Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 19 Mawrth 2019.
Diolch i'r Aelod am gyfres o gwestiynau pwysig. Rwyf eisiau wfftio'r hyn a ddywedodd ar y dechrau, oherwydd yn sicr nid yw Llywodraeth Cymru wedi coleddu'r agwedd o wrthwynebu unrhyw beth a phopeth y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio ei wneud yn y maes hwn. Rhoesom groeso cymedrol i araith Fflorens, pan ddechreuodd y Prif Weinidog gyfaddawdu ar yr amodau yr oedd hi wedi eu nodi yn ei haraith yn Lancaster House. Rhoesom groeso cymedrol i'w chynllun Chequers. Nid Llywodraeth Cymru oedd y broblem a oedd gan y Prif Weinidog ynghylch y mater hwnnw; ond ei hanawsterau wrth geisio cael cymorth o fewn ei phlaid ei hun. Faint o Weinidogion Cabinet a adawodd ei Llywodraeth o ganlyniad i'r cynllun Chequers? A faint mae hi wedi parhau i'w colli bron yn wythnosol fyth ers hynny? Pan fo Llywodraeth y DU wedi symud i'n cyfeiriad ni, rydym ni wedi ceisio croesawu hynny a'u hannog i wneud hynny. Yn y pen draw, pendantrwydd Prif Weinidog y DU mai ei chynulleidfa bwysicaf yw'r rhai sydd yn eistedd y tu ôl iddi ac nad ydynt yn fodlon derbyn ei chynllun sydd wedi ei thanseilio.
Mae'r Aelod yn gofyn pryd siaradais â Phrif Weinidog y DU ddiwethaf; siaradais â hi yr wythnos diwethaf. Fe wnes i gyfarfod ag arweinydd yr wrthblaid ychydig cyn dechrau'r hanner tymor hwn, ac rwyf wedi trafod gyda'r ddau ohonyn nhw. Rwy'n falch iawn o weld y prynhawn yma bod arweinydd yr wrthblaid yn cyfarfod ag arweinwyr y pleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin i geisio gwneud beth ddylai'r Prif Weinidog fod wedi bod yn ei wneud ers wythnosau lawer bellach, sef estyn at y pleidiau eraill i ddod o hyd i wahanol fath o gydbwysedd yn Nhŷ'r Cyffredin lle gellid dod i gytundeb.
Dirprwy Lywydd, rwy'n derbyn yn hollol ddidwyll yr hyn y mae Arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud ynghylch dymuno chwarae rhan adeiladol ei hun, ac rwy'n gobeithio y bydd yn defnyddio ei swyddogaeth yn arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru i eiriol dros Gymru ar y Prif Weinidog ei hun, oherwydd cytunais â'r hyn a ddywedodd am effaith Brexit heb gytundeb o ran goblygiadau tariff a di-dariff ar economi Cymru, ar ein sector gweithgynhyrchu, ar ein sector amaethyddol. Mae'r rheini'n anawsterau mawr iawn sy'n ein hwynebu pe byddai Brexit heb gytundeb yn digwydd, a byddai croeso i unrhyw eiriau yng nghlust y Prif Weinidog am yr anawsterau hynny.
Gofynnodd Aelod beth ydym ni'n ei wneud i sicrhau ein bod mewn cysylltiad â busnesau Cymru. Wel, rydym ni'n parhau i annog busnesau Cymru i ddefnyddio'r porth Brexit a sefydlwyd gennym ni—mae 30,000 wedi ymweld â hwnnw. Ond un peth yw ymweld â'r porth, peth arall yw derbyn ei gyngor a gwneud y gwaith diagnostig y mae angen i gwmnïau ei wneud i baratoi eu hunain ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Rydym ni'n defnyddio cronfa bontio'r UE sydd gennym ni i barhau i gefnogi busnesau a sectorau eraill yn economi Cymru i baratoi ar gyfer y byd hwnnw.
Yr hyn na fyddwn ni'n gallu ei wneud, Dirprwy Lywydd, yw cofleidio'r ffantasi sy'n bodoli ymysg gwleidyddion Ceidwadol fod y byd yn aros am Brydain anturus, fel pan fyddwn ni'n troi ein cefn ar ein marchnad agosaf a mwyaf pwysig, y caiff hynny ei ddisodli gan yr holl gytundebau hyn a fydd yn cael eu llunio ar draws y byd. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny o gwbl. Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn fod y cytundebau yr ydym ni eisoes yn eu mwynhau drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu gwrthod i ni ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ymhell o gael mwy o gytundebau masnach ledled y byd, byddwn yn dechrau gyda llawer llai na'r hyn sydd gennym ni o ganlyniad i'n haelodaeth o'r UE.
Gadewch imi derfynu gyda'r sylw olaf pwysig iawn a wnaeth arweinydd yr wrthblaid: natur gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Mae hwn yn fater y mae fy rhagflaenydd, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, wedi chwarae rhan flaenllaw yn ei gylch ledled y Deyrnas Unedig, wrth geisio dal sylw pobl eraill ar y ffyrdd hynny o weithio o fewn y Deyrnas Unedig a fydd yn angenrheidiol er mwyn iddi barhau i weithredu'n llwyddiannus unwaith y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dechreuwyd ar y gwaith gan Carwyn Jones a Phrif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog y DU mewn cyfarfod llawn o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ym mis Mawrth y llynedd. Mae'r gwaith hwnnw eto i'w gwblhau, ac mae'n anodd iawn yn wir dod o hyd i bobl yn Llywodraeth y DU sydd â'r diddordeb neu'r ynni i weithio ar yr agenda honno pa fo nhw wedi eu llethu gymaint gan yr anawsterau y mae Brexit wedi eu creu. Ond rydym ni'n parhau i weithio ar hyn, rydym ni'n parhau i weithio ar hyn gyda chydweithwyr yn yr Alban, ac rydym ni'n edrych ymlaen at ddychwelyd at y Cyd-bwyllgor Gweinidogion llawn gydag adroddiad cynhwysfawr ar yr holl feysydd gwaith gwahanol y cytunwyd arnynt, oherwydd bydd cynnal busnes yn drefnus ar draws y Deyrnas Unedig yn dibynnu arnyn nhw pan na fydd yr Undeb Ewropeaidd yno mwyach.