Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:50, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich ateb, Ddirprwy Weinidog, ac nid wyf yn anghytuno â dim a ddywedasoch. Rwyf am geisio nodi beth oedd eich asesiadau cychwynnol o'r argymhellion hynny ac efallai y gallech ymdrin â hynny. O ddarllen yr adroddiad fy hun, nodais fod yr argymhellion allweddol yn amlinellu'r angen am weithredu dros y pedwar mis nesaf. Nawr, camau i'r fargen ddinesig eu cyflawni yw'r rhain, ond tybed sut rydych chi a Llywodraeth Cymru yn mynd i gynorthwyo'r fargen ddinesig i gyflawni'r argymhellion hynny.