Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 20 Mawrth 2019.
Gallaf. O ran menter y Cymoedd Technoleg yn gyffredinol, mae'r Dirprwy Weinidog a minnau'n gweithio agos iawn gyda'n gilydd i sicrhau bod y ganolfan ecsbloetio ddigidol genedlaethol yn cael ei datblygu mor gyflym ag y bo modd, ein bod yn denu mwy o gwmnïau technoleg fodurol yn arbennig i mewn i'r ardal, a'n bod yn defnyddio'r £100 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer menter y Cymoedd Technoleg er lles gorau'r ardal.