Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 13 Mawrth 2019.
Rwy'n deall y ddadl ynghylch targedau yn iawn. Yr her, fodd bynnag, o ran y targedau a osodwyd gan Loegr a'r Alban, yw nad oes sylfaen dystiolaeth yn sail i'r targedau hynny. Nid wyf wedi cyfarfod ag unrhyw weithiwr proffesiynol iechyd y cyhoedd sydd wedi bod yn barod i ddweud wrthyf fod y targedau'n gwneud synnwyr a'u bod yn credu eu bod am eu cyrraedd. Y peth olaf rwyf am ei wneud yw gosod cyfres o dargedau uchelgeisiol na allwn eu cyflawni. Mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut rydym yn gwneud gwahaniaeth go iawn o ran sicrhau newid. Rydym wedi gweld llai o gynnydd yn niferoedd plant dros bwysau a gordew, ond yr her yw peidio â dweud eu bod wedi peidio â chynyddu, ond yn hytrach, sut y gallwn sicrhau bod y duedd yn mynd tuag yn ôl. Dyna'r her rydym yn ymgynghori yn ei chylch yn strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach.
Ond yn hollbwysig, nid oes a wnelo hyn â'r Llywodraeth yn dweud, 'Fe allwch ac mae'n rhaid i chi', gan fod angen inni weithio ochr yn ochr â phobl, â theuluoedd, i weld plant yn eu cyd-destun a'r dylanwadau gwahanol o'u cwmpas—pethau fel labelu bwyd a hysbysebu bwyd, beth sy'n mynd i mewn i'r bwyd a diod y mae pobl yn eu cael—yn ogystal â chael y sgwrs honno mewn ffordd nad yw'n feirniadol. Rhan o fy ofn gwirioneddol, os ydych yn dweud wrth rieni, 'Rydych yn gyfrifol am bwysau a maint eich plentyn', yw y bydd hynny'n troi'n sgwrs feirniadol ac yn peri i bobl droi cefn ar ble rydym am iddynt fod—i helpu pobl i wneud dewisiadau gwahanol.
Nid wyf yn argyhoeddedig—ac nid fi yn unig, nid yw ein prif swyddog meddygol yn argyhoeddedig chwaith—mai gosod targedau, fel rydych wedi awgrymu y dylem ei wneud, yw'r peth iawn i'w wneud ar gyfer y strategaeth. Wrth gwrs, byddaf yn atebol i'r lle hwn nid yn unig o ran sicrhau bod strategaeth ar waith ar ôl yr ymgynghoriad, ond o ran sicrhau ein bod yn gwneud y math o wahaniaeth y gwn y byddai pob Aelod yn yr ystafell hon am inni ei wneud.