Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Ni ellir gwadu bod athrawon yn brysur iawn yn ystod y tymor, ac o bosibl yn teimlo dan fwy o bwysau oherwydd y pwysau ar wariant ar addysg, ond mae gwasgaru diwrnodau HMS drwy gydol y flwyddyn, gan orfodi llawer o rieni i ddefnyddio hyd at wythnos neu fwy o'u gwyliau blynyddol mewn ffordd sy'n gwbl ddiwerth i'r teulu yn y bôn, yn gwneud i rai teuluoedd sy'n gweithio deimlo nad yw'r system addysg yn malio am yr effaith a gaiff y diwrnodau hyn arnynt. Mae'n bosibl na fydd gan rai rhieni sy'n gweithio fwy na phedair wythnos o wyliau y flwyddyn os ydynt yn gweithio amser llawn. Maent hwy, fel finnau, yn meddwl tybed pam fod hyfforddiant athrawon yn digwydd yn ystod y tymor, pan fo athrawon yn cael gwerth tri mis o wyliau bob blwyddyn.