Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:49, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, am gyfle. Ceir cyfle pellach yn ddiweddarach gyda'r cwestiwn brys ar yr union bwnc hwn i fynd i'r afael â'r pethau hynny, felly efallai y caf roi crynodeb byr i chi a gallwn ei archwilio ychydig ymhellach.

Dyma adroddiad a gomisiynwyd ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac mae Alun Cairns a minnau'n cytuno ar y mater hwn, o leiaf. Ceir beirniadaeth o'r holl chwaraewyr yn y ddau adroddiad, ac yn hytrach nag oedi gyda hynny, credaf fod angen inni ailfeddwl a chanolbwyntio ar ble i fynd â hyn o'r fan hon. Ond mae yna amrywiaeth o argymhellion manwl defnyddiol iawn i bob ochr ynglŷn â sut y gallwn ail-raddnodi’r berthynas hon i gyflawni'r hyn yr hoffem iddi ei gyflawni.