Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 20 Mawrth 2019.
Byddai Brexit 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru, ond rydym yn gweithio hyd eithaf ein gallu ar barodrwydd, gan adeiladu ar y trefniadau a adroddwyd i'r Cynulliad ar 22 Ionawr. Mae hyn yn cynnwys cymorth i sefydliadau o'r gronfa bontio Ewropeaidd, gyda'r £1.7 miliwn yn ychwanegol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer cydnerthedd busnes.