1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 19 Mawrth 2019.
Diolch. Trown nawr at gwestiynau'r arweinyddion. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yw'r arweinydd plaid cyntaf heddiw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i yn gyntaf ymuno â'r côr o haleliwias ar draws y wlad a gyfarchodd y gêm ddydd Sadwrn diwethaf a buddugoliaeth y Gamp Lawn, ac a gaf i gymeradwyo'n llwyr eich awgrym, Prif Weinidog, a wnaed neithiwr ar risiau'r Senedd, pan fydd gennym ni'r pwerau i roi dinasyddiaeth anrhydeddus o Gymru, yna y dylai Warren Gatland fod yno ar flaen y ciw? Ond, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni gael annibyniaeth cyn i ni gael y cyfle hwnnw mewn gwirionedd.
Mae'r mater cyntaf yr hoffwn ei godi gyda chi heddiw yn ymwneud â mater sy'n agos iawn at fy nghalon i ac, yn wir, fy mywyd fy hun, sef cydraddoldeb LGBT+. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu y dylid caniatáu i ysgolion ffydd weithredu'n wahanol i ysgolion nad ydynt yn rhai ffydd yn y ffordd y maen nhw'n ymdrin â'u haddysgu am berthnasoedd rhywiol? Codaf hyn oherwydd, fel y mae ITV Wales wedi ei ddangos, yn yr achos hwn yng nghyd-destun ysgolion Catholig, ceir cadarnhad ar wefannau ac, yn wir, yn nhystiolaeth athrawon bod y gred fod perthynas hoyw yn foesol annerbyniol yn cael ei chyflwyno i blant a phobl ifanc yn 2019. Adroddir bod eich Gweinidog addysg yn fodlon parhau i ganiatáu disgresiwn i ysgolion ffydd Cymru i addysgu perthnasoedd a rhyw yn unol â'u credoau eu hunain. A yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n ei gefnogi?
Wel, Dirprwy Lywydd, yn gyntaf oll gadewch i mi ddweud cymaint y gwnes i fwynhau digwyddiadau neithiwr. Gwelais yr Aelod yno a llawer o Aelodau eraill y tu ôl iddo, ac o bob rhan o'r Siambr yn ymuno yn y dathliadau hynny.
Cyn belled ag y mae addysg perthnasoedd a rhywioldeb yn y cwestiwn, ceir ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd o ran ein cwricwlwm presennol a'r cwricwlwm newydd. Ceir rheolau cymhleth ynghylch y ffordd y mae gan ysgolion ffydd fathau penodol o ryddid, nad ydynt, felly, yn uniongyrchol yn nwylo Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ond gadewch i mi fynd i'r afael â hanfod ei gwestiwn, sef ei bod hi'n gwbl annerbyniol i mi fod y dylai'r math o safbwyntiau a adroddwyd ganddo gael eu mynegi yn unrhyw un o'n hysgolion, a hoffwn gysylltu fy hun yn uniongyrchol â'r hyn a ddywedodd am annerbynioldeb y mathau hynny o safbwyntiau yn cael eu lledaenu mewn unrhyw ystafell ddosbarth, o unrhyw fath, ac mewn unrhyw ran o Gymru.
Rwy'n croesawu'r Prif Weinidog yn dweud bod hyn yn annerbyniol. Y pwynt yw, wrth gwrs, gwneud rhywbeth yn ei gylch. Yn y 1980au, dywedwyd wrthyf i fy hun, 'gobeithio i'r nefoedd raslon na fyddi di'n hoyw.' Nid oedd yn dderbyniol bryd hynny, ac yn sicr nid yw'n dderbyniol nawr, ac mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth, pan ein bod yn sôn am ysgolion a ariennir yn gyhoeddus—mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth i'w gwneud yn gwbl eglur na ddylai hynny fyth fod ar wefan ysgol, na ddylai hynny fyth fod yn brofiad i athro. Felly, mae'n gyfrifoldeb ar Lywodraeth i ddangos nad oes unrhyw ddisgresiwn, hyd yn oed yn yr achos hwn. Nid yw'n gymhleth: mae'n syml iawn o'm safbwynt i.
Gan droi at fater arall, os caf, ddydd Sadwrn diwethaf, cymerais ran mewn gorymdaith diwrnod gwrth-hiliaeth y Cenhedloedd Unedig yng Nghaerdydd ochr yn ochr â'ch Dirprwy, Jane Hutt. Ar yr orymdaith honno, roedd llawer o aelodau'r gymuned Gwrdaidd yng Nghymru a oedd yn mynegi eu gobaith mai'r Senedd hon—eich Llywodraeth chi, yn wir—fyddai'r gyntaf yn y byd i fynegi ein hundod â'r streicwyr newyn Cwrdaidd ledled Ewrop. Maen nhw'n protestio yn erbyn arwahanu arweinydd y Cwrdiaid, Abdullah Öcalan, a garcharwyd gan Twrci ers 1999 mewn amodau sy'n mynd yn groes i rwymedigaethau cyfreithiol gwladwriaeth Twrci o ran hawliau dynol. Fel y gwyddoch, mae'r protestwyr yn cynnwys Imam Sis, un o drigolion Casnewydd sydd wedi bod ar streic newyn am gyfnod amhenodol ers 17 Rhagfyr y llynedd. Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau y byddwch chi'n cefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gennym ar gyfer dadl, gan fynegi undod ag Imam Sis a chyda'r gymuned Gwrdaidd?
Wel, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddychwelyd, yn gyntaf, at y pwynt a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn agoriadol, a dim ond i fod mor eglur ag ef ag y gallaf fod y Llywodraeth yn gwneud yn union yr hyn y byddai'n dymuno i ni ei wneud o ran ymgysylltu â'r sector hwnnw a'i gwneud yn eglur beth yw ein safbwynt ni a'r hyn y credwn y dylai fod eu safbwynt hwythau hefyd, ac os oes ganddo dystiolaeth fod pethau'n digwydd na ddylent fod yn digwydd, yna byddem yn sicr eisiau cymryd camau ar unrhyw beth y gallwn ni ddod ar ei draws. Nid oes unrhyw wahaniaeth o ddiben rhyngom ni o gwbl o ran y mater hwnnw.
Mae'r Aelod yn cyfeirio wedyn at y ddadl a fydd yn cael ei chynnal yfory ar lawr y Cynulliad. Bydd fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yn ateb y ddadl honno. Byddwn yn ymddwyn yn weddus o ran y cyfrifoldeb sydd gennym ni fel Llywodraeth gan ymgysylltu â sylwedd y materion y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yn ei ail gwestiwn.
Mae'n flin gyda fi, ond dwi ddim yn deall beth mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud fanna. So, efallai, wrth ymateb i'r trydydd cwestiwn, lle dwi'n mynd i godi pwnc arall, gallai fe jest esbonio a ydych chi'n mynd i gefnogi'r cynnig neu beidio.
I droi at frwydr arall dros gyfiawnder i iaith a diwylliant gwlad ddiwladwriaeth—nid y Cwrdiaid yn yr achos yma, ond Cymru a’r Gymraeg—a maes lle'r ŷch chi wedi gosod nod clodwiw o ran creu miliwn o siaradwr, ac yn benodol, cynyddu Cymraeg yn y gweithle, yn ei adroddiad a gyhoeddwyd y bore yma, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn mynegi pryder am yr oedi wrth gyflawni argymhellion adroddiad sydd yn cynnig ffordd ymlaen ar ddefnydd mewnol o'r Gymraeg a’r posibilrwydd o wneud lefel o sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer staff Llywodraeth Cymru, sydd yn dal yn aros i’w gytuno gan fwrdd y Llywodraeth ddwy flynedd ar ôl ei gwblhau. Esboniad y Llywodraeth wrth y pwyllgor ynghylch pam eich bod chi wedi eistedd ar adroddiad eich uwch weision cyhyd heb weithredu, heb wneud penderfyniad, oedd eich bod chi’n awyddus i gael eich goleuo gan sefydliadau blaengar eraill. Ond o ystyried record drychinebus y Llywodraeth ar Gymraeg yn y gweithle, ydych chi’n cytuno y byddai unrhyw ymdrech gan Weinidog i ddwyn pwysau ar unrhyw gorff cyhoeddus arall i lastwreiddio eu hymlyniad nhw i’r Gymraeg—er, enghraifft, ym maes polisi cyflogaeth—yn annerbyniol ac yn groes i bolisi’r Llywodraeth?
Dirprwy Lywydd, rŷn ni eisiau gweld cyrff ledled Cymru yn hybu’r iaith Gymraeg yn y gweithle. Rŷn ni’n ei wneud e fan hyn yn y Senedd, rŷn ni’n ei wneud e’n fewnol yn y Llywodraeth Gymreig. Rŷn ni’n dysgu gwersi sydd gyda ni, er enghraifft, oddi wrth heddlu yng ngogledd Cymru, a beth rŷn ni eisiau ei wneud yw tynnu’r gwersi, tynnu beth sy'n digwydd a beth sy’n effeithiol yng Nghymru, a gwneud mwy yn y cyrff cyhoeddus i hybu’r iaith Gymraeg i roi hyder i bobl sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg a gwneud mwy i'w helpu nhw i loywi’r iaith sydd gyda nhw. Mae’r Gweinidog yn gweithio ar yr agenda yna bob dydd.
Diolch. Arweinydd yr Wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a gyda'ch caniatâd, a gaf innau hefyd achub ar y cyfle hwn i weiddi 'haleliwia' ar draws y wlad a llongyfarch tîm rygbi Cymru ar eu buddugoliaeth wych? Ac roedd hi hefyd yn bleser bod yn y digwyddiad neithiwr.
Prif Weinidog, pam mae mamau a babanod wedi cael eu rhoi mewn perygl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?
Wel, Dirprwy Lywydd, nid wyf i'n meddwl bod mamau a babanod yn cael ei rhoi mewn perygl nawr gan fod camau wedi eu cymryd—camau arwyddocaol iawn wedi eu cymryd—gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gydag ymyrraeth y coleg brenhinol, i roi sylw i wybodaeth bryderus a ddaeth i'r amlwg. Mae'r camau hynny, rwy'n credu, yn llwyddo. Mae mwy i'r Bwrdd Iechyd ei wneud, ond rwy'n credu bod y bwrdd iechyd yn ymwybodol o natur frys y materion hynny; ei fod wedi gweithredu ar sail yr wybodaeth a ddaeth i'r amlwg; bod ganddo gynllun ar waith i gymryd camau pellach; byddwn yn olrhain y camau hynny, ynghyd â'r coleg brenhinol, i wneud yn siŵr bod gan y bwrdd ei hun, yn ogystal â phobl y tu allan i'r bwrdd, ffydd yn y mesurau y maen nhw wedi ei cymryd ac y gall mamau a babanod yn y rhan honno o Gymru fod yn ffyddiog yn y gwasanaeth y maen nhw'n ei gael.
Wel, mae'n gwbl eglur, Prif Weinidog, bod eich Llywodraeth wedi methu ers gormod o amser â mynd i'r afael â'r sefyllfa enbyd a Mae sawl mis ers i ni glywed y newyddion erchyll o golli 26 o fabanod o dan ofal y bwrdd iechyd hwn mewn cyfnod o ddwy flynedd. Ac, ar ôl ymweliad annisgwyl gan yr arolygiaeth gofal iechyd, maen nhw wedi tynnu sylw yn ddiweddar at broblemau staffio sy'n gyfrifol am ansawdd gofal gwael a mwy o risg i ddiogelwch cleifion. Ac yn wir, mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn glir, ac roedd yn dweud, a dyfynnaf:
'Roeddem ni'n pryderu am y risg bosibl i ddiogelwch cleifion.'
Nawr, mae gan fenywod sy'n wynebu geni plentyn yr hawl i ddisgwyl gofal o ansawdd uchel yn ystod y cyfnod anodd hwn, a'r siawns orau o esgor babi iach, ond ymddengys nad yw hyn bob amser yn wir ar draws rai rhannau o Gymru, Prif Weinidog. Hyd yn oed yn fy etholaeth fy hun, ceir pryderon difrifol y gallai'r uned famolaeth arbenigol dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Llwynhelyg gael ei hisraddio i wasanaeth dydd erbyn hyn, a fydd, heb amheuaeth, yn peri risg i ddiogelwch mamau a babanod. Felly, a allwch chi fod yn eglur yn y fan yma heddiw ynghylch pa gamau yr ydych chi'n eu rhoi ar waith i roi terfyn ar y loteri cod post o wasanaethau mamolaeth ledled Cymru?
Dirprwy Lywydd, yn gyntaf oll, gadewch i mi fod yn gwbl eglur fel nad oes angen i'r Aelod barhau i'w ailadrodd, nid oes unrhyw risg o'r fath y mae ef newydd ei disgrifio i wasanaethau mamolaeth yn ysbyty Llwynhelyg—gwasanaethau yr wyf i, fy hunan, wedi ymweld â nhw, sydd â rhai o'r bobl fwyaf trawiadol y gwnewch chi fyth eu cyfarfod yn darparu gwasanaethau i fenywod yn y rhan honno o'r byd. Ac nid oes unrhyw gynigion o unrhyw fath i wneud newid i'r gwasanaeth a ddarperir yno. Gobeithiaf fod hynny o gymorth i'r Aelod fel y gellir tawelu ei feddwl ef a meddyliau unrhyw un arall.
O ran y sefyllfa yng Nghwm Taf, yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid newydd ei ddisgrifio, Dirprwy Lywydd, yw'r rhwystrau a'r gwrthbwysau sydd gennym ni yn y system yma yng Nghymru sy'n caniatáu i bryderon o'r math a nodwyd ganddo gael eu hamlygu. Cyfeiriodd at ymweliad annisgwyl AGIC; dyna'r union reswm pam mae gennym ni arolygiaeth annibynnol sy'n gallu gwneud gwaith yn y ffordd honno. Ac, wrth gwrs, y pryderon a ddaeth i'r amlwg, o ganlyniad i'r ymweliad hwnnw ac o gamau eraill, arweiniodd at fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd yn cymryd camau o ran statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd hwnnw, ac i sefydlu mesurau eraill—pobl o'r tu allan i'r bwrdd iechyd i ddod i mewn i adrodd ar yr hyn y maen nhw wedi ei weld, i roi crynodeb diflewyn ar dafod o rai o'r anawsterau a nodwyd ganddynt, ac yna i weithio gyda'r bwrdd iechyd hwnnw i wneud yn siŵr bod y materion hynny yn cael eu hunioni, ac y gellir adfer y gwasanaeth y mae'r bwrdd Iechyd hwnnw yn ymfalchïo yn gwbl briodol o fod wedi ei ddarparu i'r gymuned leol honno o ran y gwasanaethau i fenywod a phlant yn y rhan honno o Gymru yn y dyfodol.
Prif Weinidog, wrth gwrs fy mod i'n derbyn bod eich Llywodraeth wedi gwneud datganiadau o fwriad i fynd i'r afael â'r problemau yng Nghwm Taf, ond roedd penawdau yr wythnos diwethaf yn taflu goleuni eto ar arolygiad annisgwyl Ysbyty Brenhinol Morgannwg gan yr Arolygiaeth Iechyd yn dilyn y marwolaethau trasig y soniais wrthych amdanyn nhw yn gynharach. Nawr, rhybuddiodd yr Arolygiaeth am brinder staff sylweddol sy'n parhau i beryglu diogelwch cleifion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae hefyd wedi tynnu sylw at amodau gweithio gwael gweddill y gweithwyr meddygol proffesiynol tra hyfforddedig sy'n gweithio'n galed yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sy'n cael effaith andwyol ar iechyd, ysbryd a hyd yn oed diogelwch bydwragedd ac aelodau eraill y tîm. Nawr, daeth hyn i'r amlwg ar yr un adeg ag y gwnaethom ni eich herio chi am ystadegau brawychus sy'n dangos y byddwn yn wynebu argyfwng staffio bydwragedd yn y blynyddoedd i ddod ar draws y wlad. O ystyried bod y statws uwchgyfeirio wedi ei godi yng Nghwm Taf, mae'n bwysig iawn clywed yn fuan iawn pa sicrwydd y gallwch chi, Prif Weinidog, a'ch Llywodraeth ei roi i brofi eich bod yn mynd i'r afael â phroblemau gyda'r bwrdd iechyd hwn a'ch bod yn gweithio i ddiogelu mamau a babanod yr ardal hon. A phryd fyddwn ni'n gweld erbyn hyn yr adroddiad a addawyd i'r hyn a aeth o'i le yng Nghwm Taf, yr ymrwymodd eich Gweinidog iddo yn ôl ym mis Ionawr?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, oherwydd mae'n caniatáu i mi roi ar gofnod y camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd ei hun, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, ers y digwyddiadau, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ond a ddigwyddodd cyn y Nadolig, wedi eu cymryd. Oherwydd yn sicr, nid yw'r bwrdd iechyd wedi anwybyddu unrhyw ran o'r wybodaeth honno. Mae wedi sefydlu newidiadau i staffio, i oruchwylio staffio. Mae wedi newid y ffordd y darperir gwasanaethau rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Siarl; mae ganddo newidiadau pellach ar y gweill, mae wedi newid y ffordd y caiff rotas penwythnos eu trefnu a'u goruchwylio. Mae'r rhain yn gamau ymarferol iawn a gymerwyd mewn ymateb i'r wybodaeth y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw. Mae'r Gweinidog wedi bod yng Nghwm Taf, wedi cyfarfod â bydwragedd yno. Mae eu hyfforddiant, eu goruchwyliaeth yn bwysig iawn yn hyn o beth. Dyna pam, Dirprwy Lywydd, yr ydym ni'n hyfforddi'r nifer fwyaf erioed o fydwragedd drwy'r system hyfforddi sydd gennym ni yma yng Nghymru—niferoedd sydd wedi cynyddu, rwy'n credu, bob blwyddyn yn ystod y tair blynedd diwethaf, wrth i ni baratoi ar gyfer y gweithlu y bydd ei angen arnom ni yn y dyfodol. Mae'r rhain yn fesurau ymarferol syml yr ydym ni'n benderfynol o'u cymryd, y mae'r bwrdd iechyd yn benderfynol o'u cymryd, a, gyda'i gilydd, byddant yn arwain at welliannau gwirioneddol i'r sefyllfa a nodwyd yn ystod yr ymweliad hwnnw gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Diolch. Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i Warren Gatland a charfan rygbi Cymru am gyflawni camp lawn arall? Gadewch i ni obeithio y bydd y rhediad diguro yn parhau tan Gwpan y byd, yn ystod Cwpan y Byd a, gobeithio, trwy gydol Cwpan y Byd yr hydref nesaf. [Torri ar draws.] Na, nid y rygbi.
Prif Weinidog, un o'r meysydd y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo yw anghydraddoldeb cyflog. Yn eich maniffesto personol, a gyhoeddwyd gennych y llynedd, dywedasoch, a dyfynnaf,
Mae'n rhaid i ni ddod ag egni ffres i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cyflog.
Mae'n ymddangos i mi mai un o achosion anghydraddoldeb cyflog yng Nghymru yw bod gennym ni nifer o bobl mewn sefydliadau sector cyhoeddus y mae'n ymddangos eu bod ar gyflogau gwirion o uchel. Er enghraifft, mae gennym ni brif weithredwr cyngor Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan eich Plaid Lafur Cymru chi, sy'n cael cyflog o £170,000 y flwyddyn, sy'n llawer mwy na Phrif Weinidog y DU, ac eto mae hwn yn gyngor nad yw hyd yn oed yn gallu trefnu gorsaf fysiau ar gyfer y ddinas. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai un ffordd o fynd i'r afael â chyflogau isel ac anghydraddoldeb cyflog yw rhoi terfyn ar gyflogau gwirion o uchel pobl fel prif weithredwr cyngor Caerdydd?
Wel, yn gyntaf oll, Dirprwy Lywydd, nid dyna'r math o anghydraddoldeb cyflog yr oeddwn i'n cyfeirio ato. Roeddwn i'n cyfeirio, wrth gwrs, at syniadau llawer mwy prif ffrwd o anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau yn y gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Rwyf i, fy hun, yn credu mewn system lle ceir lluosydd rhwng tâl y rhai sy'n cael y cyflogau isaf yn y sefydliad a'r rhai sy'n cael y cyflogau uchaf yn y sefydliad, ac y dylai hynny fod ar gyfradd sefydlog a gytunwyd, ac wedyn rydych chi'n cael pwysau ar anghydraddoldebau cyflog i godi tâl y rhai sydd ar waelod y raddfa gyflog, sy'n llawer mwy niferus, wrth gwrs, yn hytrach na phwyslais poblyddol ar unigolion mewn rhannau eraill o'r sbectrwm.
Wel, rydych chi wedi siarad o blaid y lluosydd. Byddwn yn ymchwilio i hynny ac yn gweld pa mor effeithiol yw hynny a pha mor effeithiol yr ydych chi o ran goruchwylio hynny yng Nghymru o ran llywodraeth leol. Dim ond un enghraifft o'r broblem yr wyf i'n tynnu sylw ati heddiw yw prif weithredwr cyngor Caerdydd. Mae gennym ni nifer gynyddol o swyddogion sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyflogau chwe ffigur. Nawr, rydym ni mewn cyfnod o gyni cyllidol, fel yr ydych chi'n dweud wrthym ni drosodd a throsodd. Mae'n rhaid i gynghorau lleol gau cyfleusterau gan fod eu cyllidebau yn cael eu torri. Ond mae'n ymddangos bod yr haen uchaf o swyddogion cyngor yn rhyw fath o rywogaeth a warchodir sy'n dal i gael derbyn cyflogau gwirion o uchel. Mae gennym ni lol cyngor Caerffili, sydd hefyd yn cael ei redeg gan Lafur Cymru, lle mae anghydfod ynghylch cyflogau tri o uwch swyddogion wedi arwain at i'r cyngor wastraffu mwy na £4 miliwn. Mae gennym ni brif weithredwr yn y fan honno nad yw wedi dod i'r gwaith ers chwe blynedd, ac mae'n cael ei dalu £130,000 y flwyddyn i wneud dim byd o gwbl. Ac eto, nid yw'r sefyllfa wedi ei datrys. Prif Weinidog, sut ydych chi'n cysoni eich cwyno cyson am gyni cyllidol gyda'r ffaith bod gennym ni haen o fiwrocratiaid tewion yng Nghymru yn y sector cyhoeddus, a oruchwylir gennych chi, sy'n ennill symiau mor hynod fawr o arian?
Wel, Dirprwy Lywydd, os oes gan yr Aelod ddiddordeb yn y lluosydd, yna mae'r ffeithiau a'r ffigurau yno iddo gymryd diddordeb yn y pwnc hwnnw. Bydd yn canfod bod y bwlch rhwng y rhai sy'n cael y cyflogau isaf a'r rhai sy'n cael y cyflogau uchaf yn Llywodraeth Cymru y lleiaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae hynny oherwydd mai ni sy'n gyfrifol am Lywodraeth Cymru. Byddai'n well i'r Aelod fynd ar drywydd ei ddiddordeb mewn llywodraeth leol yn uniongyrchol â'r cynghorau hynny sy'n gyfrifol am y mater y mae'n ei godi.
Gwelaf eich bod chi wedi ceisio, unwaith eto, osgoi craffu ar lywodraeth leol, sy'n amlwg o dan oruchwyliaeth gyffredinol eich Llywodraeth Cymru chi yma yn y Cynulliad. Mae'r sefyllfa yng Nghaerffili wedi llusgo ymlaen ers 2012, felly rwy'n credu ei fod yn haeddu rhyw sylw cyhoeddus gennych chi erbyn hyn, o gofio hefyd mai Gweinidog llywodraeth leol oedd un o'ch swyddi blaenorol. Felly, mae'r llanastr parhaus hwn yn sicr wedi bod o dan eich goruchwyliaeth chi. O safbwynt dynol, byddai cyflog prif weithredwr sy'n cael ei dalu am aros gartref fwy neu lai yn talu'r gost o redeg canolfan hamdden Pontllanfraith, sydd dan fygythiad o gael ei chau. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno mai cau cyfleusterau fel canolfannau hamdden yw cost ddynol eich Plaid Lafur Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu ei ffrindiau mewn swyddi uwch reolwyr yn sector cyhoeddus Cymru?
Wel, mae'n hurt, Dirprwy Lywydd. Nid yw'n taro tant, hyd yn oed â'r rhai sy'n eistedd o'i gwmpas. Gadewch i ni fod yn eglur: mae'r sefyllfa yng Nghaerffili yn un nad yw'n foddhaol i neb, ond ceir proses, sydd yno, yr ydym ni i gyd wedi ein rhwymo ganddi. Nid yw'n ddim o gwbl i'w wneud ag unrhyw unigolion nac unrhyw sefydliadau. Cyflawnodd Llywodraeth Cymru ei rhan hi o'r cyfrifoldeb hwnnw trwy benodi unigolyn annibynnol i oruchwylio'r cam nesaf yn y broses honno. Rhoddais addewid i Hefin David, yr Aelod lleol, pan mai fi oedd y Gweinidog cyfrifol, y byddwn yn sefydlu adolygiad o'r broses bresennol cyn gynted ag y bydd wedi gweithio ei ffordd drwyddo. Nid yw'n foddhaol. Nid yw'n gweithio. Nid yw'n cyflawni dros drigolion lleol na dros y cyngor ei hun. Ond, pan eich bod chi mewn proses, mae gennych chi rwymedigaeth gyfreithiol i'w chyflawni. Gall pobl wneud cymaint o lol ohono ag y maen nhw'n ei ddymuno. Mewn democratiaeth aeddfed, os oes cyfraith y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hi, yna dyna'n union y bydd yn rhaid i ni ei wneud. Wedyn, byddwn yn gweld sut y gellir newid y gyfraith honno, fel bod proses fwy boddhaol ar gyfer y dyfodol.