Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 13 Mawrth 2019.
Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn gwybod bod ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn dangos bod 12.5 y cant o blant pedair i bum mlwydd oed yn ordew, sy'n ganran ddychrynllyd ac yn uwch na chyfartaledd Cymru, a dyma'r ganran uchaf ond un o holl fyrddau iechyd Cymru. Pan fydd plant yn ordew, maent mewn perygl gwirioneddol o fynd yn fwy gordew wrth iddynt dyfu'n hŷn, ac mae angen inni wrthdroi'r duedd hon. Rwy'n cydnabod mai byrddau iechyd unigol sy'n gyfrifol am gyflwyno mesurau penodol i fynd i'r afael â gordewdra, ond mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwthio'r agenda hon. Felly, o gofio bod ystadegau gordewdra ar gynnydd, beth rydych yn ei wneud yn wahanol yn awr fel Llywodraeth i fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn?