Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:12, 13 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i chi am y rhagadroddiad hwnnw ar yr ailwampio cytundebol. Ac mae'n galonogol eich bod yn edrych ar hyn, ac edrychaf ymlaen at y datganiad yn yr hydref. Nawr, wrth gwrs, ni allaf ragweld yr hyn y bydd y datganiad hwnnw yn ei ddweud, ond os caf dynnu sylw at ychydig o faterion sy'n ymwneud â'r contract—mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dweud bod recriwtio a chadw deintyddion yng Nghymru wedi bod yn broblem ers peth amser, ac wrth gwrs, mae'r contractau sydd ar waith ar hyn o bryd yn rhan o'r broblem. Maent wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn y gorffennol i ddyfeisio system sy'n gwneud Cymru yn wlad fwy deniadol i ddeintyddion weithio ynddi. Mae rhai o'r problemau yn ymwneud â'r targedau anodd mewn perthynas ag unedau gweithgarwch deintyddol y gelwir amdanynt yn awr. Mae gennym system adfachu yn ogystal, lle bydd arian yn cael ei adfachu os byddant yn tangyflawni o fwy na 5 y cant. Felly, mae'r rhain i gyd yn faterion sy'n bwydo i mewn i'r system gytundebol braidd yn anhylaw hon rydych wedi'i nodi. Felly, gwn eich bod yn dweud bod ailwampio ar droed ac y byddwn yn cael datganiad yn yr hydref. Ni wn a allwch wneud unrhyw sylw ar hyn o bryd ar rai o'r problemau rwyf wedi'u crybwyll.