1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 13 Mawrth 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau fydd yn cael eu rhoi i ysgolion ym mis Ebrill ynghylch trafod hunanladdiad? OAQ53576
Diolch yn fawr iawn, Lynne. Mae'r grŵp cynghori cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niwed yn ymgynghori ag aelodau'r grŵp a rhanddeiliaid eraill ar y canllawiau hynny cyn eu cyhoeddi ym mis Ebrill. Byddwn yn gweithio gyda'r grŵp i sicrhau y caiff y canllawiau eu hyrwyddo'n helaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol, ac mae hynny'n cynnwys gweithwyr proffesiynol nid yn unig mewn ysgolion ond yn fwy eang ymhlith gwasanaethau ieuenctid a phobl eraill sy'n gweithio gyda'n pobl ifanc.
Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y canllawiau a argymhellwyd gan 'Cadernid Meddwl' yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill. Rwy'n croesawu eich ymrwymiad hefyd i weithio gyda'r grŵp cynghori i sicrhau bod y canllawiau'n cael eu hyrwyddo'n helaeth. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, i lawer o athrawon, am resymau dealladwy, maent yn amharod i siarad am hunanladdiad. Mae'n hanfodol felly nid yn unig fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r grŵp cynghori i hyrwyddo'r canllawiau ond bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol i arwain ar sicrhau bod y canllawiau hyn yn cael eu defnyddio ym mhob ysgol yng Nghymru.
Mae sawl plentyn ysgol wedi marw drwy hunanladdiad yng Nghymru ers cyhoeddi 'Cadernid Meddwl', a dylid gweithredu ar hyn fel mater o frys. Ni all aros tan i'r cwricwlwm newydd ac ymagwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl gael eu gweithredu yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i fynd ati'n rhagweithiol i arwain ar hyn gyda'r bwriad o sicrhau y caiff ei gyflwyno ar fyrder ym mhob ysgol, gan gynnwys sicrhau y caiff ei ymgorffori mewn dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon fel mater o frys, er mwyn sicrhau bod ganddynt sgiliau a hyder i'w ddefnyddio?
Diolch yn fawr iawn, Lynne. Gadewch imi eich sicrhau nad ydym yn eistedd yn ôl ac yn aros tan y rhoddir y cwricwlwm newydd ar waith, er bod y maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn rhoi cyfle aruthrol i ni newid y ffordd rydym yn sôn am iechyd a lles yn ein hysgolion. Fe fyddwch yn gwybod y bydd £2.5 miliwn yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn ariannol newydd, drwy'r gyllideb addysg, wedi'i dargedu at wella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc, yn seiliedig ar ddulliau addysgeg gwaith ieuenctid. Oherwydd mae'r gweithwyr proffesiynol hynny sy'n gweithio gyda'n gwasanaeth ieuenctid yn aml yn teimlo'n fwy cyfforddus ac yn fwy abl ac yn fwy hyderus i siarad am y materion sensitif iawn hyn, ac rydym yn awyddus i ddefnyddio'r dysgu gan ein cydweithwyr mewn gwaith ieuenctid i helpu i lywio dysgu proffesiynol ein cydweithwyr yn yr ysgolion. Gallaf eich sicrhau fy mod wedi cael trafodaeth ddoe gyda'r swyddog sy'n arwain ar ddysgu proffesiynol i bwysleisio wrtho y dylai ysgolion allu cael mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol mewn perthynas â'r canllawiau hyn, ac iechyd a lles yn gyffredinol, fel rhan o'r cyllid rydym yn ei ddarparu i ysgolion i gefnogi gwella hyder athrawon yn y maes hwn, a all fod yn heriol iawn i lawer o bobl allu siarad amdano, yn enwedig athrawon yn ein hysgolion.
Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn awyddus i ymuno â mi i ganmol y gwaith y mae'r Cynulliad wedi'i wneud yn y maes hwn, yn enwedig o dan arweinyddiaeth Lynne Neagle yn 'Cadernid Meddwl', ond Dai Lloyd hefyd ar y pwyllgor iechyd. Y neges syml yw: mae gormod lawer o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad. Mae'n gannoedd bob blwyddyn yng Nghymru. Mae'n rhaid inni osod targedau i leihau nifer y bobl sy'n marw yn yr amgylchiadau trasig hynny yn sylweddol. Yn anffodus, o ran pobl iau, mae'n un o brif achosion marwolaethau cyn pryd. Mae angen gwaith ar y cyd ar draws y Llywodraeth. Rwyf hefyd yn canmol y gwaith a wnaed gan Samariaid Cymru, gan bwysleisio unwaith eto yr angen i hyfforddi athrawon er mwyn sicrhau bod ganddynt y lefel honno o hyder fan lleiaf i fynd i'r afael â'r materion pwysig hyn. Mae'r sgiliau a gawn yn yr ysgol, 10 neu 20 mlynedd yn ddiweddarach—gallant wneud y gwahaniaeth rhwng rhywun yn gofyn am gymorth a rhywun, yn anffodus, yn cyflawni hunanladdiad.
Diolch, David. Credaf ei bod yn gwbl iawn ein bod yn cydnabod y gwaith ymgyrchu a wnaed gan gyd-Aelodau, fel Dai Lloyd, Lynne Neagle a Jack Sargeant, ar y materion hyn. Gallaf eich sicrhau ein bod yn trafod gyda'n darparwyr addysg gychwynnol i athrawon i wneud yn siŵr, drwy addysg gychwynnol i athrawon, y bydd gan ein haddysgwyr sgiliau priodol yn y dyfodol. Roedd pleidlais ddiweddar y Senedd Ieuenctid yma yn hynod o galonogol, gan iddynt bleidleisio i weithio, fel eu prif flaenoriaeth, ar fater iechyd meddwl pobl ifanc. Mae'n dangos pa mor bwysig yw'r mater hwn iddynt, a ledled y wlad, gwn fod grwpiau ieuenctid a phobl ifanc yn gweithio'n galed iawn i fynd i'r afael â mater gwytnwch.
Lywydd, fore Sul, roeddwn yn Theatr Hafren yn y Drenewydd yn gwylio gŵyl ddrama Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, a chafwyd adloniant rhyfeddol o soffistigedig a gwefreiddiol gan y clwb buddugol o sir Gaerfyrddin, clwb CFfI Llanymddyfri, ar bwnc hunanladdiad mewn ardaloedd gwledig. Ac roedd gweld pobl ifanc, rhwng 10 a 26 oed, yn ymgysylltu mewn ffordd mor soffistigedig er mwyn lledaenu'r negeseuon hyn yn rhywbeth a fyddai'n codi cywilydd ar rai pobl hŷn.