Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 20 Mawrth 2019.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ac yn wir, fe fyddai Brexit 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru, a dyna un o'r rhesymau pam y byddaf yn falch o orymdeithio ddydd Sadwrn dros bleidlais y bobl, i geisio atal trychineb pellach. [Torri ar draws.] Na, na; pleidlais y bobl ar fargen Brexit, gydag opsiwn i aros.
Fel y gwyddoch, un o fy mhrif bryderon mewn perthynas â Brexit yw'r effaith ar y cannoedd lawer o'n swyddi modurol yn Nhorfaen, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai'r dewis gorau inni er mwyn diogelu'r swyddi modurol hynny yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, rwy'n deall wrth gwrs ei bod yn ddoeth paratoi ar gyfer 'dim bargen'. Felly, gyda hynny mewn golwg, a gaf fi ofyn pa gamau penodol rydych wedi bod yn eu cymryd fel Llywodraeth nid yn unig i weithio gyda Ford a Nissan a'u tebyg, ond i weithio gyda chwmnïau, fel y rhai yn fy etholaeth i, sy'n gweithio'n galed iawn i gynhyrchu rhannau ar gyfer ein cwmnïau modurol ar draws yr Undeb Ewropeaidd?