Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 30 ac fe siaradaf am yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Nawr, mae gwelliant 30 yn cadarnhau, lle mae'r ombwdsmon wedi adennill costau yr eir iddynt o ganlyniad i rwystr a achosir gan ddarparwr gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd, y gall yr ombwdsmon gadw'r costau a adenillir ac nid oes yn rhaid eu talu i mewn i gronfa gyfunol Cymru. Mae'r ddarpariaeth hon yn debyg i'r ddarpariaeth sy'n bodoli yn y Bil i alluogi ombwdsmon i gadw unrhyw ffioedd a godir gan yr ombwdsmon ar gyfer darparu copïau o adroddiadau. Felly, mae'n darparu mwy o gysondeb.
Mae gwelliant 6 yn diwygio'r croesgyfeiriad yn adran 16, sy'n egluro'n fanwl pa bryd yr ystyrir bod darparwr gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd yn awdurdod rhestredig. Effaith y gwelliant hwn fydd bod darparwr gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd, er enghraifft, yn cael copïau o adroddiadau pan fydd ymchwiliad yn ymwneud â'r darparwr. Yn yr un modd, pan gynhelir ymchwiliad i ddarparwr gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd, rhoddir yr un cyfle i'r darparwr wneud sylwadau ar yr ymchwiliad ag a roddir i awdurdod rhestredig.
Mae gwelliannau 8 a 9 yn mewnosod dwy adran newydd, sy'n egluro'r weithdrefn ar gyfer adennill costau penodol gan ddarparwyr gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau bod gan yr ombwdsmon ffordd glir ac effeithlon o adennill costau penodol gan ddarparwyr gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Mae gwelliant 8 yn ymwneud â sicrhau bod yr ombwdsmon yn gallu adennill costau lle bydd wedi cynnal ymchwiliad i wasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd fel rhan o ymchwiliad i awdurdod rhestredig. Bydd hyn yn cynnwys lle mae darparwr gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd wedi rhwystro'r ombwdsmon neu wedi gwneud rhywbeth a fyddai'n ddirmyg llys pe bai'r achos yn yr Uchel Lys. Os yw hyn yn ddigwydd, gall yr ombwdsmon gyflwyno hysbysiad adennill costau ac mae gwelliant 9 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad adennill costau.