Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 19 Mawrth 2019.
Diolch am y materion hynny. O ran y cyntaf, fe fyddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr bod Gweinidog yr economi yn ysgrifennu atoch chi ynghylch unrhyw drafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda heddlu Manceinion neu'r awdurdod lleol yno i sicrhau bod traffig yn symud yn rhwydd fel nad yw'n effeithio ar ein diwydiant twristiaeth yn eich rhan chi o'r byd yn enwedig.
Ac a gaf i awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd ynghylch tynnu dŵr o'r ddau argae sy'n peri pryder arbennig ichi?