Teithio Llesol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:24, 13 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn ymchwiliad diweddar y pwyllgor iechyd i gynyddu gweithgarwch corfforol ymysg pobl ifanc, ac rwy'n edrych ymlaen at edrych yn fwy manwl ar yr adroddiad y bûm yn galw am ei gael. Ond un o'r pethau allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad hwnnw oedd yr angen i hybu teithio llesol ymysg plant. Ac rwy'n falch hefyd eich bod yn siarad â chyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud, ond wrth gwrs, mae'r hyn rydych yn sôn amdano'n hollbwysig yma. Mae angen i ni sicrhau cydweithrediad, yn ogystal â chyd-gyllidebu, rwy'n credu, rhwng adrannau'r Llywodraeth. A allwch ein sicrhau eich bod yn symud oddi wrth yr hyn y gellid ei alw'n weithio mewn seilos, er mwyn dod o hyd i ffyrdd o gyd-ariannu cynlluniau sydd â manteision ar draws adrannau?