Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 13 Mawrth 2019.
Gallaf. Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn rhanddeiliaid allweddol. Rwy'n cyfarfod â hwy bob blwyddyn. Mae ganddynt fynediad at y prif swyddog deintyddol a'r swyddogion yn ei hadran. Ac rydych yn gywir yn dweud bod unedau gweithgarwch deintyddol, ynghyd â'r contract, yn rhan hanfodol o ddiwygio. Lle rydym yn gweld deintyddfeydd yn manteisio ar gyfleoedd diwygio contractau—mae'n newid y ffordd y maent yn cyflawni eu gwaith, ac mae hynny ynddo'i hun yn gwneud Cymru yn wlad fwy deniadol i ddeintyddion weithio ynddi, ond hefyd y gymysgedd o sgiliau sydd gan bobl, niferoedd y deintyddion, y cynorthwywyr ac eraill a fydd yn gweithio ym mhob un o'r deintyddfeydd hynny. Felly, mae hynny'n bendant yn rhan o'r broses o ddarparu gofal gwell, lle gwell i bobl weithio ynddo, ac mewn gwirionedd, gwell gwerth am yr arian cyhoeddus rydym yn ei fuddsoddi yn y system.