlyniad i hynny, ie, yn gorfod gweithio mewn ffyrdd gwahanol mewn rhai meysydd o weithgarwch, ond hefyd yn gweithredu yn arafach mewn rhai meysydd. Wel, dywedwch chi hynny wrth y bobl sy’n aros am drwyddedau amgylcheddol neu am ganiatâd cynllunio mewn rhai meysydd, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n ddigon araf yn barod. Neu, wrth gwrs, ddim yn cyflawni rhai dyletswyddau o gwbl, yn ôl llythyr gan y prif weithredwr i‘r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ychydig yn ôl, ac felly, efallai dylem ni fod yn troi at y Llywodraeth a gofyn, 'Wel, pa elfennau o’u gwaith nhw, felly, rŷch chi’n hapus iddyn nhw ollwng os ydyn nhw’n dweud wrthych chi efallai bod yn rhaid gwneud hynny?'
Nawr, dwi yn teimlo bod yna gwestiwn dilys yn y cynnig ynglŷn ag annibyniaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn sicr, beth bynnag yw eich barn chi ynglŷn ag a oedd y penderfyniad i wahardd saethu yn un cywir ai peidio, dwi’n meddwl bod y broses a gafwyd, pan gytunwyd yn unfrydol i beidio â chyflwyno gwaharddiad yn y lle cyntaf, ac wedyn, wrth gwrs, fel rŷm ni wedi trafod yn y gorffennol, y Gweinidog ar y pryd yn ysgrifennu llythyr ac yn datgan barn glir, ac o fewn dim o amser, y safbwynt yn newid. Mae hynny, yn fy marn i, yn codi cwestiynau sylfaenol, ond ar yr un pryd, wrth gwrs, mi oedd y Llywodraeth yn cuddio y tu ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru ar fater y mwd niwclear oedd yn cael ei ollwng oddi ar arfordir Cymru. Felly, rhywsut, mae'r Llywodraeth yn trio reidio dau geffyl, a dwi ddim yn meddwl y gallwch chi ei chael hi fel yna. Naill ai mae Cyfoeth Naturiol Cymru—mai nhw yw’r arbenigwyr a nhw sy’n gwneud y penderfyniad, neu rŷch chi’n derbyn rhai penderfyniadau, efallai, fel Llywodraeth, dŷch chi ddim yn eu licio, a dwi’n meddwl bod eisiau bach fwy o onestrwydd yn hynny o beth.
Dwi wedi codi hefyd, yn y gorffennol, fy nheimladau i ynglŷn â natur y berthynas rhwng y sector goedwigaeth a’r gwaith y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud ac wedi galw am ymchwiliad annibynnol nid i'r holl sefydliad, fel mae’r Ceidwadwyr yn galw amdano fe, ond, yn sicr, i’r elfen yna o a ydyn nhw’n addas i barhau i reoli’r ystâd goedwig fasnachol yng Nghymru yn benodol.
Ac yn yr ychydig eiliadau sydd ar ôl gen i, mi fyddwn i’n pwysleisio—. Mae’n rhaid inni feddwl am y staff yn hyn o beth. Oes, mae yna brif weithredwr newydd, oes, mae yna gadeirydd dros dro newydd, mae yna nifer o aelodau newydd ar y bwrdd, ond mae’r staff yna o hyd, ac mae’r staff, ar y cyfan, yn ardderchog, a dwi’n meddwl ei bod hi’n anffodus bod y cynnig yma gan y Ceidwadwyr yn pardduo pawb, os liciwch chi, o fewn y sefydliad, ac yn gwneud hynny, yn anffodus, ar sail ffaeleddau ambell un.