Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 13 Mawrth 2019.
Yma yng Nghymru rydym yn ffodus i gael llawer o oedolion sy'n barod i roi eu hamser yn anhunanol i ddarparu sefydlogrwydd a diogelwch i blant pan fyddant fwyaf o'i angen. Mae'r unigolion hyn yn cynnwys gofalwyr maeth preifat, sy'n gwneud trefniadau preifat gyda rhieni. Nawr, fel y byddwch yn ei wybod, mae gofalwyr maeth preifat a rhieni plant sydd wedi'u lleoli yn gorfod rhoi gwybod i'r adran gwasanaethau cymdeithasol am y trefniadau a wneir er mwyn hyrwyddo diogelwch a lles y plant hynny. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod rhieni maeth preifat, yn dilyn Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006, yn gwybod bod yn rhaid iddynt hysbysu'r awdurdod lleol o leiaf chwe wythnos cyn unrhyw drefniadau arfaethedig ac y bydd yr awdurdod lleol perthnasol yn mynd ati wedyn i drefnu ymweliad gan arolygydd o fewn saith diwrnod gwaith ac yna, yn amlwg, yn llunio'r adroddiad mawr ei angen?