Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 19 Mawrth 2019.
A gaf i gofnodi eto pam na fyddwn ni'n cefnogi gwelliant 62 Plaid Cymru yn y grŵp hwn? Unwaith eto, nid wyf yn meddwl ei fod yn cynnwys y cydbwysedd iawn rhwng tenantiaid a landlordiaid, ac fel y dywedais eisoes, dylai ceisio datblygu marchnad dai sy'n deg i bawb fod yn ganolog i'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Drwy ddiffinio ffioedd diffygdaliad yn benodol fel y gwnaiff y gwelliant hwn a drwy ddileu toriad yn nhelerau'r contract a oedd yn ddiffygdaliad cymwys, rwy'n credu y byddai hyn yn gadael landlordiaid yn agored i gamau gweithredu a allai fod yn fai clir a bwriadol ar ran y tenant gan adael y landlordiaid heb unrhyw ffordd effeithiol o ymateb.
Fel y dywedodd y Llywodraeth yng Nghyfnod 2, efallai bod yna sefyllfaoedd dilys eraill lle mae deiliad y contract ar fai a phryd y caiff landlord geisio ad-daliad oddi wrth ddeiliad y contract dros gyfnod y contract, a gallai'r rhain amrywio o gontract i gontract. Byddai cyfyngiad rhwystrol ar gontract o'r fath a awgrymir yng ngwelliant Plaid Cymru yn niweidiol i'r berthynas rhwng deiliaid contract a landlordiaid. Ac efallai y byddai landlordiaid yn amharod iawn i osod eu heiddo yn y modd hwn gyda chyfyngiad o'r fath.
Fodd bynnag, os gaf i siarad am y gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, mae Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliannau tebyg o ran y terfynau rhagnodedig ar ffioedd diffygdaliad. Yn hyn o beth, byddaf yn cefnogi fersiwn Plaid Cymru, sef gwelliant 63 a'i welliant 59 canlyniadaol, gan fy mod yn credu y dylai unrhyw derfyn rhagnodedig a bennir mewn rheoliadau fod yn destun craffu manwl iawn.