– Senedd Cymru am 5:06 pm ar 19 Mawrth 2019.
Grŵp 3 yw ad-dalu taliadau gwaharddedig. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 55, a galwaf ar Leanne Wood i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn. Leanne.
Mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod y llys yn gofyn am ad-dalu taliad gwaharddedig gan y troseddwr uniongyrchol i'r person y'i talwyd iddo. Rydym wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn eto, oherwydd credwn ei bod yn bwysig nad oes unrhyw le i ddadlau yma; rhaid ad-dalu unrhyw ffioedd heb awdurdod. Nawr, gwrthodwyd y gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2 am fod y Gweinidog blaenorol wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae yna egwyddor bwysig sydd raid inni ei hystyried yma, sef cadw annibyniaeth y llys. Byddant yn gwneud gorchymyn o'r fath os ystyriant ei bod yn briodol dan yr amgylchiadau.'
Dywed ein cyngor cyfreithiol wrthym nad yw hynny'n wir. Dywed ein nodyn cyfreithiol, ac rwy'n dyfynnu, 'Ceir nifer o enghreifftiau o droseddau atebolrwydd caeth yn y gyfraith lle nad oes gan y llys unrhyw ddisgresiwn dros lefelau o gosb os yw'r diffynnydd yn euog o'r drosedd dan sylw.'
Felly, roedd yn eithaf clir i ni yng Nghyfnod 2 fod y Gweinidog blaenorol yn defnyddio dadleuon cyfreithiol technegol i wrthod y gwelliant, fel arfer, gan wybod nad oedd gan y Pwyllgor unrhyw hawl i herio hyn. Felly, mae hyn yn awgrymu bod angen inni newid rheolau'r sefydliad hwn. Pan fo dadleuon cyfreithiol yn digwydd, dylai fod egwyl er mwyn gallu cynnal y gwiriadau hynny. Felly, byddai'n well o lawer gennyf gael dadl heddiw ar yr egwyddor y tu ôl i'r gwelliannau, sef na ddylai pobl elwa o'r taliad heb awdurdod a bod pawb yn gwybod yn iawn fod yn rhaid ad-dalu'r ffioedd hynny yn y llys.
O ran y ddau welliant hyn, sy'n ymwneud â'r llys yn gorchymyn ad-dalu ffioedd gwaharddedig, mae gennyf welliant pellach eisoes yn y Bil hwn yn grŵp 10, gwelliant 44. Bydd hwnnw'n cyflawni hyn ar yr un pryd ag y telir hysbysiad cosb benodedig, pwy bynnag sy'n cyflwyno'r hysbysiad cosb benodedig. Dan welliannau'r Llywodraeth yng ngrŵp 9, bydd yr awdurdod trwyddedu, Rhentu Doeth Cymru, yn etifeddu pwerau i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig, ac mae fy ngwelliant diweddarach yn cynnwys Rhentu Doeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn ei gwmpas, sef galw am ad-dalu ffioedd wedi eu gwahardd ar yr adeg y cyhoeddir hysbysiad o gosb benodedig. Mae hyn yn glir iawn, ac mae'n darparu ar gyfer y tenant sydd wedi ei gyhuddo ar gam. Mae gwelliannau Plaid Cymru yn y grŵp hwn yn mynnu bod rhaid i'r llys fynnu'r ad-daliad pan fydd troseddwr yn cael ei farnu'n euog. Felly, credaf fod fy ngwelliannau i yn cyflawni amcan tebyg mewn modd sydd efallai'n fwy effeithlon ac yn llai cyfyngol, er yn amlwg rwy'n derbyn bod gan yr Aelod gyferbyn farn wahanol. Er fy mod yn cydymdeimlo â'r bwriad, credaf fy mod yn cyflawni hynny'n fwy effeithiol.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog i —.
Diolch ichi, Dirprwy Llywydd. Byddai gwelliannau 55 a 57, a gynigwyd gan Leanne Wood, yn gosod dyletswydd ar y llys troseddol, pe byddai cyhuddiad o dan adrannau 2 a 3 o'r Bil, sef gofyn am dâl gwaharddedig, i orchymyn i landlord neu asiant i dalu'r taliad gwaharddedig, neu lle bu ad-daliad rhannol, y swm sy'n weddill, fel y dywedodd yn briodol. Nid yw ein barn ni wedi newid o Gyfnod 2—y dylai ad-dalu taliad gwaharddedig fod yn fater i'r llys ei benderfynu. Mae hi'n iawn wrth ddweud y byddai'r gwelliant yn llyffetheirio annibyniaeth a disgresiwn y llys, ac mae hi hefyd yn iawn i ddweud bod annibyniaeth a disgresiwn y llysoedd yn cael ei gyfyngu weithiau. Ond, yn yr achos hwn, nid wyf yn credu bod hynny'n briodol, ac rwy'n gwrthwynebu'r gwelliannau ar y sail honno.
Rwyf yn hyderus y bydd y llys, os bydd cyhuddiad o drosedd, yn gallu pwyso a mesur y ffactorau perthnasol wrth benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn dan adrannau 2 a 3 o'r Bil. Ni allaf gefnogi'r gwelliannau, sy'n effeithio ar annibyniaeth y llys ac ar ei allu i ymarfer ei ddisgresiwn yn y mater hwn. Rwy'n dal i gredu bod hwn yn fater i'r llys ei benderfynu.
Diolch. Galwaf ar Leanne Wood i ymateb i'r ddadl. Na? Y cwestiwn yw bod gwelliant 55 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Ar gyfer gwelliant 11, nid oes ymatal, 37 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 55.