Darpariaeth Gofal Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:16, 13 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rwyf wedi dechrau trafodaethau cychwynnol gyda llywodraeth leol, y trydydd sector a darparwyr y sector annibynnol ynglŷn â sut i wella sefydlogrwydd y ddarpariaeth gofal a chymorth yng Nghymru. Mae'r trafodaethau hyn ar gam cynnar iawn, ond byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd. Ond os caf roi un enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Gydweithredol Cymru ac maent yn paratoi adroddiad a fydd yn cynnwys argymhellion clir a'r camau nesaf ar gyfer parhau i ddatblygu a chryfhau rôl mentrau cydweithredol a chymdeithasol i ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dyna yw'r prosiect Cydweithredu i Ofalu.