Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 19 Mawrth 2019.
Prif Weinidog, mae fy nghyd-Aelodau yn San Steffan yn cyfarfod â Jeremy Corbyn wrth inni siarad, er mwyn ystyried cydweithredu trawsbleidiol i sicrhau, hyd yn oed ar yr adeg hwyr hon, dull cydweithredol. Rydym ni'n gobeithio y daw mwy o eglurder ynghylch safbwynt gwirioneddol y Blaid Lafur ar Brexit. Yr wythnos diwethaf, nododd BBC Cymru fod uwch-aelod ym Mhlaid Lafur Cymru—sydd naill ai'n eistedd neu beidio, pwy a ŵyr, ar eich meinciau blaen—wedi dweud bod eich diffyg eglurder dros bleidlais y bobl yn achosi tensiynau yn eich Cabinet. Fe wnaethon nhw alw eich polisi yn anghynaliadwy ac yn ddryslyd. Disgrifiodd eich Aelod Cynulliad eich hun—Lynne Neagle, Torfaen—eich sefyllfa fel un chwerthinllyd ac un nad yw'n argyhoeddi. Nawr, yn eich datganiad heddiw, fe wnaethoch chi ddweud y byddai ail refferendwm yn rhannu pobl, o bosib yn amhendant, ond y byddech chi'n cefnogi hynny wedyn, os byddai Tŷ'r Cyffredin yn gwneud hynny'n gyntaf. Mae'n anodd dychmygu cymeradwyaeth wannach o'r achos dros ail refferendwm. Rydych chi'n rhwyfo ymhellach ac ymhellach i ffwrdd, Prif Weinidog, o'r polisi a gymeradwywyd gennym ni yn y lle hwn ym mis Ionawr, cymaint felly, petai Jeremy Corbyn, yn wyrthiol, yn gwneud tro pedol eto, ac yn mabwysiadu polisi o roi pleidlais i'r bobl, yn dilyn ei gyfarfod â Phlaid Cymru y prynhawn yma, fe fyddech chi mewn gwirionedd yn pasio eich gilydd, yn wynebu cyfeiriadau cyferbyniol, fel llongau yn suddo yn y nos.
Ac yna dyna'r cwestiwn, Prif Weinidog, pe byddai refferendwm arall, sut fyddech chi a'r Blaid Lafur yn ymgyrchu ac yn pleidleisio? Pan gafodd ei gyfweld gan Sky News ddydd Sul, roedd yn ymddangos bod Jeremy Corbyn, o'r diwedd, yn cymryd agwedd bendant. Ac yna peidiodd. Yn gyntaf, cyfaddefodd y dylid cael refferendwm arall, ar yr hyn a alwodd yn gytundeb credadwy i adael yr Undeb Ewropeaidd, sef yr hyn a olygai oedd cytundeb gan y Blaid Lafur i sefydlu undeb tollau newydd a pherthynas agos â'r farchnad sengl, a dewis i aros yn yr UE. Pan bwyswyd arno ynghylch sut fyddai'n pleidleisio mewn refferendwm o'r fath, atebodd y byddai'n well ganddo gydnabod canlyniad refferendwm 2016. Dyna ben ar niwlogrwydd, hir oes i niwlogrwydd. Beth oedd yn ei olygu wrth hynny? Prif Weinidog, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni yma nawr. Bydd fy nghyd-Aelodau yn San Steffan yn sicr yn gofyn iddo. Ond mae eich datganiad heddiw yn awgrymu mai eich dewis chi hefyd yw sicrhau eich fersiwn chi o Brexit dros ganlyniad 'aros' mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol.
Yn olaf, a gaf i droi at y dadansoddiad ar gyfer eich Llywodraeth gan yr Athro Jonathan Portes o Goleg y Brenin, Llundain, sydd wedi canfod y caiff Cymru ei tharo'n galetach na gweddill y DU gan yr isafswm cyflog arfaethedig o £30,000 ar gyfer ymfudwyr medrus sy'n bwriadu dod i'r DU o 2021? Dywedodd, er nad yw enillion llawn amser cyfartalog ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd ymhell o £30,000, eu bod nhw yng Nghymru yn sylweddol is na hynny. O ganlyniad, byddent yn rhwystr enfawr i fusnesau yng Nghymru sy'n chwilio am weithwyr proffesiynol medrus o dramor. Argymhellodd bennu isafswm cyflog o £20,000 i Gymru. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru—i'r graddau yr wyf i wedi llwyddo i'w ddarganfod—wedi mynegi barn ynghylch canlyniadau ei hymchwil ei hun. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno gyda'r Athro Portes, ac, os felly, beth ydych chi'n ei wneud i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i ystyried ei argymhellion?