Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 20 Mawrth 2019.
Mae hynny'n ddiddorol iawn, ac rwy'n falch iawn o glywed ein bod yn defnyddio'r data sydd ar gael i olrhain yr anghenion trafnidiaeth yn y dyfodol ar gyfer yr ardal i'r dwyrain o Gaerdydd, rhwng Caerdydd a Chasnewydd, oherwydd yn amlwg, rydym yn wynebu problem fawr o ran tagfeydd yn y ddwy ddinas, ac ar hyn o bryd, ceir bwlch yn y map metro i'r gogledd-ddwyrain a'r dwyrain o Gaerdydd lle mae'n amlwg y bydd angen darpariaeth arnom yn y dyfodol. Ac yn eich ateb i Leanne Wood, dywedasoch, yn amlwg, fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud hyn. Felly, ar ôl cael yr holl ddata pwysig hwn o'r ffonau symudol, sut yn union rydych yn ei ddefnyddio i gomisiynu gwaith gan Trafnidiaeth Cymru a prifddinas-ranbarth Caerdydd i roi'r drafnidiaeth sydd ei hangen arnom ar waith ar unwaith i gael pobl allan o'u ceir, fel nad ydynt yn gwenwyno pob un ohonom â llygredd aer?