2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2019.
2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit heb gytundeb? OAQ53629
Byddai Brexit 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru, ond rydym yn gweithio hyd eithaf ein gallu ar barodrwydd, gan adeiladu ar y trefniadau a adroddwyd i'r Cynulliad ar 22 Ionawr. Mae hyn yn cynnwys cymorth i sefydliadau o'r gronfa bontio Ewropeaidd, gyda'r £1.7 miliwn yn ychwanegol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer cydnerthedd busnes.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ac yn wir, fe fyddai Brexit 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru, a dyna un o'r rhesymau pam y byddaf yn falch o orymdeithio ddydd Sadwrn dros bleidlais y bobl, i geisio atal trychineb pellach. [Torri ar draws.] Na, na; pleidlais y bobl ar fargen Brexit, gydag opsiwn i aros.
Fel y gwyddoch, un o fy mhrif bryderon mewn perthynas â Brexit yw'r effaith ar y cannoedd lawer o'n swyddi modurol yn Nhorfaen, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai'r dewis gorau inni er mwyn diogelu'r swyddi modurol hynny yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, rwy'n deall wrth gwrs ei bod yn ddoeth paratoi ar gyfer 'dim bargen'. Felly, gyda hynny mewn golwg, a gaf fi ofyn pa gamau penodol rydych wedi bod yn eu cymryd fel Llywodraeth nid yn unig i weithio gyda Ford a Nissan a'u tebyg, ond i weithio gyda chwmnïau, fel y rhai yn fy etholaeth i, sy'n gweithio'n galed iawn i gynhyrchu rhannau ar gyfer ein cwmnïau modurol ar draws yr Undeb Ewropeaidd?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol. Mae wedi codi'r mater hwn gyda mi sawl gwaith yn y Siambr. Gwn pa mor hanfodol yw'r sector modurol yn ei hetholaeth ac mewn rhannau eraill o Gymru. Ceir llif cyson iawn o gyfathrebu—cyfathrebu dwy ffordd—rhwng Llywodraeth Cymru, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a swyddogion gyda chwmnïau sy'n gynhyrchwyr ceir, ond hefyd yn y cadwyni cyflenwi ledled Cymru. Fe fydd yn gwybod bod cyllid wedi'i ddarparu ar gyfer hyfforddiant sgiliau i rai o'r cyflogwyr mwy o faint yn y sector modurol. Manteisiais ar y cyfle mewn cyfarfod yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ar barodrwydd ledled y DU i dynnu sylw at y ffaith, er ein bod yn gweld cwmnïau, cynhyrchwyr ceir, yn Lloegr—er enghraifft, Honda yn Swindon—yn gwneud penderfyniadau i ddadfuddsoddi, caiff effaith y math hwnnw o benderfyniad ei theimlo ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru, gan nifer o'r cadwyni cyflenwi sy'n bwydo i mewn i'r cwmni hwnnw. Ac mae nifer o gwmnïau'n dibynnu'n helaeth ar y math hwnnw o gadwyn gyflenwi ar gyfer eu busnes a phroffidioldeb.
Bydd wedi sylwi bod cyhoeddiad tariffau Llywodraeth y DU yn ystod yr wythnos neu 10 diwrnod diwethaf mewn perthynas â Brexit 'dim bargen', a ddisgrifiwyd gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a llawer o undebau fel siom fawr iawn, yn amlwg yn dweud rhywbeth penodol ynglŷn â chydrannau ceir. Mewn gwirionedd, dylid canolbwyntio ar rwystrau di-dariff hefyd, fel y gall cwmnïau yng Nghymru a ledled y DU barhau i allforio cydrannau ceir mewn cadwyni cynhyrchu a chyflenwi sy'n fwyfwy cymhleth.