Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:28, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae hynny'n gamddisgrifiad llwyr o safbwynt y Gweinidog iechyd, trafodaeth y Prif Weinidog ddoe yn y Siambr a pholisi Llywodraeth Cymru, sydd, fel y dywedaf, yn hollol glir ac fe'i eglurwyd eto yn y Siambr ddoe gan y Prif Weinidog. Rydym wedi dweud yn glir iawn fod refferendwm yn un o'r opsiynau ar gyfer datrys hyn. Rydym hefyd wedi disgrifio'r math o gytundeb y credwn y dylem ei geisio, ac yn niffyg hynny, refferendwm yw'r ffordd o'i ddatrys. Rydym wedi galw am wneud paratoadau ar y sail honno. Nid oes unrhyw broblem yma; roedd y Prif Weinidog yn glir iawn ynglŷn â pholisi'r Llywodraeth ddoe.