Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 13 Mawrth 2019.
Wel, mae pob adran angen meddwl, nid yn unig am ei blaenoriaethau unigol ei hun, ond blaenoriaethau'r Llywodraeth mewn gwirionedd, ac mewn nifer o'r meysydd—un enghraifft yn unig yw hon—mae'r hyn sy'n flaenoriaeth Llywodraeth gyda Gweinidog arweiniol yn galw am gydweithrediad nifer o bobl eraill i'w gwireddu. Dyna'n union rydym yn ceisio'i wneud. Wrth gwrs, byddaf yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn briodol ac yn llawn maes o law, ac fe gawn weld a fydd y lle hwn yn neilltuo amser ar gyfer dadl yn y Siambr hefyd.