Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 13 Mawrth 2019.
Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd mewn perthynas â diwrnod HMS ychwanegol. Rydym yn gwneud hynny gan mai'r hyn y mae rhieni yn awyddus i'w gael yn anad dim yn fy marn i yw sicrwydd llwyr fod ein proffesiwn addysgu yn barod ar gyfer gweithredu ein cwricwlwm newydd. Ond mae'r ymgynghoriad hefyd yn gyfle inni ymchwilio i weld a oes posibilrwydd y gallwn sicrhau mwy o gysondeb o ran sut y bydd ysgolion unigol yn defnyddio eu diwrnodau HMS. Ni chredaf fod newid diwrnodau HMS yn ateb i'r broblem real iawn y mae rhai teuluoedd yn ei hwynebu yn sgil arferion cwmnïau gwyliau sy'n codi eu prisiau'n sylweddol yn ystod gwyliau ysgol—mewn rhai achosion bron yn dyblu pris gwyliau, yn dibynnu ar ba bryd y bydd gwyliau ysgol.