Cyllidebau Ysgolion ym Môn

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:41, 13 Mawrth 2019

Diolch yn fawr iawn. Mae effaith, dwi'n meddwl, 10 mlynedd a mwy o lymder gan Lywodraeth Prydain, ynghyd, dwi'n ofni, â methiant Llywodraeth Cymru i flaenoriaethau cyllidebu llywodraeth leol eleni wedi arwain at wasgfa gwbl anghynaliadwy ar gyllidebau addysg ym Môn, fel yng ngweddill Cymru. Dwi yn llongyfarch cyngor Môn am lwyddo i warchod y cyllidebau addysg i raddau helaeth, ond, wrth gwrs, maen nhw wedi gorfod cynyddu eu treth cyngor dros 9 y cant er mwyn gwneud hynny, ac y mae'r cynnydd yn nhreth cyngor wedi bod yn fawr ar draws Cymru. Dwi'n edrych ymlaen at ragor o fanylion ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd o ran arian pensiynau, sydd, heb os, yn mynd i fod o ryddhad.

Ond, ar y cwestiwn o gyllido'n gyffredinol, mae'r grantiau a gafodd eu cyhoeddi yn eithaf hwyr yn y dydd wrth gwrs yn help, a dwi’n croesawu unrhyw beth sydd yn gallu lleihau'r baich ar ysgolion, ond ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi fod rhannu arian yn y modd yma yn ei gwneud hi'n amhosib bron i benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion gynllunio'n wirioneddol strategol ar gyfer y dyfodol?