2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 19 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:02, 19 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Galwaf am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, ar ariannu prentisiaethau, wythnos yn ôl, yn y Siambr, cyflwynodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ddatganiad ar brentisiaethau a buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol. Yn ystod ei gyfraniad, dywedodd bod tric consurio yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU ar ariannu prentisiaethau, oherwydd ni roddwyd arian ychwanegol i ni i adlewyrchu ardoll. Yr ardoll yw... treth ar fusnesau ac nid yw'r cyllid wedi ei drosglwyddo i ni—torrwyd oddeutu £120 miliwn gan y Llywodraeth yn Lloegr oddi ar brentisiaethau sector cyhoeddus, ac, wele, ymddangosodd £120 miliwn yn ein cyllideb ni i ariannu'r cynllun hwn.

Fodd bynnag, dywedodd llythyr dyddiedig 20 Gorffennaf 2018 oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol y DU at Eluned Morgan, a hi oedd, ar y pryd, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, fod y swm o arian a oedd yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru o dan fformiwla Barnett wedi'i warantu yn yr adolygiad o wariant. Mae'r swm yn defnyddio £128 miliwn yn 2017-18, yn codi i £133 miliwn yn 2018-19 ac i £138 miliwn yn 2019-20. Felly, a gawn ni ddatganiad yn egluro (a) faint o arian gafodd Llywodraeth Cymru o dan y system flaenorol, (b) faint mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gorfod ei dalu i'r ardoll, y mae'n rhaid wedyn i Llywodraeth Cymru wneud iawn amdano gyda swm y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth y DU ac (c) cadarnhau ei bod wir yn derbyn y ffigurau sydd yn y llythyr hwnnw oddi wrth yr Ysgrifennydd Cartref fis Gorffennaf diwethaf, neu fel arall a oes gennych chi dystiolaeth i'r gwrthwyneb?

Yn ail, a gaf i ddatganiad gan Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, ar y gefnogaeth ar gyfer rheilffyrdd treftadaeth o led safonol yng Nghymru? Ac rwy'n siŵr fod nifer ohonom ni wrth ein boddau â'n rheilffyrdd treftadaeth. Gofynnwyd i mi ddod ag erthygl a fu yn y Denbighshire Free Press yn gynharach y mis hwn ar brosiect Corwen rheilffordd Llangollen i sylw cynrychiolwyr etholedig. Roedd hwn yn dweud bod gwirfoddolwyr sy'n adeiladu'r cyswllt rhwng dwy dref yn Sir Ddinbych yn dweud bod angen £10,000 arnynt i gwblhau'r prosiect. Maen nhw wedi gorffen 10 milltir o reilffordd rhwng Llangollen a Chorwen ers i drenau roi'r gorau i redeg 45 mlynedd yn ôl, mae platfform wedi ei greu, ond mae bwlch yn dal i fod yn yr arglawdd rhwng yr orsaf newydd yng Nghorwen a gweddill y rheilffordd, a'r nod yw llenwi'r bwlch hwnnw. Mae'r prosiect ar gyfer yr orsaf yn costio tua £1 miliwn. Mae tua £600,000 o hyn yn waith sydd wedi ei gyflawni gan wirfoddolwyr, ac maen nhw'n gobeithio, gorffen hyn cyn tymor yr haf, oherwydd bod denu pobl i ymuno â'r trên yng Nghorwen yn hanfodol a bydd y dref yn elwa ar yr ymwelwyr ychwanegol hefyd.

Os caf i alw am ddatganiad ar gymorth ar gyfer ein rheilffyrdd treftadaeth o led safonol—oherwydd gwyddom fod Llywodraeth Cymru yw cefnogi'n rheilffyrdd treftadaeth cul—a chymeradwyo ac ystyried sut y gallwn ni gefnogi'r ymdrech wirfoddol enfawr honno, sydd nid yn unig yn cyflawni prosiectau treftadaeth, ond sydd hefyd yn cynnig cymaint i dwristiaeth ac economïau ehangach ardaloedd y mae wir angen yr ysgogiad hwnnw arnynt.