Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:55, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ateb. Fodd bynnag, ers y cyhoeddiad ar y parc a'r safle uwch-dechnoleg fodurol, tua 18 mis yn ôl, nid oes yr un uned ddiwydiannol wedi'i hadeiladu. A wnaiff y Gweinidog roi dyddiad pendant i bobl Blaenau Gwent a Glynebwy yn awr ar gyfer dechrau gwaith, a ffrâm amser hyd yn oed ar gyfer creu swyddi ar y safle o bosibl?