Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 19 Mawrth 2019.
Nid oes angen imi raffu rhestr hir o bolisïau sydd wedi cael effaith ddinistriol a chronnus ar y bobl dlotaf yng Nghymru. Mae'r polisïau hyn wedi cael eu dogfennu yn dda, ac fel y dangosodd y newidiadau arfaethedig i'r credyd cynhwysol yn ddiweddar, mae'r effeithiau hyn yn cael eu derbyn yn dawel erbyn hyn, hyd yn oed gan lawer o Dorïaid. Mae wedi bod yn ddoniol ar un ystyr gweld cyn-Dorïaid fel Anna Soubry yn sylweddoli graddfa'r hyn sydd wedi digwydd yn ei henw, fel y gwelwyd yn The Last Leg ar y teledu yn ddiweddar.
Y meddylfryd o fewn y gwasanaeth sifil yw'r hyn yr wyf i am dynnu sylw ato heddiw mewn gwirionedd, oherwydd nid wyf i'n credu y gallwn mewn gwirionedd greu system o nawdd cymdeithasol ddynol sy'n deilwng o'r enw oni bai ein bod ni'n newid y ffordd y mae'r staff yn rhyngweithio gyda phobl mewn angen o ddydd i ddydd. Mae'r rhestr hir o gosbedigaethau a roddir i bobl sydd mewn amgylchiadau truenus—er enghraifft, y dyn a gafodd ei gosbi am golli apwyntiad oherwydd ei fod yn yr ysbyty gyda'i bartner a oedd newydd gael plentyn marw-anedig—yn darlunio hynny. Mae'r system hon yn ddideimlad. Nawr, mae adolygiadau o gosbedigaeth wedi gwadu fod yna bolisi swyddogol o gosbi'r rhai mewn profedigaeth, ac wedi tynnu sylw at anghysondebau rhanbarthol o ran y polisi hwnnw. Nid oes gennyf i amheuaeth, er hynny, y byddai'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi defnyddio'r adroddiadau hynny i nodi'r rhanbarthau lle nad ydyn nhw'n cosbi digon ar bobl, ac wedi holi pam oedd hynny, mae'n debyg. Ond byddai'r gweddill ohonom ni sy'n darllen yr adroddiadau hynny yn cydnabod bod rhywbeth llawer mwy cymhleth yn digwydd.
Mae polisi swyddogol wedi bod yn llym ac wedi cael ei lunio i gosbi'r tlodion ac, wrth gwrs, nid oes ganddo ddim i'w wneud â chymhellion i weithio, fel y mae asesiadau effaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gredyd cynhwysol wedi dangos. Ond yn fwy eang, nid yw'r polisïau hyn wedi cael eu cyflwyno mewn gwagle—maen nhw wedi bod yn rhan o gyfres o bolisïau a ddechreuodd pan dreuliodd yr Arglwydd Freud dair wythnos gyfan yn adolygu polisi lles yn fanwl i Tony Blair. Ie, siarad yn goeglyd wyf i—yr hyn a oedd yn digwydd mewn gwirionedd oedd mai ymdrech gan y Blairites oedd hon i dawelu'r Daily Mail. Gwyddom nad yw tawelu'n gweithio, ac felly yn hytrach na newid y ffordd y mae'r papurau tabloid yn ymdrin â materion nawdd cymdeithasol, gwelwyd bod y papurau tabloid yn mynd yn fwy gorffwyll a chamarweiniol, pan mai'r materion gwirioneddol ar y pryd oedd biwrocratiaeth, anhyblygrwydd a'r anallu i gefnogi llafur achlysurol. Creodd hynny yn ei dro ddiwylliant a oedd yn gwneud i'r system wleidyddol gyfan ofni gwrthwynebu llawer o doriadau lles y glymblaid, ac roedd hi'n ymddangos felly mai'r hyn a achosodd y chwalfa ariannol yn 2008 oedd gormod o fudd-daliadau i bobl anabl. Mae honno'n hinsawdd a all droi'n annifyr yn gyflym iawn a threiddio drwy Lywodraeth, fel y gwelwyd gan ryngweithio staff yr Adran Gwaith a Phensiynau gyda chosbedigaethau o ddydd i ddydd.
Daw hyn â mi at fy mhwynt olaf—mae'r agweddau yn parhau i fod yn amlwg, hyd yn oed yn adroddiad Llywodraeth Cymru. Nawr, gwn nad y Gweinidog ei hunan yn bersonol a ysgrifennodd yr adroddiad hwn, ond rhoddaf enghraifft fel a ganlyn. Ar dudalen 2, mae'r adroddiad yn cyfeirio at gael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr. Nawr, dyna derm gwleidyddol llwythog—dyna'r term y ceisiodd y Torïaid ei ddefnyddio i wrthweithio labelu'r polisi o dreth ar ystafell wely. Enw gwirioneddol y polisi, fel y gwelir yn y dogfennau swyddogol ar y pryd, yw'r 'tâl am danddeiliadaeth'. Ond gan ddefnyddio'r term Torïaidd yn y fan hon, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dangos cymaint y mae'r naratif am doriadau lles wedi cael ei fewnoli.
Mae hyn i gyd yn dangos bod yr iaith a ddefnyddiwn i ddisgrifio pethau yn bwysig ac anaml y bydd yn anwleidyddol, ac mae caethiwed i derminoleg a meddylfryd Whitehall yn parhau. Dyna un rheswm pam mae angen datganoli lles fel y gallwn ni ddechrau newid agweddau ac fel y gallwn ni ddod o hyd i rywfaint o drugaredd.