2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 13 Mawrth 2019.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddefnyddio arfau diagnostig i asesu glowyr am arwyddion o niwmoconiosis? OAQ53554
Mae pobl sy'n dioddef o niwmoconiosis y glowyr yn gallu cael mynediad at brofion perthnasol, fel prawf gweithrediad yr ysgyfaint, pelydr-x o'r frest, a sgan CT lle bo'n briodol. Mae gwaith pwysig yn cael ei wneud hefyd drwy'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd anadlol, i wella gwasanaethau anadlol yng Nghymru yn fwy cyffredinol.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Mae cyn-löwr wedi cysylltu â fy swyddfa i fynegi pryderon y gall pobl fod yn dioddef o niwmoconiosis yn ddiarwybod iddynt oherwydd gweithdrefnau diagnostig hen ffasiwn, ac y gall fod yn anodd gwneud diagnosis o niwmoconiosis oherwydd bod y symptomau sy'n gysylltiedig ag ef, fel pesychu a thrafferthion anadlu, yn gallu bod yn arwydd o amrywiaeth eang o anhwylderau. Y cam gweithredu arferol ar gyfer achosion tybiedig yw trefnu pelydr-x ar gyfer y claf. Fodd bynnag, nid yw pelydr-x ond yn tueddu i ddal niwmoconiosis cyfnod hwyr, ac mae modd i achosion cyfnod cynnar fynd heb eu canfod. Mae cyn-lowyr yn wynebu anghyfiawnder mewn sawl ffordd; y lleiaf y maent yn ei haeddu yw'r tawelwch meddwl eu bod yn cael y cyfle gorau posibl i drin yr afiechyd creulon hwn. Sgan CT yw'r arf diagnostig mwyaf effeithiol. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddarparu sganiau CT fel yr arf diagnostig diofyn ar gyfer cyn-lowyr, sy'n wynebu risg uchel o ddioddef o glefyd y llwch, fel y gelwir niwmoconiosis y glowyr yn aml?
Buaswn yn disgwyl defnydd priodol o arfau diagnostig, yn hytrach na dweud, 'Mae rhywun yn gyn-löwr, felly byddant yn cael sgan CT'. Mae'n ymwneud â deall y symptomau sydd ganddynt. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae niwmoconiosis yn asymptomatig ar y camau cynnar—gall gymryd peth amser, yn dibynnu ar y person a'u cyfansoddiad, o ran pryd y bydd symptomau'n ymddangos, a sut y digwydd hynny. Ac rydych yn gywir yn dweud nad yw rhai mathau o sganiau'n briodol, ac nad ydynt yn dal niwmoconiosis yn y cyfnod cynnar. Mewn gwirionedd, dyna pam fod y rhaglen wella anadlol, sy'n cael ei harwain gan glinigwyr, mor bwysig i ddeall y sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â'r driniaeth gywir, y diagnosis cywir, ac ar ba bwynt. Felly, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sicrhau'r sylfaen dystiolaeth honno. Ac yn bwysicach, mae hwn yn faes lle mae clinigwyr eu hunain yn dod i gonsensws. Ac mae yna arweiniad gwirioneddol o fewn y gwasanaeth iechyd, nid oherwydd bod gwleidydd wedi galw amdano, ond oherwydd eu bod yn cydnabod bod yna ffordd well o ddefnyddio adnoddau, ffordd well o wella'r gwaith y maent yn ei wneud, ac yn hollbwysig, ffordd well o wella'r gofal y maent yn ei ddarparu i bobl ym mhob rhan o'r wlad.