Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 19 Mawrth 2019.
Diolch am grybwyll hynny. Fe wnaf i yn sicr ysgrifennu atoch chi gyda'r eglurder sydd ei hangen arnoch chi ynghylch yr ardoll prentisiaeth, a byddaf hefyd yn gwneud yn siŵr y bydd y Gweinidog priodol yn ysgrifennu atoch chi ynglŷn â'r rheilffyrdd treftadaeth lled safonol, ond fe wnaf i achub ar y cyfle hwn i ymuno â chi i longyfarch y gwirfoddolwyr am y gwaith y maen nhw'n ei wneud er mwyn diogelu'r rhan hon o'n treftadaeth a'n hanes, a hefyd i hybu a gwella twristiaeth.