Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 13 Mawrth 2019.
Am eiliad, Lywydd, mae'n ymddangos bod yr Aelod wedi anghofio bod ei blaid ef yn rhan o'r broses o bennu'r gyllideb a arweiniodd at y setliad llywodraeth leol hwnnw eleni, ac wedi cael cyfle i ddylanwadu ar y penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â'r gyllideb gyffredinol. Ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg iawn o ran dosbarthu'r grantiau a all fod ar gael i ysgolion gan Lywodraeth Cymru mewn modd amserol. Gall grantiau a roddir yn hwyr fod yn heriol iawn i ysgolion eu gwario'n effeithiol ac yn y ffordd fwyaf effeithiol, ond weithiau, rwyf fi fel y Gweinidog yn dod yn ymwybodol o arian sydd ar gael yn eithaf hwyr, a byddaf bob amser yn defnyddio'r cyfle hwnnw os gallaf, ni waeth ar ba adeg o'r flwyddyn, i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cyrraedd y rheng flaen.