Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 20 Mawrth 2019.
Diolch, Lywydd. Y mis diwethaf, comisiynwyd Actica Consulting gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd i gynnal adolygiad cyflym dan arweiniad annibynnol o drefniadau ar gyfer darparu bargen ddinesig bae Abertawe, gwerth £1.3 biliwn. Rwy'n troi fy mhen yn awr at y Dirprwy Weinidog gan y gallaf weld mai dyna'r ffordd y mae'r drafodaeth yn mynd. Gwnaeth yr adroddiad saith argymhelliad i wella'r gallu i gyflawni canlyniadau'r fargen, a tybed, Ddirprwy Weinidog, a allech ddarparu crynodeb o'ch asesiad o ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.