Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 20 Mawrth 2019.
Rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod ein bod wedi defnyddio data ffonau symudol i lywio gwaith modelu trafnidiaeth. Rydym wedi comisiynu Trafnidiaeth Cymru i ddarparu diweddariad i'r data blaenorol, i ategu ffynonellau eraill, megis data tagfeydd, llif traffig a niferoedd teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus, a bydd hyn yn gymorth inni ddeall patrymau teithio a datblygu ymyriadau amlfoddol ledled de Cymru, a thu hwnt yn wir.