Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 13 Mawrth 2019.
Hoffwn eglurhad ar un pwynt, os caf. Er y rhoddir mwy o fanylion ynghylch adennill costau o dan y gwelliannau hyn a bod peth cyfyngu wedi bod ar y cwmpas a'r amgylchiadau lle gall darparwr gofal iechyd osgoi atebolrwydd am rwystro a dirmyg o dan welliant 8, a all yr Aelod cyfrifol ddarparu unrhyw eglurhad pellach ynglŷn â'r rhesymau polisi sy'n sail i'r newidiadau a wnaed o dan welliant 8?