11. Dadl Fer: Brwydro dros Wasanaethau'r Dyfodol — Yr achos dros warchod gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 6:38, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch unwaith eto o fanteisio ar y cyfle i godi mater diogelu gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yn y Siambr hon, ac rwy'n hapus i roi munud o fy amser i Helen Mary Jones.

Rwy'n siŵr na fydd pwnc fy nadl fer yn sioc fawr i Lywodraeth Cymru, gan fy mod wedi codi'r mater penodol hwn ar sawl achlysur, nid yn unig yn y Cynulliad hwn, ond mewn Cynulliadau blaenorol hefyd. Fodd bynnag, rwy'n gwrthod ymddiheuro am godi'r mater allweddol hwn unwaith eto, gan ei fod yn dal i fod yn brif flaenoriaeth i fy etholwyr, sy'n wynebu bygythiad yn barhaol i'w gwasanaethau iechyd hanfodol.

Nawr, er mwyn sicrhau bod yr Aelodau'n gwybod lle mae pethau arni, yn y blynyddoedd diwethaf mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cychwyn ar agenda ganoli ddidostur mewn perthynas â darparu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru, ac o ganlyniad i'r agenda honno, mae gwasanaethau wedi parhau i lithro i ffwrdd o ysbyty Llwynhelyg yn fy etholaeth ac i symud tua'r dwyrain i ysbyty Glangwili. Fel y mae pawb ohonom yn gwybod, lansiodd y bwrdd iechyd ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau a phenderfynu ar ffordd ymlaen a fyddai i bob pwrpas yn golygu bod ysbyty Llwynhelyg yn colli statws ysbyty cyffredinol ddydd a nos ac yn cael ei ailbwrpasu, a byddai ysbyty cyffredinol newydd yn cael ei adeiladu rhywle rhwng Arberth a Sanclêr i ddarparu gwasanaeth damweiniau ac achosion brys, gofal arbenigol, gofal brys a gofal wedi'i gynllunio. Ar y pryd, dywedodd Steve Moore, prif weithredwr y bwrdd iechyd, fod hyn, ac rwy'n dyfynnu,  yn cynnig y cyfle gorau posibl inni ymdrin â natur fregus ein GIG ac yn darparu gofal diogel ac effeithiol i'r boblogaeth a fyddai'n ateb eu hanghenion.